Cyfarfodydd

Deddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) 2012

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 17/07/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5.)

Cynnig i gymeradwyo Cynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Cynulliad

 

NDM5297 Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â pharagraff 8(11)(d) o Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006:

 

Yn cymeradwyo Cynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Cynulliad, a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 10 Gorffennaf 2013.

 

Dogfennau ategol:

Cynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Cynulliad

Adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.55

NDM5297 Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â pharagraff 8(11)(d) o Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006:

Yn cymeradwyo Cynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Cynulliad, a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 10 Gorffennaf 2013.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


Cyfarfod: 03/10/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4.)

Cynnig Cyfnod 4 i gymeradwyo Bil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol), o dan Reol Sefydlog 26.47

 

Ar ddiwedd Cyfnod 3 caiff y Comisiynydd gynnig bod y Bil yn cael ei basio yn unol â Rheol Sefydlog 26.47.  Os cytunir ar y cynnig:

 

Cynnig Cyfnod 4 i gymeradwyo Bil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) o dan Reol Sefydlog 26.47.

 

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16:01

 

Ar ddiwedd Cyfnod 3, caiff y Comisiynydd gynnig bod y Bil yn cael ei basio yn unol â Rheol Sefydlog 26.47.  Os cytunir ar y cynnig:

 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 


Cyfarfod: 03/10/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3.)

Dadl Cyfnod 3 ar Fil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol), o dan Reol Sefydlog 26.44

 

Yn unol â Rheol Sefydlog 26.36, mae’r gwelliannau i gael eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn codi yn y Bil.

 

Mae’r gwelliannau wedi cael eu grwpio at ddibenion y ddadl ac fe’u trafodir yn ôl y grwpiau a ganlyn:

 

1. Cyfieithu Cofnodion o Drafodion y Cynulliad

1, 5

 

2. Cyhoeddi Cofnodion o Drafodion y Cynulliad

9

 

3.Penodi Swyddog Cyfrifol

6

 

4. Ystyr y Ddarpariaeth

2

 

5. Darpariaethau y mae’n rhaid eu cynnwys yn y Cynllun

10, 11, 12

 

6.Gwasanaethau a ddarperir o dan y Cynllun

7, 8

 

7. Ymgynghori ar y Cynllun

3, 4

 

 

Dogfennau Ategol:

 

Bil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol)

Memorandwm Esboniadol Diwygiedig

Rhestr o welliannau wedi’u didoli
Grwpio Gwelliannau
Nodyn briffio ar y Bil mewn cysylltiad â chymhwysedd deddfwriaethol, Prif Gynghorydd Cyfreithiol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

 

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15:02

 

Yn unol â Rheol Sefydlog 26.36, cafodd y gwelliannau eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn codi yn y Bil.

 

Cafodd y gwelliannau eu grwpio at ddibenion y ddadl ac fe’u trafodwyd yn ôl y grwpiau a ganlyn:

 

1. Cyfieithu Cofnodion o Drafodion y Cynulliad

1, 5

 

2. Cyhoeddi Cofnodion o Drafodion y Cynulliad

9

 

3.Penodi Swyddog Cyfrifol

6

 

4. Ystyr y Ddarpariaeth

2

 

5. Darpariaethau y mae’n rhaid eu cynnwys yn y Cynllun

10, 11, 12

 

6.Gwasanaethau a ddarperir o dan y Cynllun

7, 8

 

7. Ymgynghori ar y Cynllun

3, 4

 


Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

17

1

36

54

Gwrthodwyd gwelliant 1.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 9:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

6

0

48

54

Gwrthodwyd gwelliant 9.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

12

0

42

54

Gwrthodwyd gwelliant 5.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

22

0

32

54

Gwrthodwyd gwelliant 6.

Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd gwelliant 10 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

Derbyniwyd gwelliant 11 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 12:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

43

0

11

54

Derbyniwyd gwelliant 12.

Derbyniwyd gwelliant 7 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd gwelliant 8 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

Derbyniwyd gwelliant 3 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd
gwelliant 4 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

 

Barnwyd bod holl adrannau ac atodlenni’r Bil wedi’u derbyn, gan ddod â thrafodion Cyfnod 3 i ben.

