Cyfarfodydd

P-05-1037 Caniatáu i blant fynd i mewn i ardaloedd dan gyfyngiadau symud i barhau i hyfforddi gyda'u clybiau chwaraeon

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 12/01/2021 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-1037 Caniatáu i blant fynd i mewn i ardaloedd dan gyfyngiadau symud i barhau i hyfforddi gyda'u clybiau chwaraeon

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law a chytunodd, yn sgil y ffaith bod y cyfyngiadau rhybudd lefel 4 Coronafeirws presennol yn gwahardd gweithgareddau o’r fath ar hyn o bryd, i gadw golwg fanwl ar y ddeiseb.

 


Cyfarfod: 03/11/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-1037 Caniatáu i blant fynd i mewn i ardaloedd dan gyfyngiadau symud i barhau i hyfforddi gyda'u clybiau chwaraeon

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chroesawodd y newidiadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru i ganiatáu i blant deithio y tu allan i ardaloedd â chyfyngiadau lleol cyn cyflwyno'r cyfnod atal byr. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu yn ôl at y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth i ofyn a yw'n rhagweld y byddai hyn yn parhau i fod yn berthnasol pe bai angen cyfyngiadau symud lleol yn y dyfodol.