Cyfarfodydd
NDM7421 Plaid Cymru debate - The challenges facing the Arts, Culture and Heritage sectors.
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 07/10/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 10)
- Gweddarllediad ar gyfer 07/10/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 07/10/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl Plaid Cymru - Yr heriau sy'n wynebu sectorau'r Celfyddydau, Diwylliant a Threftadaeth
NDM7421 Sian Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod y
Senedd:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd
sectorau celfyddydau, diwylliant a threftadaeth Cymru a’r heriau y mae’r
sectorau hyn yn eu wynebu yn sgil COVID-19.
2.Yn croesawu’r
archwilio o’r newydd sydd wedi bod ar dreftadaeth amrywiol Cymru yn ystod
misoedd y pandemig yng ngoleuni mudiad Mae Bywydau Duon o Bwys ac ymgyrchoedd
eraill.
3. Yn cefnogi galwadau
i sicrhau y caiff ein treftadaeth ei hyrwyddo a’i chyflwyno mewn modd sensitif
a chynhwysol o’i holl amrywiaeth gyfoethog yn y dyfodol.
4. Yn gresynu at y
ffaith bod cynllun cefnogi swyddi Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn annhebygol o
achub llawer o leoliadau celfyddydol a cherddoriaeth byw ac atyniadau
diwylliannol rhag cael eu cau, nac achub gyrfaoedd gweithwyr y celfyddydau
(llawrydd a chyflogedig) er gwaetha’r ffaith yr oeddent yn hyfyw cyn
COVID-19.
5. Yn gwrthwynebu
cynigion i ddatblygu un neu ragor o amgueddfeydd milwrol ym Mae Caerdydd.
6. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i:
a) gweithio gyda
Cyngor y Celfyddydau, Tasglu Llawrydd Cymru, a grwpiau a sefydliadau eraill ym
maes y celfyddydau a diwylliant i weithredu argymhellion yr
adroddiad: ‘Ailfantoli ac Ailddychmygu: Strategaethau i Gefnogi Gweithwyr
Llawrydd ym Maes y Celfyddydau a Pherfformio';
b) defnyddio’r
gyfundrefn gynllunio i gyfyngu ar a rheoli’r gallu i adeiladau a ddefnyddid at
ddibenion celfyddydol, diwylliannol a threftadaeth cyn i Ddeddf Coronafeirws
2020 ddod i rym gael caniatâd cynllunio newid defnydd tra bo’r pandemig yn
parhau i effeithio ar y gallu i ddefnyddio’r lleoliadau hynny at eu prif
ddiben;
c) archwilio creu
amgueddfa genedlaethol hanes a threftadaeth pobl ddu a phobl o liw i’w lleoli
yn Tiger Bay fel cynnig amgen posibl i’r cynnig ar gyfer un neu ragor o
amgueddfeydd milwrol;
d) sicrhau mwy o
gyfranogiad pobl ddu a phobl o liw yn y celfyddydau a chyrff diwylliannol, fel
y gelwir amdano yn y Maniffesto ar gyfer Cymru Gwrth-hiliaeth gan Gynghrair Hil
Cymru;
e) sicrhau bod y
Gymraeg yn cael lle canolog yng ngweithlu ac allbwn sector y celfyddydau yn ei
chyfanrwydd wrth symud ymlaen;
f) cyflwyno
gwarchodaeth statudol i atal colli enwau lleoedd Cymraeg o’r amgylchedd
naturiol a’r amgylchedd adeiledig; a
g) sicrhau bod
pob adran o’r llywodraeth yn gweithredu yn strategol tuag at gyflawni chweched
nod llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, sef Cymru â
ddiwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu, ac i ymgysylltu'n drylwyr ac yn
ystyrlon gyda sectorau’r celfyddydau, diwylliant a threftadaeth wrth wneud
hynny.
Deddf Coronafeirws 2020 (Saesneg yn unig)
Cynghrair Hil Cymru: Ein Maniffesto dros Gymru Wrth-Hiliol
Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015
Yn unol â Rheol
Sefydlog 12.23 (iii), ni ddewiswyd gwelliant 1 a gyflwynwyd i’r cynnig hwn.
Gwelliant 2 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu pwynt 4 a rhoi
yn ei le:
Yn croesawu pecyn
achub y celfyddydau gwerth £1.57 biliwn gan Lywodraeth Ei Mawrhydi a'r swm
canlyniadol o £59miliwn sy'n deillio ohono i Gymru.
