Cyfarfodydd
P-05-1059 Dylid rhoi mannau addoli mewn dosbarth hanfodol, er mwyn caniatáu i bobl fynd i eglwys yn ystod cyfnod o gyfyngiadau symud
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 01/12/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)
- Gweddarllediad ar gyfer 01/12/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 01/12/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
2 P-05-1059 Dylid rhoi mannau addoli mewn dosbarth hanfodol, er mwyn caniatáu i bobl fynd i eglwys yn ystod cyfnod o gyfyngiadau symud
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 2 PDF 211 KB Gweld fel HTML (2/1) 8 KB
- Briff Ymchwil, Eitem 2 PDF 91 KB
- 03.11.20 Gohebiaeth – Prif Weinidog Cymru at y Cadeirydd (Saesneg yn unig), Eitem 2 PDF 261 KB
- 16.11.20 Gohebiaeth – Deisebydd at y Pwyllgor (Saesneg yn unig), Eitem 2 PDF 306 KB Gweld fel HTML (2/4) 5 KB
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf, cytunodd i nodi'r
ohebiaeth a ddaeth i law a chydnabod pwysigrwydd y mater a godwyd. Fodd bynnag,
cytunodd y Pwyllgor i beidio â chymryd unrhyw gamau pellach ar y ddeiseb o
ystyried bod penderfyniadau blaenorol wedi’u cymryd i osod cyfyngiadau yn dilyn
cyngor gwyddonol ac asesiadau effaith, a bod addoldai wedi gallu agor ers
diwedd y cyfnod atal byr. Cytunodd yr Aelodau i gau’r ddeiseb a diolch i’r
deisebydd.