Cyfarfodydd
NDM7441 - Coronafeirws
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 20/10/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 11)
- Gweddarllediad ar gyfer 20/10/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 20/10/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl: Coronafeirws
NDM7441 Rebecca
Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd
1.
Yn
cydnabod difrifoldeb y sefyllfa a grëwyd gan y niferoedd cynyddol o achosion a
difrifoldeb COVID-19 yng Nghymru a’r niferoedd cynyddol o bobl sydd yn yr
ysbyty ac mewn Unedau Gofal Dwys o ganlyniad;
2.
Yn
cytuno y dylid cyflwyno ‘cyfnod atal byr’, fel y cynigiwyd gan y Grŵp
Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau (SAGE) a Grŵp Cynghori Technegol
Llywodraeth Cymru, er mwyn gostwng yr R, lleihau cadwyni o drosglwyddiadau
pellach, cyfyngu i’r eithaf ar glystyrau o haint yn y gymuned a chryfhau’r
system Profi Olrhain Diogelu ymhellach;
3.
Yn
cytuno bod rhaid i gyfnod atal byr gael ei seilio ar gymorth ychwanegol i
ddiogelu ffyrdd o fyw a llesiant ac yn nodi’r ddarpariaeth o gymorth ariannol
brys a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer busnesau yr effeithiwyd arnynt
gan y cyfnod atal byr.
Cyd-gyflwynwyr
Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn:
Yn unol â Rheol
Sefydlog 12.23 (iii), ni ddewiswyd gwelliannau 1 a 2 a gyflwynwyd i’r cynnig
hwn.
Gwelliant 3 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu popeth a rhoi yn
ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod y
tueddiadau diweddar yn nifer yr achosion o ganlyniad positif mewn profion
COVID-19 yng Nghymru a nifer y bobl mewn ysbytai ac unedau gofal dwys sydd gyda
COVID-19.
2. Yn mynegi siom
ynghylch methiant Llywodraeth Cymru i gyhoeddi digon o ddata a thystiolaeth i
ddangos bod cyfnod atal byr ar gyfer pob rhan o Gymru naill ai'n gymesur neu'n
angenrheidiol.
3. Yn credu bod yn
rhaid i unrhyw gyfyngiadau coronafeirws gael eu hategu gan gymorth i'r rhai yr
effeithir yn andwyol arnynt, gan gynnwys cymorth i fusnesau, bywoliaeth a lles.
4. Yn croesawu'r
cymorth ariannol digynsail gan Lywodraeth Ei Mawrhydi, gan gynnwys mwy na £4.4
biliwn i helpu i ymateb i heriau pandemig y coronafeirws.
5. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i ailystyried ei strategaeth coronafeirws a mabwysiadu dull
mwy penodol o ymyrryd.
Gwelliant 4 Sian
Gwenllian (Arfon)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn cytuno y dylid
defnyddio'r capasiti presennol yn llawn ac y dylai'r adnoddau ychwanegol sy'n
angenrheidiol gael eu darparu fel mater o frys i system profi olrhain diogelu
Cymru er mwyn sicrhau bod yr holl ganlyniadau'n cael eu dychwelyd a bod timau
olrhain yn cael gwybod am ganlyniadau positif o fewn 24 awr i gynnal brawf.
Gwelliant 5 Sian
Gwenllian (Arfon)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn cytuno y dylid
defnyddio'r cyfnod atal byr fel cyfle i gynllunio a gweithredu cyfres newydd o
ymyriadau yn seiliedig ar strategaeth lle bwriedir cael dim achosion o COVID-19
neu ddileu COVID-19 sy'n ceisio osgoi'r angen am donnau olynol o gyfyngiadau
symud dros dro, gan ddefnyddio'r gwersi arfer gorau o Gymru ac yn rhyngwladol
mewn meysydd fel, er heb fod yn gyfyngedig i: brofion torfol a rheolaidd gan
gynnwys profi cysylltiadau asymptomatig; awyru; atal achosion rhag cael eu
mewnforio o'r tu allan i Gymru; cymorth a chyngor ymarferol ac ariannol ar
gyfer y rhai y mae angen iddynt ynysu; cyfathrebu cyhoeddus clir a chyson; ac
ymestyn gwisgo mwgwd i sefyllfaoedd eraill.
