Cyfarfodydd

P-05-1043 Sicrhau bod gweithgynhyrchu a chynhyrchu cyfarpar diogelu personol (PPE) digonol ar gyfer Cymru, yng Nghymru, ar ôl Covid-19

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 01/12/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-1043 Sicrhau bod gweithgynhyrchu a chynhyrchu cyfarpar diogelu personol (PPE) digonol ar gyfer Cymru, yng Nghymru, ar ôl Covid-19.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i nodi'r ohebiaeth a gafwyd, a boddhad y deisebydd â'r camau a amlinellwyd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Yn sgil hynny, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd am godi'r mater pwysig hwn.