Cyfarfodydd
NDM7480 Plaid Cymru debate - Covid special support areas
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 18/11/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 8)
- Gweddarllediad ar gyfer 18/11/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 18/11/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl Plaid Cymru - Ardaloedd cymorth arbennig COVID-19
NDM7480 Sian
Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi lefelau uchel
parhaus cyfraddau heintio COVID-19 yng nghymoedd y de, gydag ardaloedd o
fyrddau iechyd Cwm Taf Morgannwg ac Aneurin Bevan yn profi rhai o'r cyfraddau
uchaf yn y DU.
2. Yn nodi'r ymchwil a
gynhaliwyd yn Lloegr sy'n dangos bod effeithiau'r pandemig wedi cael effaith
anghymesur ar gymunedau ôl-ddiwydiannol yng ngogledd Lloegr ac wedi gwaethygu
gwahaniaethau rhanbarthol hirsefydlog y wladwriaeth Brydeinig.
3. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i ddynodi ardaloedd lle mae cyfraddau heintio COVID-19 yn uwch
yn ardaloedd cymorth arbennig COVID i fod yn gymwys i gael mesurau cymorth
ychwanegol a fyddai'n cynnwys:
a) cymorth ychwanegol
i'r rhai sy'n agored i niwed o safbwynt clinigol ac na allant weithio gartref;
b) cynyddu'r grant
hunanynysu i £800;
c) adnoddau ychwanegol
ar gyfer timau profi ac olrhain ac awdurdodau lleol;
d) llety gwirfoddol
ychwanegol i'r rhai nad ydynt yn gallu hunanynysu'n ddiogel gartref;
e) mwy o brofion i
ganfod achosion asymptomatig;
f) blaenoriaeth ar
gyfer rhaglenni profi torfol a chyflwyno unrhyw frechlyn yn gynnar;
g) cryfhau ymgyrchoedd
cyfathrebu cyhoeddus lleol i'w gwneud yn haws i gadw at ganllawiau iechyd y
cyhoedd:
h) adnoddau ychwanegol
ar gyfer wardeiniaid COVID lleol ar gyfer awdurdodau lleol a hyrwyddwyr
cymunedol COVID i ailadrodd negeseuon atal COVID cenedlaethol;
i) mesurau
amddiffynnol ychwanegol mewn ysgolion ac ar gludiant i'r ysgol, gan gynnwys
gwisgo masgiau mewn ystafelloedd dosbarth;
j) adnoddau ychwanegol
ar gyfer gofal plant diogel a fforddiadwy;
k) mesurau ychwanegol
i liniaru'r rhaniad digidol a tharfu ar addysg;
l) mwy o gefnogaeth i
fusnesau a phobl hunangyflogedig sy'n dewis rhoi'r gorau i fasnachu'n wirfoddol
dros dro;
m) gorchmynion
gwasgaru yng nghanol trefi ar ôl cau tafarndai.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Gareth
Bennett (Canol De Cymru)
Dileu popeth a rhoi yn
ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod
ardaloedd sy'n parhau i fod â nifer fawr o achosion o COVID-19 wedi elwa o'r
cymorth ariannol o £5 biliwn a roddwyd i Gymru yn ystod pandemig COVID-19 gan
Lywodraeth y DU.
2. Yn gresynu at y
ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi ymgymryd â strategaeth COVID-19 sy'n wahanol
i'r strategaeth gan Lywodraeth y DU yn gyson ac nad yw hyn wedi helpu'r
cyfraddau heintio uchel parhaus sy'n gyffredin yng nghymoedd y de.
3. Yn credu mai'r
ymateb gorau i gynorthwyo'r ardaloedd yr effeithiwyd arnynt fwyaf gan COVID-19
yng Nghymru yw drwy gael ymateb unedig yn y DU, dan arweiniad Llywodraeth y DU.
Cyd-gyflwynwr
[Os derbynnir gwelliant
1, bydd gwelliannau 2, 3 a 4 yn cael eu dad-ddethol.]
Gwelliant 2 Rebecca
Evans (Gwyr)
Dileu pwynt 1 a rhoi
yn ei le:
Yn nodi bod
Llywodraeth Cymru’n cadw llygad yn barhaus ar lefelau cyfraddau heintio
COVID-19 ar draws Cymru, o ystyried bod y cyfraddau heintio yn uchel mewn rhai
ardaloedd.
