Cyfarfodydd

Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Gwasanaethau Ariannol

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 16/03/2021 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 27)

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Gwasanaethau Ariannol

NDM7650 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Gwasanaethau Ariannol i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Tachwedd 2020 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Bil Gwasanaethau Ariannol (Saesneg yn unig)

Dogfennau Ategol

Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau

Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.58

NDM7650 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Gwasanaethau Ariannol i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Tachwedd 2020 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Bil Gwasanaethau Ariannol (Saesneg yn unig)

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


Cyfarfod: 07/12/2020 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 10)

10 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Gwasanaethau Ariannol - trafod yr adroddiad drafft

CLA(5)-36-20 – Papur 35 – Adroddiad drafft

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil Gwasanaethau Ariannol, a hynny gan gytuno arno. Nododd y Pwyllgor y byddai’r adroddiad hwn yn cael ei osod erbyn y dyddiad cau gofynnol.

 


Cyfarfod: 02/12/2020 - Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Trafod y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Gwasanaethau Ariannol y DU

Dogfennau ategol:

  • EIS(5)-25-20- Papur2: Nodyn Cyngor Cyfreithiol

Cofnodion:

3.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol.


Cyfarfod: 23/11/2020 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 12)

12 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Gwasanaethau Ariannol - trafod materion allweddol

CLA(5)-34-20 – Papur 39 – Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol

CLA(5)-34-20 – Papur 40 – Nodyn Cyngor Cyfreithiol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y materion allweddol mewn perthynas â Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer y Bil Gwasanaethau Ariannol, a chytunodd i drafod adroddiad drafft mewn cyfarfod yn y dyfodol.