Cyfarfodydd

P-05-1045 Dylai penderfyniadau ar y cyd ac adolygu cynlluniau gofal iechyd meddwl misol fod yn ofyniad cyfreithiol

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 13/01/2022 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Eitem 3)

3 Ymateb gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau ynghylch Deiseb P-05-1045: Dylai penderfyniadau ar y cyd ac adolygu cynlluniau gofal iechyd meddwl misol fod yn ofyniad cyfreithiol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.2 Nododd y Pwyllgor yr ymateb.

 


Cyfarfod: 13/01/2022 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Eitem 3)

3 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau ynghylch Deiseb P-05-1045: Dylai penderfyniadau ar y cyd ac adolygu cynlluniau gofal iechyd meddwl misol fod yn ofyniad cyfreithiol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 


Cyfarfod: 10/01/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 5)

5 P-05-1045 Dylai penderfyniadau ar y cyd ac adolygu cynlluniau gofal iechyd meddwl misol fod yn ofyniad cyfreithiol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y flaenoriaeth sydd gan iechyd meddwl ym mlaenraglen waith y Pwyllgor Iechyd a Chymdeithasol a chytunwyd i annog y deisebydd i achub ar y cyfle i gyfrannu i ymgynghoriad y Pwyllgor hwnnw.

 

Wrth wneud hynny, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd am godi mater mor bwysig â hwn.

 


Cyfarfod: 02/12/2021 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Eitem 4)

4 Ymateb gan y Cadeirydd at Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau ynghylch deiseb P-05-1045: dylai penderfyniadau ar y cyd ac adolygu cynlluniau gofal iechyd meddwl misol fod yn ofyniad cyfreithiol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.4 Nododd y Pwyllgor yr ymateb.

 


Cyfarfod: 02/12/2021 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Eitem 4)

4 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau at y Cadeirydd ynghylch deiseb P-05-1045: dylai penderfyniadau ar y cyd ac adolygu cynlluniau gofal iechyd meddwl misol fod yn ofyniad cyfreithiol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.3 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 


Cyfarfod: 13/09/2021 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-05-1045 Dylai penderfyniadau ar y cyd ac adolygu cynlluniau gofal iechyd meddwl misol fod yn ofyniad cyfreithiol.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth a dderbyniwyd a chytunwyd i ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd i ofyn iddo ystyried canolbwyntio ar gymorth iechyd meddwl yn ei flaengynllun gwaith, gan amlinellu'r pryderon a godwyd gan y deisebydd.

 


Cyfarfod: 09/02/2021 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-1045 Dylai penderfyniadau ar y cyd ac adolygu cynlluniau gofal iechyd meddwl misol fod yn ofyniad cyfreithiol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law a chytunodd i anfon sylwadau ychwanegol y deisebydd a’i gynigion at y Gweinidog Iechyd Meddwl a gofyn am ymateb penodol i’r rhain. Gofynnodd y Pwyllgor i'r sylwadau gael eu hanfon hefyd at y bwrdd rhwydwaith iechyd meddwl a'r fforwm iechyd meddwl cenedlaethol ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr i'w defnyddio yn y gwaith sy'n mynd rhagddo ar hyn o bryd mewn perthynas â gwasanaethau iechyd meddwl.

 


Cyfarfod: 15/12/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-1045 Dylai penderfyniadau ar y cyd ac adolygu cynlluniau gofal iechyd meddwl misol fod yn ofyniad cyfreithiol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cydnabu’r Pwyllgor gryfder y deisebydd a’i theulu wrth greu’r ddeiseb a mynegodd y Pwyllgor ei gydymdeimlad dwysaf â nhw. Nododd yr Aelodau hefyd eu siom na chafwyd ymateb gan Lywodraeth Cymru, a chytunwyd i ysgrifennu eto gan atodi sylwadau pellach y deisebydd ar gyfer eu hystyried, ac i ofyn am ymateb cyn gynted â phosibl.