Cyfarfodydd

SICM(5)38 - Rheoliadau Ymadael â’r Undeb Ewropeaidd (Addasiadau Canlyniadol) (Ymadael â'r UE) 2020

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 17/11/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 12)

Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol ar Reoliadau Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd (Addasiadau Canlyniadol) (Ymadael â'r UE) 2020

NDM7475 Jeremy Miles (Castell-nedd)

Cynnig bod y Senedd yn cytuno, yn unol â Rheol Sefydlog 30A.10, fod yr Ysgrifennydd Gwladol yn gwneud Rheoliadau Ymadael â’r Undeb Ewropeaidd (Addasiadau Canlyniadol) (Ymadael â’r UE) 2020, yn unol â'r drafft a osodwyd (Saesneg yn unig) yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Tachwedd 2020.

Gosodwyd y Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Tachwedd 2020 yn unol â Rheol Sefydlog 30A.2.

Dogfennau Ategol

Datganiad Ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru

Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)

Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 19.28

NDM7475 Jeremy Miles (Castell-nedd)

Cynnig bod y Senedd yn cytuno, yn unol â Rheol Sefydlog 30A.10, fod yr Ysgrifennydd Gwladol yn gwneud Rheoliadau Ymadael â’r Undeb Ewropeaidd (Addasiadau Canlyniadol) (Ymadael â’r UE) 2020, yn unol â'r drafft a osodwyd (Saesneg yn unig) yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Tachwedd 2020.

Gosodwyd y Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Tachwedd 2020 yn unol â Rheol Sefydlog 30A.2.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 


Cyfarfod: 09/11/2020 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 SICM(5)38 - Rheoliadau Ymadael â’r Undeb Ewropeaidd (Addasiadau Canlyniadol) (Ymadael â'r UE) 2020

CLA(5)-32-20 – Papur 16 – Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol

CLA(5)-32-20 – Papur 17 – Rheoliadau

CLA(5)-32-20 – Papur 18 – Memorandwm Esboniadol

CLA(5)-32-20 – Papur 19 – Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, 2 Tachwedd 2020

CLA(5)-32-20 – Papur 20 – Datganiad ysgrifenedig

CLA(5)-32-20 – Papur 21 – Sylwebaeth

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol a’r sylwadau cysylltiedig. Nododd y Pwyllgor hefyd fod y Gweinidog wedi cyflwyno cynnig am ddadl. Cytunodd y Pwyllgor i gwblhau adroddiad y tu allan i'r cyfarfod a fyddai'n cael ei osod cyn y ddadl ynghylch cydsyniad.