Cyfarfodydd
P-05-1036 Caniatáu swigod cefnogaeth yn ystod y cyfyngiadau symud
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 12/01/2021 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
- Gweddarllediad ar gyfer 12/01/2021 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 12/01/2021 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
3 P-05-1036 Caniatáu swigod cefnogaeth yn ystod y cyfyngiadau symud
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor y rheolau
cyfredol ar ffurfio swigod cefnogaeth. Nododd yr Aelodau, yn lefelau rhybuddio
3 a 4, y caniateir i aelwydydd ag oedolyn sengl ymuno ag aelwyd arall ond na
fyddai hyn yn galluogi cyplau i allu mynd i mewn i gartrefi ei gilydd ym mhob
amgylchiad. Fodd bynnag, o ystyried y sefyllfa, cytunodd y Pwyllgor nad oedd
unrhyw waith pellach y gallai ei wneud ar y mater hwn ar hyn o bryd a chaeodd y
ddeiseb.
Cyfarfod: 03/11/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)
- Gweddarllediad ar gyfer 03/11/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 03/11/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
2 P-05-1036 Caniatáu swigod cefnogaeth yn ystod y cyfyngiadau symud
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 2 PDF 210 KB Gweld fel HTML (2/1) 25 KB
- 09.10.20 Correspondence – First Minister of Wales to the Chair (Saesneg yn unig), Eitem 2 PDF 255 KB
- 24.10.20 Gohebiaeth – Deisebydd at y Pwyllgor (Saesneg yn unig), Eitem 2 PDF 110 KB Gweld fel HTML (2/3) 19 KB
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a
chytunwyd y byddant yn aros i ganllawiau manwl newydd
gael eu cyhoeddi ar y rheolau a fydd yn berthnasol o 9 Tachwedd, gyda'r bwriad
o gau'r ddeiseb os na fydd y materion y mae’r ddeiseb yn eu codi yn berthnasol
mwyach, neu byddant yn dychwelyd at y ddeiseb mewn cyfarfod yn y dyfodol os
bydd materion o hyd y mae angen eu trafod ymhellach.