Gwelliant 3 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu popeth ar ôl
pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn croesawu'r lefelau
hanesyddol o gyllid gan Lywodraeth Ei Mawrhydi i holl ranbarthau a chenhedloedd
y DU, gan gynnwys yr ardaloedd hynny sydd â chyfraddau heintio uchel, i fynd
i'r afael â pandemig COVID-19, yn enwedig y £5 biliwn o arian ychwanegol a
roddwyd i Lywodraeth Cymru.
Yn credu y dylid rhoi
mesurau cymorth ychwanegol ar waith yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf yn
sgil adroddiadau yn y cyfryngau bod o leiaf 9,000 o gleifion wedi bod yn aros
am fwy na blwyddyn am driniaeth gan y GIG ym mis Medi yn yr ardal honno, gydag
amseroedd aros i fod i gynyddu ymhellach yn dilyn effaith COVID-19.
Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i ddarparu'r canlynol mewn perthynas ag ardaloedd lle mae cyfraddau
heintio COVID-19 yn uwch, yn ogystal ag ardaloedd eraill ledled Cymru:
a) targedu ardaloedd
lle mae cyfraddau heintio COVID-19 yn uwch yng Nghymru, gan gynnwys cyfyngiadau
call wedi'u targedu lle y bo'n briodol;
b) cynyddu'r nifer o
ysbytai sy'n rhydd o COVID a chyfleusterau ysbyty dros dro a gaiff eu cyflwyno
er mwyn lleddfu'r pwysau ar y system gofal iechyd a mynd i'r afael â rhestrau
aros;
c) targedu profion
mewn ardaloedd lle ceir problemau a chyflwyno sgrinio asymptomatig ddwywaith yr
wythnos ar gyfer yr holl staff sy'n wynebu cleifion yn y GIG yng Nghymru a'r
sector gofal cymdeithasol;
d) comisiynu
ymchwiliad brys i farwolaethau a heintiau sy'n gysylltiedig ag achosion a gaiff
eu trosglwyddo mewn ysbytai;
e) cyflwyno pecyn
cymorth tosturiol i'r rhai sydd fwyaf agored i niwed gan y coronafeirws yng
Nghymru;
f) ôl-ddyddio taliadau
hunanynysu yng Nghymru hyd at 28 Medi er mwyn sicrhau chwarae teg gyda rhannau
eraill o'r DU;
g) dyrannu gweddill yr
arian nas gwariwyd a ddarparwyd gan Lywodraeth Ei Mawrhydi i fynd i'r afael â'r
coronafeirws.
[Os derbynnir
gwelliant 3, bydd gwelliant 4 yn cael ei ddad-ddethol.]
Gwelliant 4 Rebecca
Evans (Gwyr)
Dileu pwynt 3 a rhoi
yn ei le:
Yn nodi bod
Llywodraeth Cymru wedi rhoi ystod eang o fesurau cymorth cenedlaethol ar waith
i ymateb i’r pandemig COVID-19, gyda’r nod o gynorthwyo’r ardaloedd hynny lle
mae cyfraddau heintio COVID-19 yn uchel yn ogystal ag ardaloedd eraill yng
Nghymru, gan gynnwys:
a) cynyddu’r gallu i
brofi ac olrhain cysylltiadau a chyflwyno dewisiadau profi newydd;
b) cyllid a chymorth
ychwanegol i awdurdodau lleol;
c) ymgyrchoedd helaeth
i roi gwybodaeth i’r cyhoedd ar draws sianelau’r cyfryngau a’r cyfryngau
cymdeithasol;
d) cymorth i ailagor
ysgolion a sefydliadau addysg eraill yn ddiogel;
e) cyllid ar gyfer
adferiad economaidd ac ar gyfer busnesau yng Nghymru;
f)
taliad hunanynysu o £500.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 17.00
Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM7480 Sian Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi lefelau uchel parhaus cyfraddau heintio COVID-19 yng nghymoedd
y de, gydag ardaloedd o fyrddau iechyd Cwm Taf Morgannwg ac Aneurin Bevan yn
profi rhai o'r cyfraddau uchaf yn y DU.
