Cyfarfodydd

P-05-1064 Ymestyn y Dreth Trafodiadau Tir chwe mis arall ar ôl 31 Mawrth a chodi'r trothwy i £300,000

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 15/12/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-1064 Ymestyn y Dreth Trafodiadau Tir chwe mis arall ar ôl 31 Mawrth a chodi’r trothwy i £300,000

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i nodi’r ddeiseb a’r ymateb a gafwyd. Yng ngoleuni datganiadau clir y Gweinidog fod y trothwy wedi cael ei osod i adlewyrchu'r farchnad eiddo yng Nghymru ac nad oes cynlluniau cyfredol i ymestyn y cyfnod, daeth y Pwyllgor i'r casgliad nad oedd llawer pellach y gellid ei gyflawni ar hyn o bryd. Diolchodd y Pwyllgor i’r deisebydd am godi’r mater hwn a chaeodd y ddeiseb.