Cyfarfodydd

Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru: Cynnydd o ran cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 03/10/2013 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 9)

Safon Ansawdd Tai Cymru: Trafodaeth yr Aelodau ar yr ohebiaeth gan Lywodraeth Cymru

PAC(4)-25-13 (papur 7)

PAC(4)-25-13 (papur 8)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.1 Nododd yr Aelodau yr ohebiaeth a gafwyd gan y Llywodraeth. Dywedodd yr Archwilydd Cyffredinol wrth y Pwyllgor fod ei swyddfa yn bwriadu gwneud gwaith yn y maes hwn yn ystod y flwyddyn ariannol gyfredol.

 


Cyfarfod: 25/06/2013 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Cynnydd o ran cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru - Y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru

 

Llywodraeth Cymru

 

PAC(4) 19-13 – Papur 1

Gareth Jones, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Dyfodol Cynaliadwy, Llywodraeth Cymru

Kath Palmer, Dirprwy Gyfarwyddwr Cartrefi a Lleoedd, Llywodraeth Cymru

Lisa Dobbins, Safonau Ansawdd Tai, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd Gareth Jones, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Dyfodol Cynaliadwy, Llywodraeth Cymru; Kath Palmer, Dirprwy Gyfarwyddwr Cartrefi a Lleoedd, Llywodraeth Cymru; a Lisa Dobbins, y Tîm Ansawdd Tai, Llywodraeth Cymru.

 

2.2 Fe wnaeth y Pwyllgor waith craffu ar y tystion.

 

Camau i’w cymryd:

 

Cytunodd Llywodraeth Cymru i ddarparu:

 

·         nodyn ar gylch gorchwyl y Tasglu Gweinidogol a sefydlwyd i fynd i’r afael â’r cynnydd o ran cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru, gan gynnwys rhestr o’i aelodaeth.

·         nodyn ar argymhellion yr adolygiad o’r fframwaith rheoleiddio gan Fwrdd Rheoleiddiol Cymru, gan gynnwys manylion am sut mae hynny’n mynd i’r afael â gweithredu’r argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor yn ei adroddiad.

·         Astudiaethau achos o arfer da o ganlyniad i waith a wnaed gan y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Fanteision Cymunedol.


Cyfarfod: 25/06/2013 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

Trafod y dystiolaeth am y cynnydd o ran cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf a gafwyd gan Lywodraeth Cymru am y cynnydd wrth weithredu Safon Ansawdd Tai Cymru.

 

7.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru.


Cyfarfod: 18/04/2013 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Ystyried cyngor gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar adroddiad y Pwyllgor 'Cynnydd o ran cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru'

PAC(4) 10-13 Papur 1 – Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor

 

PAC(4) 10-13 Papur 2 – Cyngor gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar ymateb Llywodraeth Cymru

 

PAC(4) 10-13 Papur 3 -  Y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru am Safon Ansawdd Tai Cymru - 11 Gorffennaf 2013

 

PAC(4) 10-13 Papur 4 – Gohebiaeth gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar y cynnydd wrth weithredu Safon Ansawdd Tai Cymru – 9 Tachwedd 2012

 

PAC(4) 10-13 Papur 5 -  Y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru am Safon Ansawdd Tai Cymru (argymhelliad 11) – 24 Ionawr 2013

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Jocelyn Davies declared an interest as the former Deputy Minister for Housing and did not participate in the discussions.

 

2.2 The Chair invited the Auditor General for Wales to advise the Committee on the Welsh Government’s response to the report ‘Progress in delivering the Welsh Housing Quality Standard’.

 

2.3 Members discussed the advice and agreed to take further evidence from the Welsh Government, including written evidence.


Cyfarfod: 14/11/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4.)

Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, ‘Cynnydd o ran cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru’

 

NDM5089 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar y Cynnydd o ran cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Medi 2012.

 

Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Tachwedd 2012.

 

Dogfennau ategol:
Adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

Ymateb Llywodraeth Cymru

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.14

 

NDM5089 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar y Cynnydd o ran cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Medi 2012.

 

Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Tachwedd 2012.

 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


Cyfarfod: 17/07/2012 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

Trafod yr adroddiad drafft 'Cynnydd o ran cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru'

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor adroddiad i’r ymchwiliad, ‘Cynnydd o ran cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru’, a fyddai’n cael ei ystyried ymhellach dros e-bost, a chytunodd ar yr adroddiad.


Cyfarfod: 10/07/2012 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

Trafod yr adroddiad drafft 'Cynnydd o ran cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru'

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ‘Cynnydd o ran cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru’ a chytunodd i’w ystyried ymhellach yn ei gyfarfod ar 17 Gorffennaf 2012.


Cyfarfod: 03/07/2012 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

Cynnydd o ran cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru - themâu allweddol a materion sy'n dod i'r amlwg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod y themâu allweddol a’r materion sy’n dod i’r amlwg o’i ymchwiliad i Gynnydd o ran cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru.

