Cyfarfodydd

P-05-1048 Dylid caniatáu i bobl h?n gael mynediad i gyfleusterau chwaraeon awyr agored ar gyfer eu lles corfforol a meddyliol

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 01/12/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-1048 Dylid caniatáu i bobl hŷn gael mynediad i gyfleusterau chwaraeon awyr agored ar gyfer eu lles corfforol a meddyliol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i nodi'r ddeiseb a'r ohebiaeth a gafwyd gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys yr esboniad o gau eiddo fel clybiau golff yn ystod cyfyngiadau symud. Yn sgil cyflwyno set o reolau cenedlaethol sy'n golygu bod clybiau golff a chyfleusterau eraill bellach wedi ailagor yn dilyn cyfnodau blaenorol o gyfyngiadau symud, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd.