Cyfarfodydd

P-04-380 Dewch â'n bws yn ôl! Deiseb yn erbyn diddymu’r gwasanaethau bws o ddwyrain Llanbedr Pont Steffan, Cwm-ann a Phencarreg

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 02/07/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-04-380 Dewch â'n bws yn ôl! Deiseb yn erbyn diddymu’r gwasanaethau bws o ddwyrain Llanbedr Pont Steffan, Cwm-ann a Phencarreg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb, a chytunodd yr Aelodau i’w chau yn sgîl y diffyg ymateb gan y deisebydd. 


Cyfarfod: 19/03/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-380 Dewch â'n bws yn ôl! Deiseb yn erbyn diddymu’r gwasanaethau bws o ddwyrain Llanbedr Pont Steffan, Cwm-ann a Phencarreg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i geisio barn y deisebwr am yr ohebiaeth gan y Gweinidog.


Cyfarfod: 16/10/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-380 Dewch â'n bws yn ôl! Deiseb yn erbyn diddymu’r gwasanaethau bws o ddwyrain Llanbedr Pont Steffan, Cwm-ann a Phencarreg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb hon a chytunodd i:

 

Ysgrifennu at Gyngor Sir Ceredigion i ofyn am ragor o fanylion am y Cynllun Partneriaeth Bysys o Ansawdd, sy’n gynllun statudol, ac a fydd hwn yn mynd i’r afael â’r materion a godwyd gan y deisebwr; a

Rhannu’r adborth gan y deisebwyr ar y cynllun Bwcabus gyda’r Gweinidog.

 

 


Cyfarfod: 29/05/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-04-380 Dewch â'n bws yn ôl! Deiseb yn erbyn diddymu’r gwasanaethau bws o ddwyrain Llanbedr Pont Steffan, Cwm-ann a Phencarreg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Daeth gohebiaeth i law y Pwyllgor mewn perthynas â’r ddeiseb hon, a chytunodd i:

Ysgrifennu at Arriva yn gofyn am gadarnhâd am ddyfodol y gwasanaeth presennol;

Ysgrifennu at Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn gofyn am ei barn ynghylch a yw newidiadau i ddarpariaethau gwasanaeth bws yn tanseilio hawliau pobl hŷn yn y gymuned;

Ysgrifennu at y Gweinidog yn gofyn a oes unrhyw gynlluniau ganddo i adolygu’r sefyllfa o ran darparaiaethau’r Deddfau Trafnidiaeth sy’n gwahardd gwasanaethau a gaiff eu hariannu gan arian cyhoeddus rhag gweithredu mewn ardaloedd lle maent yn cystadlu â gwasanaethau masnachol, a gofyn iddo archwilio’r gwasanaeth Bwcabus yn Sir Gaerfyrddin a Cheredigion.

 

 

 


Cyfarfod: 27/03/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-380 Dewch â'n bws yn ôl! Deiseb yn erbyn diddymu’r gwasanaethau bws o ddwyrain Llanbedr Pont Steffan, Cwm-ann a Phencarreg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried y ddeiseb hon am y tro cyntaf.

 

Camau i’w cymryd

Cytunodd y Pwyllgor:

I aros am ymateb y Gweinidog i ohebiaeth y Pwyllgor am y mater;

Ysgrifennu at Trafnidiaeth Canolbarth Cymru (TraCC) am y mater.