Cyfarfodydd

P-05-1056 Rhowch rymoedd i Awdurdodau Lleol reoli'r farchnad dai yn ardaloedd gwledig a thwristaidd Cymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 03/11/2021 - Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai (Eitem 2)

2 Llythyr gan y Pwyllgor Deisebau ynghylch Deiseb P-05-1056, 'Rhowch rymoedd i Awdurdodau Lleol reoli'r farchnad dai yn ardaloedd gwledig a thwristaidd Cymru'

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.10.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Pwyllgor Deisebau ynghylch Deiseb P-05-1056, 'Rhowch rymoedd i Awdurdodau Lleol reoli'r farchnad dai yn ardaloedd gwledig a thwristaidd Cymru' a chytunodd i ymateb iddo.

 


Cyfarfod: 04/10/2021 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-05-1056 Rhowch rymoedd i Awdurdodau Lleol reoli'r farchnad dai yn ardaloedd gwledig a thwristaidd Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Luke Fletcher AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

Mae'n adnabod y deisebydd.

 

Roedd y Pwyllgor yn cydymdeimlo â'r materion a godwyd yn y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai er mwyn gofyn iddo ystyried y mater hwn fel rhan o'i raglen waith. Cytunodd yr Aelodau i gau'r ddeiseb.

 


Cyfarfod: 17/03/2021 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 8)

Dadl ar ddeiseb 'P-05-1056 Rhowch rymoedd i Awdurdodau Lleol reoli'r farchnad dai yn ardaloedd gwledig a thwristaidd Cymru'

NDM7652 Janet Finch-Saunders (Aberconwy)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi’r ddeiseb ‘P-05-1056 Rhowch rymoedd i Awdurdodau Lleol reoli'r farchnad dai yn ardaloedd gwledig a thwristaidd Cymru’ a gasglodd 5,386 o lofnodion.

P-05-1056 Rhowch rymoedd i Awdurdodau Lleol reoli'r farchnad dai yn ardaloedd gwledig a thwristaidd Cymru

 

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.59

NDM7652 Janet Finch-Saunders (Aberconwy)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi’r ddeiseb ‘P-05-1056 Rhowch rymoedd i Awdurdodau Lleol reoli'r farchnad dai yn ardaloedd gwledig a thwristaidd Cymru’ a gasglodd 5,386 o lofnodion.

P-05-1056 Rhowch rymoedd i Awdurdodau Lleol reoli'r farchnad dai yn ardaloedd gwledig a thwristaidd Cymru

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 


Cyfarfod: 09/02/2021 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-1056 Rhowch rymoedd i Awdurdodau Lleol reoli'r farchnad dai yn ardaloedd gwledig a thwristaidd Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law a chytunodd i ysgrifennu at  y Pwyllgor Busnes i ofyn a fyddai’n bosibl cynnal dadl ynghylch y ddeiseb yn y Cyfarfod Llawn cyn diwedd y Senedd hon.

 


Cyfarfod: 15/12/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-1056 Rhowch rymoedd i Awdurdodau Lleol reoli'r farchnad dai yn ardaloedd gwledig a thwristaidd Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i ofyn pa gamau brys y mae hi'n ystyried eu cymryd i liniaru'r heriau o ran tai fforddiadwy mewn llawer o gymunedau yng Nghymru, i geisio ymateb pellach i'r cynigion a gyflwynwyd gan y deisebwyr gan gynnwys, er enghraifft, newidiadau posibl yn y dreth trafodiadau tir a’r dreth gyngor.

 

Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ofyn am i bwerau pellach gael eu rhoi i awdurdodau lleol i'w galluogi i unioni'r sefyllfa bresennol, a gofyn i'r Gweinidog fynd i'r afael â'r pwyntiau a godwyd gan y deisebwyr a'r Pwyllgor yn y datganiad y mae'n bwriadu ei wneud ym mis Ionawr 2021.

 

Cytunodd yr Aelodau i ddychwelyd at y ddeiseb, a’r posibilrwydd o ddadl bellach neu ymchwiliad penodol gan bwyllgor, yn dilyn y datganiad hwnnw, a nodwyd hefyd ddiddordeb mewn archwilio ymhellach fater posibl perchnogion ail gartrefi yn cofrestru eu heiddo ar gyfer ardrethi busnes er mwyn osgoi talu premiwm y dreth gyngor ar gyfer ail gartrefi.