Cyfarfodydd
Ail Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru 2020-21
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 24/02/2021 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 2)
2 PTN 4 - Ail gyllideb atodol Llywodraeth Cymru - ymateb Llywodraeth Cymru - 19 Ionawr 2021
Dogfennau ategol:
Cyfarfod: 30/11/2020 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 7)
7 Adroddiad ar Alldro 2019-20 – Llywodraeth Cymru
Supporting
papers:
FIN(5)-24-20 P4 -
Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd a’r Adroddiad ar Alldro 2019-20
atodedig – 18 Tachwedd 2020
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
7.1 Trafododd y Pwyllgor adroddiad Llywodraeth Cymru ar
Alldro 2019-20.
Cyfarfod: 17/11/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 9)
Dadl: Ail Gyllideb Atodol 2020-21
NDM7443 Rebecca
Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd, yn
unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r Ail Gyllideb Atodol ar gyfer y
flwyddyn ariannol 2020-21 a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ddydd Mawrth, 20 Hydref 2020.
Troednodyn:
Yn unol â'r
darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20,
mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol:
(i) y datganiad
ysgrifenedig sy'n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru;
(ii) yr adnoddau y
cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb bloc Cymru yn y flwyddyn
ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi;
(iii) cysoniad rhwng
yr adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer cyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r
adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig;
(iv) cysoniad rhwng y
symiau amcangyfrifol sydd i'w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd
Gwladol a'r symiau yr awdurdodir eu talu o'r Gronfa yn y cynnig;
(v) cysoniad rhwng yr
adnoddau i'w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o'r Ddeddf a'r symiau yr
awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c); a
(vi) manylion am
unrhyw newidiadau i’r wybodaeth a ddarparwyd yn unol â Rheolau Sefydlog 20.7 –
20.7B ar gyfer y gyllideb ddrafft, fel y nodwyd yn y protocol y cytunwyd arno o
dan Reol Sefydlog 20.1A.
Mae'r wybodaeth
ychwanegol isod wedi'i darparu i'r Aelodau:
- nodyn yn egluro'r
prif wahaniaethau rhwng y cynllun hwn a'r rhai blaenorol.
Dogfennau Ategol
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 18.26
Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM7443 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd, yn
unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r Ail Gyllideb Atodol ar gyfer y
flwyddyn ariannol 2020-21 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ddydd Mawrth, 20 Hydref 2020.
Troednodyn:
Yn unol â'r
darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20,
mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol:
(i) y datganiad
ysgrifenedig sy'n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru;
(ii) yr adnoddau y
cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb bloc Cymru yn y flwyddyn
ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi;
(iii) cysoniad rhwng yr
adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer cyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r adnoddau
yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig;
(iv) cysoniad rhwng y
symiau amcangyfrifol sydd i'w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd
Gwladol a'r symiau yr awdurdodir eu talu o'r Gronfa yn y cynnig;
(v) cysoniad rhwng yr
adnoddau i'w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o'r Ddeddf a'r symiau yr
awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c); a
(vi) manylion am unrhyw
newidiadau i’r wybodaeth a ddarparwyd yn unol â Rheolau Sefydlog 20.7 – 20.7B
ar gyfer y gyllideb ddrafft, fel y nodwyd yn y protocol y cytunwyd arno o dan
Reol Sefydlog 20.1A.
Mae'r wybodaeth
ychwanegol isod wedi'i darparu i'r Aelodau:
- nodyn yn egluro'r prif
wahaniaethau rhwng y cynllun hwn a'r rhai blaenorol.
Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig:
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
29 |
21 |
4 |
54 |
Derbyniwyd y cynnig.
Yn unol â Rheol Sefydlog
12.18, am 18.55 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y Llywydd.
Cyfarfod: 09/11/2020 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 7)
7 Ail Gyllideb Atodol 2020-21: Trafod yr adroddiad drafft
Papurau
ategol:
FIN(5)-21-20 P2
Adroddiad drafft
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 13 , View reasons restricted (7/1)
Cofnodion:
7.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft yn amodol
ar fân newidiadau.
Cyfarfod: 02/11/2020 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 8)
Ail Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru 2020-21: Trafod y dystiolaeth
Cofnodion:
8.1 Trafododd y
Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
Cyfarfod: 02/11/2020 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
4 Ail Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru 2020-21: Sesiwn dystiolaeth
Rebecca Evans AS,
y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd
Andrew Jeffreys,
Cyfarwyddwr y Trysorlys
Matthew
Denham-Jones, Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-Adran Rheolaeth Ariannol
Papurau
ategol:
FIN(5)-20-20 P5 -
Ail Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21
FIN(5)-20-20 P6 -
Dyraniadau prif grŵp
gwariant
FIN(5)-20-20 P7 -
Nodyn Esboniadol
Papur briffio gan
y Gwasanaeth Ymchwil
Dogfennau ategol:
- FIN(5)-20-20 P5 - Ail Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21, Eitem 4
PDF 591 KB
- FIN(5)-20-20 P6 - Dyraniadau prif grŵp gwariant, Eitem 4
PDF 349 KB
- FIN(5)-20-20 P7 - Nodyn Esboniadol, Eitem 4
PDF 604 KB
- Briff Ymchwil , View reasons restricted (4/4)
Cofnodion:
4.1 Cymerodd y
Pwyllgor dystiolaeth ar Ail Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru 2020-21 gan y
tystion a ganlyn: Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd; Andrew
Jeffreys, Cyfarwyddwr y Trysorlys; a Matthew Denham-Jones, Dirprwy Gyfarwyddwr
Rheolaethau Ariannol.
4.2 Cytunodd y
Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn
am yr eitemau a ganlyn:
·
dadansoddiad mwy
manwl o’r pecyn sefydlogi gwerth £800 miliwn i helpu GIG Cymru i ymateb i
effeithiau parhaus pandemig COVID-19; a
·
nodyn ar elfen
'Brofi' strategaeth 'Profi, Olrhain a Diogelu' Llywodraeth Cymru. Yn benodol,
gofynnir am wybodaeth am unrhyw newidiadau tebygol yn y dyfodol agos i'r
strategaeth 'Brofi' a'r dyraniad cyllid cysylltiedig.