Cyfarfodydd

Ymchwiliad un-dydd ar wasanaethau cadeiriau olwyn yng Nghymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 30/05/2012 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Gwasanaethau cadeiriau olwyn yng Nghymru - tystiolaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

HSC(4)-16-12 papur 1

          Lesley Griffiths AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Dr Owen Crawley, y Prif Ymgynghorydd Gwyddonol

Alison Strode, Cynghorydd Therapi Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Ymatebodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’i swyddogion i gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor am wasanaethau cadeiriau olwyn yng Nghymru.

 


Cyfarfod: 26/04/2012 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

Ymchwiliad un-dydd ar wasanaethau cadeiriau olwyn yng Nghymru - ystyried y prif faterion

Cofnodion:

5.1 Ystyriodd y Pwyllgor y prif faterion o’r ymchwiliad un-dydd i wasanaethau cadeiriau olwyn.


Cyfarfod: 08/03/2012 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

Ymchwiliad undydd i wasanaethau cadeiriau olwyn yng Nghymru - trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

4.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a oedd wedi’i chael ynghylch gwasanaethau cadeiriau olwyn yng Nghymru a chytunodd y dylai papur yn nodi’r themâu allweddol o’r dystiolaeth gael ei baratoi ar gyfer ei ystyried.


Cyfarfod: 08/03/2012 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

Ymchwiliad undydd i wasanaethau cadeiriau olwyn yng Nghymru - tystiolaeth lafar


Cyfarfod: 08/03/2012 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Safbwynt y cynllunydd

HSC(4)-09-12 papur 3

Dr Cerilan Rogers, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Arbenigol a Thrydyddol, Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru

Mr Daniel Phillips, Cadeirydd, Bwrdd Partneriaeth Gwasanaeth Symudedd ac Ystum Corff Cymru Gyfan

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.5 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor ynghylch gwasanaethau cadeiriau olwyn yng Nghymru.

 

2.6 Cytunodd Dr Rogers i ddarparu gwybodaeth bellach er mwyn egluro’r amserlen o ran cynllunio a darparu manyleb gwasanaethau o safbwynt Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru / Bwrdd Partneriaeth Gwasanaeth Symudedd ac Ystum Corff Cymru Gyfan.

 

 


Cyfarfod: 08/03/2012 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Safbwynt darparwr y GIG

HSC(4)-09-12 papur 1

Helen Hortop, Pennaeth y Gwasanaeth Aelodau Artiffisial a Chyfarpar, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

Fiona Jenkins, Cyfarwyddwr Gweithredol y Gwyddorau Therapïau ac Iechyd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

Andrew Lloyd, Pennaeth Ansawdd a TG, Y Gwasanaeth Aelodau Artiffisial a Chyfarpar, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

 

HSC(4)-09-12 papur 2

Dr Maire Doran, Gwasanaeth Aelodau Artiffisial a Chyfarpar Gogledd Cymru

Gareth Evans, Cyfarwyddwr Clinigol Perfformiad a Gwella, Canllawiau Ymarfer Clinigol Therapïau a Chymorth Clinigol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor ynghylch gwasanaethau cadeiriau olwyn yng Nghymru.

 

2.2 Cytunodd Dr Doran i ddarparu’r wybodaeth ychwanegol a ganlyn ar gais y Pwyllgor:

 

·         Diffiniad o ‘atgyweirio’ (fel y cyfeiriwyd ato yn ystod y drafodaeth ynghylch llwyddiant yr atgyweiriwr cymeradwy o ran cyrraedd targedau);

·         Ei barn ynghylch y llwybr ar gyfer datblygu gwasanaethau yng ngogledd Cymru dros y 12 mis nesaf;

·         Copi o’r llythyr dyrannu a gafwyd gan Lywodraeth Cymru ar ôl gwrthod cais gwasanaeth gogledd Cymru am adnoddau i gefnogi gwasanaethau i oedolion.

 

2.3 Cytunodd Mr Lloyd i ddarparu copi drafft o’r broses gyfeirio newydd sy’n cael ei datblygu gan Wasanaeth Aelodau Artiffisial a Chyfarpar de Cymru.

 

2.4 Cytunodd y tystion i gyflwyno eu barn ynghylch y tri maes allweddol lle mae angen cynnydd pellach mewn gwasanaethau cadeiriau olwyn yng Nghymru.

 


Cyfarfod: 08/03/2012 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Safbwynt y darparwr elusennol

HSC(4)-08-12 papur 7

          Jeff Collins, Cyfarwyddwr – Cymru, Y Groes Goch Brydeinig

Nicola Wannell, Rheolwr Datblygu Gwasanaethau (De Ddwyrain Cymru), Y Groes Goch Brydeinig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.3 Atebodd y tystion gwestiynau gan aelodau’r cyhoedd ar wasanaethau cadeiriau olwyn yng Nghymru.

 


Cyfarfod: 08/03/2012 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Safbwynt yr ymarferydd

HSC(4)-08-12 papur 5

Philippa Ford, Swyddog polisi dros Gymru, Cymdeithas Siartredig Ffisiotherapi Cymru

Ruth Jones, Cymdeithas Siartredig Ffisiotherapi Cymru

 

 

HSC(4)-08-12 papur 6

Sandra Morgan, Coleg y Therapyddion Galwedigaethol Cymru

Ellis Peters, Coleg y Therapyddion Galwedigaethol Cymru

 

 

Egwyl 11.00 – 11.10

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.2 Atebodd y tystion gwestiynau gan aelodau’r cyhoedd ar wasanaethau cadeiriau olwyn yng Nghymru.

 


Cyfarfod: 08/03/2012 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Safbwynt y defnyddiwr

HSC(4)-08-12 papur 2

Joseph Carter, Cadeirydd, Cyngor Niwrolegol Cymru 

 

HSC(4)-08-12 papur 3

          Keith Bowen, Rheolwr, Cyswllt Teulu Cymru

 

HSC(4)-08-12 papur 4

          Matt O’Grady, Uwch Swyddog Polisi ac Ymgyrchu, Scope Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Atebodd y tystion gwestiynau gan aelodau’r cyhoedd ar wasanaethau cadeiriau olwyn yng Nghymru.

 


Cyfarfod: 08/03/2012 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Ymchwiliad undydd i wasanaethau cadeiriau olwyn yng Nghymru - tystiolaeth lafar

HSC(4)-08-12 paper 1 – Y diweddaraf gan Lywodraeth Cymru

Dogfennau ategol: