Cyfarfodydd
NDM7440 Dadl Plaid Cymru - Addysg a Covid-19
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 21/10/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 8)
- Gweddarllediad ar gyfer 21/10/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 21/10/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl Plaid Cymru - Dyfodol Addysg
NDM7440 Sian
Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod y Senedd:
Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i:
a) rhoi sicrwydd amserol
i ddisgyblion ac athrawon drwy wneud datganiad ar unwaith na fydd arholiadau yn
cael eu cynnal yng Nghymru yn haf 2021 a bydd asesiad gan athrawon yn digwydd
yn lle hynny;
b) sicrhau bod gan
bobl ifanc y sgiliau sydd eu hangen arnynt ar gyfer y dyfodol a'u bod yn cael
cyfle teg i ddangos eu bod wedi cyrraedd y sgiliau hynny drwy system asesu a
chymwysterau ddiwygiedig yng Nghymru sy'n cyd-fynd â chwricwlwm newydd Cymru
drwy ddileu arholiadau hen ffasiwn TGAU a Safon Uwch.
c) sicrhau bod pob
disgybl yn gadael y system addysg yn ddinasyddion dwyieithog, drwy:
i) cymryd camau
pellach i sicrhau bod y cwricwlwm newydd yn hwyluso rhuglder yn y Gymraeg fel
norm drwy gynyddu addysg gyfrwng Cymraeg ym mhob sector a chyfnod dysgu; a
ii) ymrwymo i gyflwyno
Deddf Addysg Gymraeg;
d) sicrhau bod gan bob
disgybl ddealltwriaeth o dreftadaeth a hunaniaeth amrywiol Cymru, drwy wneud
hanes Cymru yn elfen orfodol yn y Bil Cwricwlwm ac Asesu, gan gynnwys hanes
pobl dduon a phobl groenliw sy’n rhan annatod o hanes Cymru;
e) cynnal hawliau pob
disgybl yn ardal Pontypridd ac mewn mannau eraill i addysg cyfrwng Cymraeg yn
eu cymuned eu hunain ac o fewn pellter rhesymol i'w cartrefi drwy hyrwyddo'n
eang y cynseiliau sy'n deillio o ddyfarniad y llys gweinyddol yn Driver yn erbyn
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf mewn perthynas â sicrhau yr
ymgymerir ag asesiadau effaith iaith Gymraeg yn briodol mewn cynigion i
ad-drefnu ysgolion;
f) blaenoriaethu
iechyd meddwl a lles ein myfyrwyr drwy sicrhau bod meysydd dysgu ac arbenigedd
iechyd meddwl a lles yn cael sylw dyledus yn y Bil Cwricwlwm ac Asesu, a
monitro tueddiadau tymor canolig a hirdymor yn y ddarpariaeth iechyd meddwl o
fewn ysgolion;
g) cefnogi myfyrwyr
addysg bellach sy'n dysgu gartref, a hynny ar frys, drwy sicrhau bod ganddynt
fynediad at ddarpariaeth band eang ac offer digonol, ac asesu ar frys yr angen
i ailagor lleoedd gwaith cyhoeddus yn ddiogel i fyfyrwyr na allant weithio
gartref;
h) atal prentisiaid
rhag llithro i dlodi drwy warantu amddiffyniadau cyflog llawn pan fo
gweithleoedd yn cael eu cau, a darparu cymorth/arweiniad ychwanegol os cânt eu
diswyddo;
i) cynnal hawliau
cyfreithiol myfyrwyr drwy sicrhau eu bod yn cael eu trin yn gyfartal â gweddill
y cyhoedd o ran cyfyngiadau COVID-19, gan gynnwys gwarant y gall myfyrwyr
ddychwelyd adref cyn cyfnod y Nadolig gan sicrhau bod mesurau diogelu priodol
ar waith drwy brofion.
Bil
Cwricwlwm ac Asesu (Cymru)
Gwelliant 1 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu is-bwyntiau (a) a (b) a rhoi yn eu lle:
'cymryd pob cam i sicrhau bod disgyblion yng Nghymru yn
cael cyfle i sefyll arholiadau cyffredinol a galwedigaethol yn ystod y flwyddyn
ysgol hon, gan gynnwys os caiff y flwyddyn ysgol ei hymestyn;
pennu dyddiad erbyn pryd y mae'n rhaid gwneud
penderfyniad ynghylch a fydd arholiadau'n mynd rhagddynt, gyda'r dyddiadau'n
caniatáu i system gredadwy a chadarn o raddau asesu canolfannau a gymedrolir yn
allanol gael ei gweithredu yn lle hynny;'
Gwelliant 2 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu is-bwynt (c) (i) a rhoi yn ei le:
'cyflwyno cod continwwm Iaith Gymraeg i gynorthwyo
ymarferwyr i gyflawni'r nod o wella rhuglder drwy'r cwricwlwm;'
Gwelliant 3 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnwys is-bwynt (c)(ii) newydd ac ailrifo yn unol â
hynny:
'derbyn y dyfarniad yn Driver yn erbyn Cyngor
Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf;
Gwelliant 4 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnwys is-bwynt newydd ar ôl pwynt (c) ac ailrifo'n unol
â hynny:
'sicrhau bod gan bobl ifanc y sgiliau sydd eu hangen
arnynt ar gyfer y dyfodol a'u bod yn cael cyfle teg i ddangos eu bod wedi
cyrraedd y sgiliau hynny drwy system well o asesu a chymwysterau cyffredinol
sy'n cyd-fynd â chwricwlwm newydd Cymru a thrwy fynediad i gyrsiau sy'n arwain
at gymwysterau galwedigaethol cydnabyddedig;'
Gwelliant 5 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu is-bwynt (e) ac ailrifo'n unol â hynny.
Gwelliant 6 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnwys fel is-bwynt newydd ar ôl is-bwynt (g) ac ailrifo
yn unol â hynny:
'adlewyrchu argymhellion yr adroddiad Cadernid Meddwl ac
arsylwadau'r Comisiynydd Plant yn well wrth gyflwyno'r cwricwlwm, a monitro canlyniadau;'
Gwelliant 7 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu is-bwynt (h) ac ailrifo'n unol â hynny.
Gwelliant 8 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod bod ymateb Llywodraeth Cymru i COVID-19
wedi tarfu ar addysg disgyblion.
Yn cydnabod ymrwymiad a hyblygrwydd yr holl staff sy'n
darparu addysg yn ystod pandemig COVID-19.
Gwelliant 9 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnwys is-bwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
'gwneud datganiad brys ar y cymorth a ddarperir i
brentisiaid a hyfforddeion.'
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23 (iii), ni ddewiswyd
gwelliant 10 a gyflwynwyd i’r cynnig hwn.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 16.45
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM7440 Sian Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod y Senedd:
Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i:
a) rhoi sicrwydd
amserol i ddisgyblion ac athrawon drwy wneud datganiad ar unwaith na fydd
arholiadau yn cael eu cynnal yng Nghymru yn haf 2021 a bydd asesiad gan
athrawon yn digwydd yn lle hynny;
b) sicrhau bod gan
bobl ifanc y sgiliau sydd eu hangen arnynt ar gyfer y dyfodol a'u bod yn cael
cyfle teg i ddangos eu bod wedi cyrraedd y sgiliau hynny drwy system asesu a
chymwysterau ddiwygiedig yng Nghymru sy'n cyd-fynd â chwricwlwm newydd Cymru
drwy ddileu arholiadau hen ffasiwn TGAU a Safon Uwch.
c) sicrhau bod pob
disgybl yn gadael y system addysg yn ddinasyddion dwyieithog, drwy:
i) cymryd camau pellach
i sicrhau bod y cwricwlwm newydd yn hwyluso rhuglder yn y Gymraeg fel norm drwy
gynyddu addysg gyfrwng Cymraeg ym mhob sector a chyfnod dysgu; a
ii) ymrwymo i gyflwyno
Deddf Addysg Gymraeg;
d) sicrhau bod gan bob
disgybl ddealltwriaeth o dreftadaeth a hunaniaeth amrywiol Cymru, drwy wneud
hanes Cymru yn elfen orfodol yn y Bil Cwricwlwm ac Asesu, gan gynnwys hanes
pobl dduon a phobl groenliw sy’n rhan annatod o hanes Cymru;
e) cynnal hawliau pob
disgybl yn ardal Pontypridd ac mewn mannau eraill i addysg cyfrwng Cymraeg yn
eu cymuned eu hunain ac o fewn pellter rhesymol i'w cartrefi drwy hyrwyddo'n
eang y cynseiliau sy'n deillio o ddyfarniad y llys gweinyddol yn Driver yn
erbyn Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf mewn perthynas â sicrhau yr
ymgymerir ag asesiadau effaith iaith Gymraeg yn briodol mewn cynigion i
ad-drefnu ysgolion;
f) blaenoriaethu
iechyd meddwl a lles ein myfyrwyr drwy sicrhau bod meysydd dysgu ac arbenigedd
iechyd meddwl a lles yn cael sylw dyledus yn y Bil Cwricwlwm ac Asesu, a monitro
tueddiadau tymor canolig a hirdymor yn y ddarpariaeth iechyd meddwl o fewn
ysgolion;
g) cefnogi myfyrwyr
addysg bellach sy'n dysgu gartref, a hynny ar frys, drwy sicrhau bod ganddynt
fynediad at ddarpariaeth band eang ac offer digonol, ac asesu ar frys yr angen
i ailagor lleoedd gwaith cyhoeddus yn ddiogel i fyfyrwyr na allant weithio
gartref;
h) atal prentisiaid
rhag llithro i dlodi drwy warantu amddiffyniadau cyflog llawn pan fo
gweithleoedd yn cael eu cau, a darparu cymorth/arweiniad ychwanegol os cânt eu
diswyddo;
i) cynnal hawliau
cyfreithiol myfyrwyr drwy sicrhau eu bod yn cael eu trin yn gyfartal â gweddill
y cyhoedd o ran cyfyngiadau COVID-19, gan gynnwys gwarant y gall myfyrwyr
ddychwelyd adref cyn cyfnod y Nadolig gan sicrhau bod mesurau diogelu priodol
ar waith drwy brofion.
Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru)
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
9 |
0 |
40 |
49 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu is-bwyntiau (a) a (b) a rhoi yn eu lle:
'cymryd pob cam i sicrhau bod disgyblion yng Nghymru yn
cael cyfle i sefyll arholiadau cyffredinol a galwedigaethol yn ystod y flwyddyn
ysgol hon, gan gynnwys os caiff y flwyddyn ysgol ei hymestyn;
pennu dyddiad erbyn pryd y mae'n rhaid gwneud
penderfyniad ynghylch a fydd arholiadau'n mynd rhagddynt, gyda'r dyddiadau'n
caniatáu i system gredadwy a chadarn o raddau asesu canolfannau a gymedrolir yn
allanol gael ei gweithredu yn lle hynny;'
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
14 |
0 |
35 |
49 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu is-bwynt (c) (i) a rhoi yn ei le:
'cyflwyno cod continwwm Iaith Gymraeg i gynorthwyo
ymarferwyr i gyflawni'r nod o wella rhuglder drwy'r cwricwlwm;'
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
11 |
3 |
35 |
49 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnwys is-bwynt (c)(ii) newydd ac ailrifo yn unol â
hynny:
'derbyn y dyfarniad yn Driver yn erbyn Cyngor
Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf;
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
20 |
3 |
26 |
49 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Gwelliant
4 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnwys
is-bwynt newydd ar ôl pwynt (c) ac ailrifo'n unol â hynny:
'sicrhau
bod gan bobl ifanc y sgiliau sydd eu hangen arnynt ar gyfer y dyfodol a'u bod
yn cael cyfle teg i ddangos eu bod wedi cyrraedd y sgiliau hynny drwy
system well o asesu a chymwysterau cyffredinol sy'n cyd-fynd â chwricwlwm
newydd Cymru a thrwy fynediad i gyrsiau sy'n arwain at gymwysterau
galwedigaethol cydnabyddedig;'
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 4:
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
11 |
3 |
35 |
49 |
Gwrthodwyd gwelliant 4.
Gwelliant
5 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu
is-bwynt (e) ac ailrifo'n unol â hynny
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 5:
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
11 |
3 |
35 |
49 |
Gwrthodwyd gwelliant 5.
Gwelliant
6 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnwys
fel is-bwynt newydd ar ôl is-bwynt (g) ac ailrifo yn unol â hynny:
'adlewyrchu
argymhellion yr adroddiad Cadernid Meddwl ac arsylwadau'r Comisiynydd Plant yn
well wrth gyflwyno'r cwricwlwm, a monitro canlyniadau;'
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 6:
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
20 |
3 |
26 |
49 |
Gwrthodwyd gwelliant 6.
Gwelliant
7 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu
is-bwynt (h) ac ailrifo'n unol â hynny.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 7:
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
12 |
2 |
35 |
49 |
Gwrthodwyd gwelliant 7.
Gwelliant
8 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu
pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn
cydnabod bod ymateb Llywodraeth Cymru i COVID-19 wedi tarfu ar addysg
disgyblion.
Yn
cydnabod ymrwymiad a hyblygrwydd yr holl staff sy'n darparu addysg yn ystod
pandemig COVID-19.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 8:
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
14 |
9 |
26 |
49 |
Gwrthodwyd gwelliant 8.
Gwelliant
9 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnwys
is-bwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
'gwneud
datganiad brys ar y cymorth a ddarperir i brentisiaid a hyfforddeion.'
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 9:
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
20 |
3 |
26 |
49 |
Gwrthodwyd gwelliant 9.
Yn
unol â Rheol Sefydlog 12.23 (iii) ni ddewiswyd gwelliant 10
Gan
nad oedd y Senedd wedi derbyn y cynnig heb ei ddiwygio, nac wedi derbyn y
gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig, cafodd y cynnig felly ei wrthod.