Cyfarfodydd

P-05-1051 Caniatáu i athletwyr iau Cymru hyfforddi dan yr un rheoliadau Covid â'u cymheiriaid iau yn Lloegr

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 09/02/2021 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-1051 Caniatáu i athletwyr iau Cymru hyfforddi dan yr un rheoliadau Covid â’u cymheiriaid iau yn Lloegr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ymateb a gafwyd gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth. O ystyried nad oedd y sefyllfa wedi newid ers i’r ddeiseb gael ei chyflwyno’n wreiddiol, a’r ffaith nad oedd y deisebydd wedi cysylltu wedyn, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.

 


Cyfarfod: 01/12/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-1051 Caniatáu i athletwyr iau Cymru hyfforddi dan yr un rheoliadau Covid â’u cymheiriaid iau yn Lloegr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, a Chwaraeon Cymru, i ofyn am ragor o wybodaeth o ran y rhesymau dros gael gwahanol reolau ar waith ar gyfer gwahanol chwaraeon, ac a ellir cael gwell cytgord rhwng gwahanol gyrff llywodraethu.