Cyfarfodydd
P-04-379 Diwrnod Coffáu Hil-laddiad yr Armeniaid
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 15/05/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)
7 P-04-379 Diwrnod Coffáu Hil-laddiad yr Armeniaid
Dogfennau ategol:
- P-04-379 Tudalen flaen, Eitem 7 PDF 44 KB Gweld fel HTML (7/1) 6 KB
- 12.04.23 Gohebiaeth gan y Prif Weinidog i'r Cadeirydd, Eitem 7 PDF 120 KB Gweld fel HTML (7/2) 2 KB
Cofnodion:
Ystyriodd y
Pwyllgor ohebiaeth mewn cysylltiad â’r mater hwn. O ystyried yr ohebiaeth hon a’r
ffaith y gall Aelodau unigol gyflwyno dadl a arweinir gan Aelod ar y mater os
ydynt yn dymuno, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at yr Aelodau a lofnododd y
Datganiad Barn ar y pwnc hwn a chau’r ddeiseb.
Cyfarfod: 27/03/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
3 P-04-379 Diwrnod Coffáu Hil-laddiad yr Armeniaid
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
Bu’r Pwyllgor yn ystyried y ddeiseb hon am y tro cyntaf.
Datganodd y Cadeirydd fuddiant yn y mater gan ei fod wedi llofnodi Datganiad Barn Ysgrifenedig am y pwnc.
Cam i’w gymryd
Cytunodd y Pwyllgor i aros am ymateb y Prif Weinidog i ohebiaeth y Pwyllgor am y mater.