Cyfarfodydd

Cydsyniad Deddfwriaethol: Diwygio Lles a Gwaith

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 06/02/2012 - Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4.1)

4.1 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol mewn perthynas â'r Bil Diwygio Lles

Papurau:

CLA(4)-03-12 (p1) – Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc at y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol, dyddiedig 12 Ionawr 2012

CLA(4)-03-12 (p1) – Atodiad 1

CLA(4)-03-12 (p1) – Atodiad 2

CLA(4)-03-12 (p2) – Ymateb y Dirprwy Weinidog, dyddiedig 16 Ionawr 2012

CLA(4)-03-12 (p3) – Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc at Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol dyddiedig 23 Ionawr 2012

CLA(4)-03-12 (p3) – Atodiad 1

 

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 24/01/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6.)

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diwygio Lles

NDM4888 Gwenda Thomas (Castell Nedd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â Rheol Sefydlog 29.6 yn cytuno y dylai Senedd y Deyrnas Unedig ystyried y darpariaethau pellach y cyfeirir atynt yn y Bil Diwygio Lles sy’n ymwneud â’r Comisiwn Symudedd Cymdeithasol a Thlodi Plant, yn ogystal â’r darpariaethau y cyfeirir atynt yng nghynnig NDM 4713, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Dogfennau Ategol
Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Ionawr 2012 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii).

I weld copi o’r Mesur Seneddol Lleoliaeth i:
http://services.parliament.uk/bills/2010-11/welfarereform.html

Adroddiad y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc


 

Penderfyniad:

 

Dechreuodd yr eitem am 16.10

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


Cyfarfod: 18/01/2012 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diwygio Lles

Cofnodion:

5.1 Ystyriodd y Pwyllgor yr ymateb gan y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol a chytunodd i baratoi a chyflwyno adroddiad byr erbyn 20 Ionawr.