Cyfarfodydd

P-05-1068 Caniatáu cyfarfodydd ymbellhau cymdeithasol mewn gerddi preifat i ddilyn y wyddoniaeth ac osgoi teimlo'n ynysig

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 13/09/2021 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-05-1068 Caniatáu cyfarfodydd ymbellhau cymdeithasol mewn gerddi preifat i ddilyn y wyddoniaeth ac osgoi teimlo’n ynysig.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law, a nododd fod y camau y gofynnwyd amdanynt yn y ddeiseb bellach yn digwydd o dan Lefel 0. Cytunodd y Pwyllgor i ddiolch i’r deisebydd a chau’r ddeiseb. Wrth wneud hynny, cytunodd y Pwyllgor hefyd i nodi ei sylwadau ychwanegol yn ymwneud â'r broses ddeisebau, a chytunodd y bydd y Pwyllgor yn ystyried y rhain wrth iddo ddatblygu ei raglen waith.

 


Cyfarfod: 09/02/2021 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-1068 Caniatáu cyfarfodydd ymbellhau cymdeithasol mewn gerddi preifat i ddilyn y wyddoniaeth ac osgoi teimlo’n ynysig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law a chytunodd i ysgrifennu at y Prif Weinidog eto i’w annog i ystyried caniatáu i bobl ymweld ag eraill mewn gerddi mewn ymdrech i helpu’r rhai sy’n teimlo’n bod wedi’u hynysu’n gymdeithasol, a hynny cyn gynted ag y bydd y sefyllfa mewn perthynas ag achosion Covid-19 a’r rhaglen frechu’n caniatáu.

 

 


Cyfarfod: 26/01/2021 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-1068 Caniatáu cyfarfodydd ymbellhau cymdeithasol mewn gerddi preifat i ddilyn y wyddoniaeth ac osgoi teimlo’n ynysig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am sylwadau pellach gan y deisebydd, cyn ystyried a yw'n gallu cymryd unrhyw gamau pellach ynghylch y ddeiseb.