Yn unol â Rheol
Sefydlog 12.23 (iii), ni ddewiswyd gwelliannau 6 a 7 a gyflwynwyd i’r cynnig
hwn.
Gwelliant 8 Sian
Gwenllian (Arfon)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i adolygu ei pholisïau rheoli heintiau mewn ysbytai ar gyfer atal
heintiau COVID-19 a geir mewn ysbytai ac ystyried sefydlu safleoedd dynodedig
lle bwriedir cael dim achosion o COVID-19 i hwyluso triniaeth amserol a diogel
ar gyfer canser ac anhwylderau eraill sy'n bygwth bywyd.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 17.07
Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM7441 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd
1. Yn cydnabod difrifoldeb y sefyllfa a grëwyd gan y niferoedd cynyddol o
achosion a difrifoldeb COVID-19 yng Nghymru a’r niferoedd cynyddol o bobl sydd
yn yr ysbyty ac mewn Unedau Gofal Dwys o ganlyniad;
2. Yn cytuno y dylid cyflwyno ‘cyfnod atal byr’, fel y cynigiwyd gan y Grŵp
Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau (SAGE) a Grŵp Cynghori Technegol
Llywodraeth Cymru, er mwyn gostwng yr R, lleihau cadwyni o drosglwyddiadau
pellach, cyfyngu i’r eithaf ar glystyrau o haint yn y gymuned a chryfhau’r
system Profi Olrhain Diogelu ymhellach;
3. Yn cytuno bod rhaid i gyfnod atal byr gael ei seilio ar gymorth ychwanegol
i ddiogelu ffyrdd o fyw a llesiant ac yn nodi’r ddarpariaeth o gymorth ariannol
brys a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer busnesau yr effeithiwyd arnynt
gan y cyfnod atal byr.
Cyd-gyflwynwyr
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23 (iii),
ni ddewiswyd gwelliannau 1 a 2 a gyflwynwyd i’r cynnig hwn.
Gwelliant 3 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod y tueddiadau diweddar yn nifer yr
achosion o ganlyniad positif mewn profion COVID-19 yng Nghymru a nifer y bobl
mewn ysbytai ac unedau gofal dwys sydd gyda COVID-19.
2. Yn mynegi siom ynghylch methiant Llywodraeth
Cymru i gyhoeddi digon o ddata a thystiolaeth i ddangos bod cyfnod atal byr ar
gyfer pob rhan o Gymru naill ai'n gymesur neu'n angenrheidiol.
3. Yn credu bod yn rhaid i unrhyw gyfyngiadau
coronafeirws gael eu hategu gan gymorth i'r rhai yr effeithir yn andwyol
arnynt, gan gynnwys cymorth i fusnesau, bywoliaeth a lles.
4. Yn croesawu'r cymorth ariannol digynsail gan
Lywodraeth Ei Mawrhydi, gan gynnwys mwy na £4.4 biliwn i helpu i ymateb i
heriau pandemig y coronafeirws.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailystyried ei
strategaeth coronafeirws a mabwysiadu dull mwy penodol o ymyrryd.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 3:
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
13 |
1 |
37 |
51 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 Sian Gwenllian (Arfon)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cytuno y dylid defnyddio'r capasiti presennol
yn llawn ac y dylai'r adnoddau ychwanegol sy'n angenrheidiol gael eu darparu
fel mater o frys i system profi olrhain diogelu Cymru er mwyn sicrhau bod yr
holl ganlyniadau'n cael eu dychwelyd a bod timau olrhain yn cael gwybod am
ganlyniadau positif o fewn 24 awr i gynnal prawf.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 4:
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
18 |
30 |
4 |
52 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 Sian Gwenllian (Arfon)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn cytuno y dylid defnyddio'r
cyfnod atal byr fel cyfle i gynllunio a gweithredu cyfres newydd o ymyriadau yn
seiliedig ar strategaeth lle bwriedir cael dim achosion o COVID-19 neu ddileu
COVID-19 sy'n ceisio osgoi'r angen am donnau olynol o gyfyngiadau symud dros
dro, gan ddefnyddio'r gwersi arfer gorau o Gymru ac yn rhyngwladol mewn meysydd
fel, er heb fod yn gyfyngedig i: brofion torfol a rheolaidd gan gynnwys profi
cysylltiadau asymptomatig; awyru; atal achosion rhag cael eu mewnforio o'r tu
allan i Gymru; cymorth a chyngor ymarferol ac ariannol ar gyfer y rhai y mae
angen iddynt ynysu; cyfathrebu cyhoeddus clir a chyson; ac ymestyn gwisgo mwgwd
i sefyllfaoedd eraill.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 5:
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
10 |
36 |
7 |
53 |
Derbyniwyd gwelliant 5.
Yn unol â Rheol Sefydlog
12.23 (iii), ni ddewiswyd gwelliannau 6 a 7 a gyflwynwyd i’r cynnig hwn
Gwelliant 8 Sian Gwenllian (Arfon)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu ei
pholisïau rheoli heintiau mewn ysbytai ar gyfer atal heintiau COVID-19 a geir
mewn ysbytai ac ystyried sefydlu safleoedd dynodedig lle bwriedir cael dim
achosion o COVID-19 i hwyluso triniaeth amserol a diogel ar gyfer canser ac
anhwylderau eraill sy'n bygwth bywyd.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 8:
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
20 |
29 |
4 |
53 |
Derbyniwyd gwelliant 8.
Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM7441 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd
1. Yn cydnabod difrifoldeb y sefyllfa a grëwyd gan y niferoedd cynyddol o
achosion a difrifoldeb COVID-19 yng Nghymru a’r niferoedd cynyddol o bobl sydd
yn yr ysbyty ac mewn Unedau Gofal Dwys o ganlyniad;
2. Yn cytuno y dylid cyflwyno ‘cyfnod atal byr’, fel y cynigiwyd gan y Grŵp
Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau (SAGE) a Grŵp Cynghori Technegol
Llywodraeth Cymru, er mwyn gostwng yr R, lleihau cadwyni o drosglwyddiadau
pellach, cyfyngu i’r eithaf ar glystyrau o haint yn y gymuned a chryfhau’r
system Profi Olrhain Diogelu ymhellach;
3. Yn cytuno bod rhaid i gyfnod atal byr gael ei seilio ar gymorth ychwanegol
i ddiogelu ffyrdd o fyw a llesiant ac yn nodi’r ddarpariaeth o gymorth ariannol
brys a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer busnesau yr effeithiwyd arnynt
gan y cyfnod atal byr.
4.
Yn cytuno y dylid defnyddio'r capasiti presennol
yn llawn ac y dylai'r adnoddau ychwanegol sy'n angenrheidiol gael eu darparu
fel mater o frys i system profi olrhain diogelu Cymru er mwyn sicrhau bod yr
holl ganlyniadau'n cael eu dychwelyd a bod timau olrhain yn cael gwybod am
ganlyniadau positif o fewn 24 awr i gynnal brawf.
5.
Yn
cytuno y dylid defnyddio'r cyfnod atal byr fel cyfle i gynllunio a gweithredu
cyfres newydd o ymyriadau yn seiliedig ar strategaeth lle bwriedir cael dim
achosion o COVID-19 neu ddileu COVID-19 sy'n ceisio osgoi'r angen am donnau
olynol o gyfyngiadau symud dros dro, gan ddefnyddio'r gwersi arfer gorau o
Gymru ac yn rhyngwladol mewn meysydd fel, er heb fod yn gyfyngedig i: brofion
torfol a rheolaidd gan gynnwys profi cysylltiadau asymptomatig; awyru; atal
achosion rhag cael eu mewnforio o'r tu allan i Gymru; cymorth a chyngor
ymarferol ac ariannol ar gyfer y rhai y mae angen iddynt ynysu; cyfathrebu
cyhoeddus clir a chyson; ac ymestyn gwisgo mwgwd i sefyllfaoedd eraill.
6.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu ei
pholisïau rheoli heintiau mewn ysbytai ar gyfer atal heintiau COVID-19 a geir
mewn ysbytai ac ystyried sefydlu safleoedd dynodedig lle bwriedir cael dim
achosion o COVID-19 i hwyluso triniaeth amserol a diogel ar gyfer canser ac
anhwylderau eraill sy'n bygwth bywyd.
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
37 |
0 |
16 |
53 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.