 

 

 


Cyfarfod: 21/06/2012 - Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Bil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) - Cyfnod 2: Ystyried Gwelliannau

Papurau:     Rhestr o welliannau wedi’u didoli, 21 Mehefin 2012

                   Grwpio Gwelliannau, 21 Mehefin 2012      

 

Yn unol â Rheol Sefydlog 26.21, bydd y Pwyllgor yn gwaredu â gwelliannau i’r Bil yn y drefn a ganlyn:

 

Adrannau 1 – 3

   

Dogfennau ategol:

Rhestr o welliannau wedi’u didoli, 21 Mehefin 2012

Grwpio Gwelliannau, 21 Mehefin 2012

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Dywedodd y Cadeirydd y byddai’r Pwyllgor yn ystyried y gwelliannau yn y drefn a ganlyn:

 

Adran 1 – 3.

 

2.2 Gwaredodd y Pwyllgor y gwelliannau a ganlyn:

 

Adran 1:

 

Ni chafodd Gwelliant 1A (Suzy Davies) ei gynnig.

 

Derbyniwyd Gwelliannau 1, 2 a 3 (Rhodri Glyn Thomas), yn unol â Rheol Sefydlog 17.34 (i).

 

Adran 2:

 

Cafodd Gwelliant 11 (Bethan Jenkins) ei dynnu yn ôl, yn unol â Rheol Sefydlog 26.66 (i).

 

Gwelliant 13 (Suzy Davies):

 

O blaid

Yn erbyn

Ymatal

Janet Finch-Saunders

Mark Isherwood

Mark Drakeford

Alun Ffred Jones

Bethan Jenkins

Gwyn Price

Ken Skates

Joyce Watson

Kirsty Williams

 

0

2

7

0

Gwrthodwyd Gwelliant 13.

 

 

Gwelliant 16 (Aled Roberts):

 

O blaid

Yn erbyn

Ymatal

Mark Drakeford

Alun Ffred Jones

Bethan Jenkins

Gwyn Price

Ken Skates

Joyce Watson

Kirsty Williams

 

Janet Finch-Saunders

Mark Isherwood

0

7

2

0

Derbyniwyd Gwelliant 16.

 

 

Gwelliant 17 (Aled Roberts):

 

O blaid

Yn erbyn

Ymatal

Mark Drakeford

Alun Ffred Jones

Bethan Jenkins

Gwyn Price

Ken Skates

Joyce Watson

Kirsty Williams

 

Janet Finch-Saunders

Mark Isherwood

0

7

2

0

Derbyniwyd Gwelliant 17.

 

 

Ni chafodd Gwelliant 18 (Aled Roberts) ei gynnig.

 

 

Gwelliant 19 (Aled Roberts):

 

O blaid

Yn erbyn

Ymatal

Alun Ffred Jones

Bethan Jenkins

Kirsty Williams

 

Janet Finch-Saunders

Mark Isherwood

Mark Drakeford

Gwyn Price

Ken Skates

Joyce Watson

 

0

3

6

0

Gwrthodwyd Gwelliant 19.

 

 

Ni chafodd Gwelliannau 20 a 21 (Aled Roberts) eu cynnig.

 

Ni chafodd Gwelliant 4A (Bethan Jenkins) ei gynnig.

 

Derbyniwyd Gwelliant 4 (Rhodri Glyn Thomas), yn unol â Rheol Sefydlog 17.34 (i).

 

Ni chafodd Gwelliant 12 (Bethan Jenkins) ei gynnig.

 

Derbyniwyd Gwelliant 5 (Rhodri Glyn Thomas), yn unol â Rheol Sefydlog 17.34 (i).

 

Cafodd Gwelliant 14 (Suzy Davies), ei dynnu yn ôl yn unol â Rheol Sefydlog 26.66 (i).

 

 

Derbyniwyd Gwelliannau 6 a 7 (Rhodri Glyn Thomas), yn unol â Rheol Sefydlog 17.34 (i).

 

Cafodd Gwelliant 15 (Suzy Davies) ei dynnu yn ôl, yn unol â Rheol Sefydlog 26.66 (i).

 

Adran 3: Ni chafodd unrhyw welliannau eu cyflwyno i’r adran hon, felly penderfynwyd ei derbyn.

 

2.3 Barnwyd bod y Bil, fel y’i diwygiwyd, wedi’i dderbyn.

 

2.4 Gwnaeth y Pwyllgor gais i’r Comisiynydd baratoi Memorandwm Esboniadol diwygiedig, yn unol â Rheol Sefydlog 26.27.

 

2.5 Dywedodd y Cadeirydd wrth y Pwyllgor y byddai trafodion Cyfnod 3 yn dechrau ddydd Gwener 22 Mehefin 2012.

 

 


Cyfarfod: 22/05/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3.)

Penderfyniad Ariannol ynghylch Bil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol).

NDM4890 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o Fil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69(ii), sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.

Gosodwyd Bil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) gerbron y Cynulliad ar 30 Ionawr 2012.

Dogfen Ategol
Bil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol)

Memorandwm Esboniadol

Adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol

 

 

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 14:37

NDM4890 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o Fil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69(ii), sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.

Gosodwyd Bil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) gerbron y Cynulliad ar 30 Ionawr 2012.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 


Cyfarfod: 16/05/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4.)

Cynnig i gytuno ar egwyddorion cyffredinol Bil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol)

NDM4984 Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

 

Yn cytuno ag egwyddorion cyffredinol Bil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol).

 

Gosodwyd Bil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) a’r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 30 Ionawr 2012.

 

Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar Fil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) gerbron y Cynulliad ar 4 Mai 2012.

 

Dogfennau Ategol:

Bil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol)

Memorandwm Esboniadol

Adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15:06.

 

NDM4984 Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

 

Yn cytuno ag egwyddorion cyffredinol Bil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol).

 

Gosodwyd Bil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) a’r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 30 Ionawr 2012.

 

Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar Fil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) gerbron y Cynulliad ar 4 Mai 2012.

 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


Cyfarfod: 25/04/2012 - Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

Bil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol): Ystyried yr adroddiad drafft

Cofnodion:

 Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad drafft ar Fil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol).


Cyfarfod: 29/03/2012 - Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

Ystyried y Materion Allweddol ynghylch y Bil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Croesawodd y Cadeirydd Alun Ffred Jones i’r cyfarfod, a oedd yn dirprwyo ar ran Rhodri Glyn Thomas, ac Eluned Parrott, a oedd yn dirprwyo ar ran Peter Black, yn unol â Rheol Sefydlog 17.48.

 

5.2 Bu’r Pwyllgor yn ystyried y materion allweddol ynghylch y Bil.

 

5.2 Cafodd yr Aelodau wybod y byddai’r pwyntiau a’r argymhellion y gwnaethant awgrymu eu cynnwys yn yr adroddiad drafft, a bydd y Pwyllgor yn ystyried yr adroddiad yn ei gyfarfod nesaf ddydd Mercher 25 Ebrill.


Cyfarfod: 21/03/2012 - Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

Bil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol): Sesiwn Dystiolaeth Cyfnod 1 - Y Comisiynydd sydd â chyfrifoldeb dros yr iaith Gymraeg

Rhodri Glyn Thomas, y Comisiynydd sydd â chyfrifoldeb dros yr iaith Gymraeg

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Rhodri Glyn Thomas AC, y Comisiynydd sydd â chyfrifoldeb dros y Gymraeg.

 

2.2 Cytunodd y Comisiynydd i ddarparu gwybodaeth ychwanegol i’r Pwyllgor.


Cyfarfod: 15/03/2012 - Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Bil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol): Sesiwn Dystiolaeth Cyfnod 1 - Grwp Swyddogion Iaith

Papur 2:

David Thomas, Swyddog Polisi (Cydraddoldeb a’r Gymraeg), Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

Cath Baldwin, Swyddog Iaith, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru

Ffion Gruffudd, Swyddog Iaith, Cyngor Dinas a Sir Caerdydd

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth ynghylch y Bil gan Grŵp Swyddogion yr Iaith Gymraeg.


Cyfarfod: 15/03/2012 - Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Bil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol: Sesiwn Dystiolaeth Cyfnod 1 - Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd

Papur 1:

Dr Diarmait Mac Giolla Chriost, yr Uned Ymchwil Iaith, Polisi a Chynllunio

Dr Simon Brooks, yr Uned Ymchwil Iaith, Polisi a Chynllunio

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth ynghylch y Bil gan Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd.

 

2.2 Cytunodd Ysgol y Gymraeg i ddarparu tystiolaeth ychwanegol i’r Pwyllgor.


Cyfarfod: 07/03/2012 - Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Bil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol): Sesiwn dystiolaeth Cyfnod 1 - Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru

Papur 2

Geraint Wyn Parry, Prif Weithredwr

Berwyn Prys Jones, Cadeirydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth am y Bil gan Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru.


Cyfarfod: 07/03/2012 - Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Bil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol): Sesiwn dystiolaeth Cyfnod 1 - Cymdeithas yr Iaith

Papur 1

          Colin Nosworthy

Ceri Phillips

Osian Rhys

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth am y Bil gan Gymdeithas yr Iaith.

2.2 Cytunodd Cymdeithas yr Iaith i ddarparu gwybodaeth ymchwanegol i’r Pwyllgor.


Cyfarfod: 01/03/2012 - Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Bil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol): Sesiwn Dystiolaeth Cyfnod 1: Bwrdd yr Iaith Gymraeg

Papur 1

          Meirion Prys Jones, Prif Weithredwr 

Gwenith Price, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Strategol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg mewn perthynas â’r Bil.


Cyfarfod: 09/02/2012 - Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

Sesiwn breifat

Caiff y Pwyllgor ei wahodd i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer eitem 6 yn unol â Rheol Sefydlog 17.42(vi):

 

Caiff pwyllgor benderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod neu unrhyw ran o gyfarfod:

 

(vi) lle mae’r pwyllgor yn cyd-drafod cynnwys, casgliadau neu argymhellion adroddiad y mae’n bwriadu ei gyhoeddi; neu’n ymbaratoi i gael tystiolaeth gan unrhyw berson.

 

Cofnodion:

6.1 Penderfynodd y Pwyllgor i gwrdd yn breifat, i ystyried y dystiolaeth a ddaeth i law, yn unol â Rheol Sefydlog 17.42(vi).


Cyfarfod: 09/02/2012 - Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

Bil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (ieithoedd Swyddogol) - Sesiwn Dystiolaeth Cyfnod 1 - Comisiynydd sydd â chyfrifoldeb dros y Gymraeg

Rhodri Glyn Thomas, y Comisiynydd sydd â chyfrifoldeb dros y Gymraeg

Cofnodion:

5.1 Cafwyd ymddiheuriadau ar gyfer yr eitem hon gan Rhodri Glyn Thomas a Peter Black oherwydd eu swyddi yng Nghomisiwn y Cynulliad. Croesawodd y Cadeirydd Elin Jones, a oedd yn dirprwyo ar ran Rhodri Glyn Thomas, yn unol â Rheol Sefydlog 17.48.

 

5.2 Croesawodd y Cadeirydd Rhodri Glyn Thomas, a oedd yno i roi tystiolaeth i’r Pwyllgor yn rhinwedd ei swydd fel Comisiynydd y Cynulliad sydd â chyfrifoldeb dros y Gymraeg ac fel yr Aelod â chyfrifoldeb dros y Bil.

 

5.3 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth am y Bil.


Cyfarfod: 01/02/2012 - Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

Craffu yn ystod Cyfnod 1 Bil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol): Cytuno ar y ffordd ymlaen

Cofnodion:

2.1 Cytunodd y Pwyllgor yn ffurfiol ar y ffordd ymlaen o ran craffu ar Fil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol).