Cyfarfodydd

P-05-1041 Polisi a chyllid clir ar gyfer ysbytai a chartrefi gofal ar gyfer ymweliadau rhithwir yn ystod cyfnodau o gyfyngiadau symud

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 20/09/2021 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-05-1041 Polisi a chyllid clir ar gyfer ysbytai a chartrefi gofal ar gyfer ymweliadau rhithwir yn ystod cyfnodau o gyfyngiadau symud

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dywedodd yr aelodau eu bod yn cydnabod bod y penderfyniad i gyfyngu ar ymweliadau â chartrefi gofal wedi arwain at brofiadau anodd.  Mae Cymru gyfan yn awr ar Lefel Rhybudd Sero ac mae’r canllawiau ar ymweliadau wedi’u diweddaru. Gan hynny, daeth y Pwyllgor i’r casgliad nad oedd fawr ddim arall y gallai ei wneud a chytunodd i ddiolch i’r deisebydd am dynnu sylw at y mater a chau’r ddeiseb.
Wrth wneud hynny, cytunodd yr aelodau i ddiolch i'r Gweinidog am roi sylw i’r mater ac ysgrifennu ati yn gofyn iddi ystyried y materion a godwyd yn y ddeiseb yn y dyfodol os bydd yr un sefyllfa’n codi eto.

 


Cyfarfod: 01/12/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-1041 Polisi a chyllid clir ar gyfer ysbytai a chartrefi gofal ar gyfer ymweliadau rhithwir yn ystod cyfnodau o gyfyngiadau symud

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Fforwm Gofal Cymru i geisio eu barn ar y mater a godwyd gan y ddeiseb, a digonolrwydd y canllawiau a'r gefnogaeth bresennol sydd ar gael i gartrefi gofal.