 

5.2 Cytunodd y Pwyllgor i drafod adroddiad drafft yn ei gyfarfod ar 10 Gorffennaf 2012.


Cyfarfod: 24/04/2012 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Cynnydd o ran cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru - Tystiolaeth gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Sefydliad Tai Siartredig Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Croesawodd y Cadeirydd y tystion Keith Edwards, Cyfarwyddwr Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, CiH Cymru; Elin Jones, Rheolwr Tai ac Adfywio, CiH Cymru; Victoria Hiscocks, Rheolwr Polisi a Materion Cyhoeddus, CiH Cymru; Sue Finch, Swyddog Polisi Tai, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru; Tony Jaques, Pennaeth Gwasanaethau Tai CyhoeddusCyngor Bro Morgannwg; a Robin Staines, Pennaeth Gwasanaethau Tai – Cyngor Sir Caerfyrddin.

4.2 Bu’r Aelodau yn holi’r tystion.


Cyfarfod: 20/03/2012 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Cynnydd o ran cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru - Tystiolaeth gan Lywodraeth Cymru

 

PAC(4)-05-12  : Llywodraeth Cymru – Cynnydd o ran cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru

 

Kath Palmer, Dirprwy Gyfarwyddwr Tai

Gareth Jones, Cyfarwyddwr Cyffredinol Dros Dro, Dyfodol Cynaliadwy

Brian Gould, Pennaeth Safonau Ansawdd Tai

 

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd Kath Palmer, Dirprwy Gyfarwyddwr y Gyfarwyddiaeth Dai; Gareth Jones, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Dyfodol Cynaliadwy; a Paul Davies, Swyddog Safon Ansawdd Tai Cymru a Chynaliadwyedd, i’r cyfarfod.   

 

2.2 Bu’r Aelodau’n holi’r tystion.

 

2.3 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru gyda chwestiynau nas gofynnwyd yn ystod trafodion y cyfarfod.


Cyfarfod: 20/03/2012 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

Ystyried y dystiolaeth a gafwyd ar y cynnydd o ran cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru

Cofnodion:

6.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth a gafwyd ar y cynnydd a wnaed o ran cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru.


Cyfarfod: 20/03/2012 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Cynnydd o ran cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru - Tystiolaeth gan Cartrefi Cymunedol Cymru

PAC(4) 05-12 – Papur 2 – Cartrefi Cymunedol Cymru (CHC)

 

Nick Bennett, Prif Weithredwr Grŵp Cartrefi Cymunedol Cymru

Peter Cahill, Cadeirydd Cartrefi Cymunedol Cymru a Phrif Weithredwr Tai Dinas Casnewydd

Andrew Bateson, Cadeirydd fforwm gwasanaethau technegol Cartrefi Cymunedol Cymru a Chyfarwyddwr gwasanaethau technegol Cadwyn

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Croesawodd y Cadeirydd Nick Bennett, Prif Weithredwr Grŵp Cartrefi Cymunedol Cymru; Peter Cahill, Cadeirydd Cartrefi Cymunedol Cymru a Phrif Weithredwr Tai Dinas Casnewydd; ac Andrew Bateson, Cadeirydd fforwm gwasanaethau technegol Cartrefi Cymunedol Cymru a Chyfarwyddwr gwasanaethau technegol Cadwyn

 

3.2 Bu’r Aelodau’n holi’r tystion. 


Cyfarfod: 06/03/2012 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Tystiolaeth ar adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru: Cynnydd o ran cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru

PAC(4)  04-12 – Papur 1 – Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru: Cynnydd o ran cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru

 

Gwasanaeth Ymgynghorol Cyranogiad Tenantiaid (TPAS) Cymru

John Drysdale, Cyfarwyddwr, TPAS Cymru

Amanda Oliver, Rheolwr Polisi a Chyfathrebu, TPAS Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd John Drysdale, Cyfarwyddwr, TPAS Cymru ac Amanda Oliver, Rheolwr Polisi a Chyfathrebu, TPAS Cymru.

 

2.2 Bu’r Aelodau yn holi’r tystion.


Cyfarfod: 17/01/2012 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

Ystyried yr opsiynau ar gyfer ymdrin ag adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ‘Cynnydd o ran cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru’

Cofnodion:

4.1 Bu’r Pwyllgor yn ystyried yr opsiynau ar gyfer ymdrin ag adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ‘Cynnydd o ran cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru’.


Cyfarfod: 17/01/2012 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Gwybodaeth gan Archwilydd Cyffredinol Cymru am adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar y cynnydd o ran cyrraedd safon ansawdd tai Cymru

 

PAC(4) 01-12 – Papur 1 – adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ‘Cynnydd o ran cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru’

 

Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru

Mathew Mortlock, Arbenigwr Perfformiad

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru, a Matthew Mortlock, Arbenigwr Perfformiad, i’r cyfarfod.

 

2.2 Cafodd Aelodau’r Pwyllgor eu briffio gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar adroddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru, sef Cynnydd o ran cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru.

 

2.3 Cytunodd y Pwyllgor i gynnal ymchwiliad i ganfyddiadau adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru.