Cyfarfodydd

P-05-1050 Ei gwneud yn ofynnol i'r Senedd gynnal pleidlais i gymeradwyo cyfyngiadau lleol cyn eu gweithredu

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 12/01/2021 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-1050 Ei gwneud yn ofynnol i’r Senedd gynnal pleidlais i gymeradwyo cyfyngiadau lleol cyn eu gweithredu

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i aros i glywed barn bellach gan y deisebydd.

 

Cytunwyd hefyd pan fydd y ddeiseb yn cael ei thrafod eto y bydd yn cael ei hystyried ochr yn ochr â'r ddeiseb P-05-1104 Dylid gwneud i unrhyw gamau sy’n cael eu cyflwyno o ran Covid-19 fod yn destun pleidlais yn Senedd Cymru yn y dyfodol.