2. Yn nodi'r ymchwil a gynhaliwyd yn Lloegr sy'n dangos bod effeithiau'r
pandemig wedi cael effaith anghymesur ar gymunedau ôl-ddiwydiannol yng ngogledd
Lloegr ac wedi gwaethygu gwahaniaethau rhanbarthol hirsefydlog y wladwriaeth
Brydeinig.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddynodi ardaloedd lle mae cyfraddau
heintio COVID-19 yn uwch yn ardaloedd cymorth arbennig COVID i fod yn gymwys i
gael mesurau cymorth ychwanegol a fyddai'n cynnwys:
a) cymorth ychwanegol i'r rhai sy'n agored i niwed o safbwynt clinigol ac
na allant weithio gartref;
b) cynyddu'r grant hunanynysu i £800;
c) adnoddau ychwanegol ar gyfer timau profi ac olrhain ac awdurdodau
lleol;
d) llety gwirfoddol ychwanegol i'r rhai nad ydynt yn gallu hunanynysu'n
ddiogel gartref;
e) mwy o brofion i ganfod achosion asymptomatig;
f) blaenoriaeth ar gyfer rhaglenni profi torfol a chyflwyno unrhyw
frechlyn yn gynnar;
g) cryfhau ymgyrchoedd cyfathrebu cyhoeddus lleol i'w gwneud yn haws i
gadw at ganllawiau iechyd y cyhoedd:
h) adnoddau ychwanegol ar gyfer wardeiniaid COVID lleol ar gyfer
awdurdodau lleol a hyrwyddwyr cymunedol COVID i ailadrodd negeseuon atal COVID
cenedlaethol;
i) mesurau amddiffynnol ychwanegol mewn ysgolion ac ar gludiant i'r ysgol,
gan gynnwys gwisgo masgiau mewn ystafelloedd dosbarth;
j) adnoddau ychwanegol ar gyfer gofal plant diogel a fforddiadwy;
k) mesurau ychwanegol i liniaru'r rhaniad digidol a tharfu ar addysg;
l) mwy o gefnogaeth i fusnesau a phobl hunangyflogedig sy'n dewis rhoi'r
gorau i fasnachu'n wirfoddol dros dro;
m) gorchmynion gwasgaru yng nghanol trefi ar ôl cau tafarndai.
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
12 |
4 |
39 |
55 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Gareth Bennett (Canol De
Cymru)
Dileu popeth a rhoi yn
ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod ardaloedd
sy'n parhau i fod â nifer fawr o achosion o COVID-19 wedi elwa o'r cymorth
ariannol o £5 biliwn a roddwyd i Gymru yn ystod pandemig COVID-19 gan
Lywodraeth y DU.
2. Yn gresynu at y
ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi ymgymryd â strategaeth COVID-19 sy'n wahanol
i'r strategaeth gan Lywodraeth y DU yn gyson ac nad yw hyn wedi helpu'r
cyfraddau heintio uchel parhaus sy'n gyffredin yng nghymoedd y de.
3. Yn credu mai'r ymateb
gorau i gynorthwyo'r ardaloedd yr effeithiwyd arnynt fwyaf gan COVID-19 yng
Nghymru yw drwy gael ymateb unedig yn y DU, dan arweiniad Llywodraeth y DU.
Cyd-gyflwynwr
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
6 |
10 |
39 |
55 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 Rebecca Evans (Gwyr)
Dileu pwynt 1 a rhoi yn
ei le:
Yn nodi bod Llywodraeth Cymru’n
cadw llygad yn barhaus ar lefelau cyfraddau heintio COVID-19 ar draws Cymru, o
ystyried bod y cyfraddau heintio yn uchel mewn rhai ardaloedd.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 2:
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
32 |
0 |
23 |
55 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 Darren Millar (Gorllewin
Clwyd)
Dileu popeth ar ôl pwynt
1 a rhoi yn ei le:
Yn croesawu'r lefelau
hanesyddol o gyllid gan Lywodraeth Ei Mawrhydi i holl ranbarthau a chenhedloedd
y DU, gan gynnwys yr ardaloedd hynny sydd â chyfraddau heintio uchel, i fynd
i'r afael â pandemig COVID-19, yn enwedig y £5 biliwn o arian ychwanegol a
roddwyd i Lywodraeth Cymru.
Yn credu y dylid rhoi
mesurau cymorth ychwanegol ar waith yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf yn
sgil adroddiadau yn y cyfryngau bod o leiaf 9,000 o gleifion wedi bod yn aros
am fwy na blwyddyn am driniaeth gan y GIG ym mis Medi yn yr ardal honno, gydag
amseroedd aros i fod i gynyddu ymhellach yn dilyn effaith COVID-19.
Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i ddarparu'r canlynol mewn perthynas ag ardaloedd lle mae cyfraddau
heintio COVID-19 yn uwch, yn ogystal ag ardaloedd eraill ledled Cymru:
a) targedu ardaloedd lle
mae cyfraddau heintio COVID-19 yn uwch yng Nghymru, gan gynnwys cyfyngiadau
call wedi'u targedu lle y bo'n briodol;
b) cynyddu'r nifer o
ysbytai sy'n rhydd o COVID a chyfleusterau ysbyty dros dro a gaiff eu cyflwyno
er mwyn lleddfu'r pwysau ar y system gofal iechyd a mynd i'r afael â rhestrau
aros;
c) targedu profion mewn
ardaloedd lle ceir problemau a chyflwyno sgrinio asymptomatig ddwywaith yr
wythnos ar gyfer yr holl staff sy'n wynebu cleifion yn y GIG yng Nghymru a'r
sector gofal cymdeithasol;
d) comisiynu ymchwiliad
brys i farwolaethau a heintiau sy'n gysylltiedig ag achosion a gaiff eu
trosglwyddo mewn ysbytai;
e) cyflwyno pecyn
cymorth tosturiol i'r rhai sydd fwyaf agored i niwed gan y coronafeirws yng
Nghymru;
f) ôl-ddyddio taliadau
hunanynysu yng Nghymru hyd at 28 Medi er mwyn sicrhau chwarae teg gyda rhannau
eraill o'r DU;
g) dyrannu gweddill yr
arian nas gwariwyd a ddarparwyd gan Lywodraeth Ei Mawrhydi i fynd i'r afael â'r
coronafeirws.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 3:
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
13 |
2 |
40 |
55 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 Rebecca Evans (Gwyr)
Dileu pwynt 3 a rhoi yn
ei le:
Yn nodi bod Llywodraeth
Cymru wedi rhoi ystod eang o fesurau cymorth cenedlaethol ar waith i ymateb i’r
pandemig COVID-19, gyda’r nod o gynorthwyo’r ardaloedd hynny lle mae cyfraddau
heintio COVID-19 yn uchel yn ogystal ag ardaloedd eraill yng Nghymru, gan
gynnwys:
a) cynyddu’r gallu i
brofi ac olrhain cysylltiadau a chyflwyno dewisiadau profi newydd;
b) cyllid a chymorth
ychwanegol i awdurdodau lleol;
c) ymgyrchoedd helaeth i
roi gwybodaeth i’r cyhoedd ar draws sianelau’r cyfryngau a’r cyfryngau
cymdeithasol;
d) cymorth i ailagor
ysgolion a sefydliadau addysg eraill yn ddiogel;
e) cyllid ar gyfer
adferiad economaidd ac ar gyfer busnesau yng Nghymru;
f) taliad hunanynysu o
£500.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 4:
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
29 |
0 |
26 |
55 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Cynhaliwyd pleidlais ar y
cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM7480 Sian Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru’n cadw llygad yn barhaus ar
lefelau cyfraddau heintio COVID-19 ar draws Cymru, o ystyried bod y cyfraddau
heintio yn uchel mewn rhai ardaloedd.
2. Yn nodi'r ymchwil a gynhaliwyd yn Lloegr sy'n dangos bod effeithiau'r
pandemig wedi cael effaith anghymesur ar gymunedau ôl-ddiwydiannol yng ngogledd
Lloegr ac wedi gwaethygu gwahaniaethau rhanbarthol hirsefydlog y wladwriaeth
Brydeinig.
3. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi ystod eang o
fesurau cymorth cenedlaethol ar waith i ymateb i’r pandemig COVID-19, gyda’r
nod o gynorthwyo’r ardaloedd hynny lle mae cyfraddau heintio COVID-19 yn uchel
yn ogystal ag ardaloedd eraill yng Nghymru, gan gynnwys:
a) cynyddu’r gallu i
brofi ac olrhain cysylltiadau a chyflwyno dewisiadau profi newydd;
b) cyllid a chymorth
ychwanegol i awdurdodau lleol;
c) ymgyrchoedd helaeth i
roi gwybodaeth i’r cyhoedd ar draws sianelau’r cyfryngau a’r cyfryngau
cymdeithasol;
d) cymorth i ailagor
ysgolion a sefydliadau addysg eraill yn ddiogel;
e) cyllid ar gyfer
adferiad economaidd ac ar gyfer busnesau yng Nghymru;
f) taliad hunanynysu o
£500.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
29 |
2 |
24 |
55 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.