Cyfarfodydd

P-05-1073 Sefydlu ac adeiladu cangen newydd o Amgueddfa Cymru sy'n canolbwyntio ar ran Cymru mewn trefedigaethedd

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 01/11/2021 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-05-1073 Sefydlu ac adeiladu cangen newydd o Amgueddfa Cymru sy’n canolbwyntio ar ran Cymru mewn trefedigaethedd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Luke Fletcher AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

Mae'n adnabod y deisebydd.

 

Nododd y Pwyllgor ymateb y Gweinidogion a'r cynnydd a wnaed hyd yn hyn, a’r ffaith y bydd camau pellach yn y dyfodol. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ddiolch i'r deisebydd am y gwaith y mae wedi'i wneud i godi ymwybyddiaeth o'r materion, a chau'r ddeiseb.

 


Cyfarfod: 13/09/2021 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-05-1073 Sefydlu ac adeiladu cangen newydd o Amgueddfa Cymru sy’n canolbwyntio ar ran Cymru mewn trefedigaethedd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Luke Fletcher AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

Mae'n adnabod y deisebydd.

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law, a chytunwyd i ysgrifennu yn ôl at Lywodraeth Cymru i ofyn a fyddai’n ystyried ail-leoli archif Tiger Bay mewn lleoliad mwy hygyrch i'r cyhoedd. ac i geisio cael ymateb i'r cynnydd a wnaed o ran cydnabod a dathlu hanes pobl dduon yng Nghymru.

 


Cyfarfod: 15/12/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-1073 Sefydlu ac adeiladu cangen newydd o Amgueddfa Cymru sy’n canolbwyntio ar ran Cymru mewn trefedigaethedd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd gan Lywodraeth Cymru a chytunodd i ysgrifennu at Amgueddfa Cymru i dynnu sylw at y ddeiseb a gofyn am wybodaeth bellach am y gwaith y mae'n ei wneud mewn perthynas â'r pwnc hwn.