Gwelliant 3 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu pwynt 5 a rhoi
yn ei le:
Yn croesawu cynlluniau
ar gyfer amgueddfa meddygaeth filwrol ym Mae Caerdydd ac yn cydnabod
pwysigrwydd lleoliadau ledled Cymru sy'n dathlu treftadaeth filwrol gyfoethog
Cymru.
[Os derbynnir
gwelliant 3, bydd gwelliant 4 yn cael eu dad-ddethol]
Gwelliant 4 Rebecca Evans (Gwyr)
Dileu pwynt 5 ac
ailrifo yn unol â hynny.
Gwelliant 5 Rebecca Evans (Gwyr)
Ym mhwynt 6, dileu
is-bwyntiau b) a c) a rhoi yn eu lle:
b) yn cydnabod y
pwyslais y mae Polisi Cynllunio Cymru yn ei roi ar les diwylliannol drwy greu cynlluniau
a phenderfyniadau cynllunio, sy’n cefnogi’r gwaith o barhau i ddarparu
defnyddiau diwylliannol ar gyfer cymunedau drwy ei ddull o greu lleoedd.
c) yn gweithio i
sicrhau bod hanes Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn cael ei
gynnwys a’i adlewyrchu ar draws rhwydwaith amgueddfeydd Cymru a thrafod ag
arweinwyr cymunedau opsiynau i’r dyfodol er mwyn sicrhau sylw cyfiawn i’r hanes
yma.
Yn unol â Rheol
Sefydlog 12.23 (iii), ni ddewiswyd gwelliannau 6 a 7 a gyflwynwyd i’r cynnig
hwn.
Gwelliant 8 Rebecca Evans (Gwyr)
Ym mhwynt 6, dileu
is-bwyntiau e) a f) a rhoi yn eu lle:
e) yn gweithio i
sicrhau bod y Gymraeg wrth wraidd gweithlu ac allbwn sector y celfyddydau;
f) yn cydnabod
pwysigrwydd enwau lleoedd Cymraeg ac yn parhau i ystyried opsiynau er mwyn
sicrhau na fyddant yn cael eu colli o’r amgylcheddau adeiledig a naturiol.
Gwelliant 9 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu is-bwynt
newydd ar ddiwedd pwynt 6:
yn nodi canlyniad yr
adolygiad annibynnol o ariannu Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac yn galw am gynnydd
o £1.445 miliwn mewn cyllid sylfaenol yn y flwyddyn ariannol nesaf i roi cyllid
y sefydliad ar sail gynaliadwy ar gyfer y dyfodol
Yn unol â Rheol
Sefydlog 12.23 (iii), ni ddewiswyd gwelliannau 10, 11, 12 a 13 a gyflwynwyd i’r
cynnig hwn.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 17.38
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM7421 Sian Gwenllian
(Arfon)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd
sectorau celfyddydau, diwylliant a threftadaeth Cymru a’r heriau y mae’r
sectorau hyn yn eu wynebu yn sgil COVID-19.
2.Yn croesawu’r archwilio o’r
newydd sydd wedi bod ar dreftadaeth amrywiol Cymru yn ystod misoedd y pandemig
yng ngoleuni mudiad Mae Bywydau Duon o Bwys ac ymgyrchoedd eraill.
3. Yn cefnogi galwadau i
sicrhau y caiff ein treftadaeth ei hyrwyddo a’i chyflwyno mewn modd sensitif a
chynhwysol o’i holl amrywiaeth gyfoethog yn y dyfodol.
4. Yn gresynu at y ffaith bod
cynllun cefnogi swyddi Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn annhebygol o achub
llawer o leoliadau celfyddydol a cherddoriaeth byw ac atyniadau diwylliannol
rhag cael eu cau, nac achub gyrfaoedd gweithwyr y celfyddydau (llawrydd a
chyflogedig) er gwaetha’r ffaith yr oeddent yn hyfyw cyn COVID-19.
5. Yn gwrthwynebu cynigion i
ddatblygu un neu ragor o amgueddfeydd milwrol ym Mae Caerdydd.
6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i:
a) gweithio gyda Cyngor y
Celfyddydau, Tasglu Llawrydd Cymru, a grwpiau a sefydliadau eraill ym maes y
celfyddydau a diwylliant i weithredu argymhellion yr
adroddiad: ‘Ailfantoli ac Ailddychmygu: Strategaethau i Gefnogi Gweithwyr
Llawrydd ym Maes y Celfyddydau a Pherfformio';
b) defnyddio’r gyfundrefn
gynllunio i gyfyngu ar a rheoli’r gallu i adeiladau a ddefnyddid at ddibenion
celfyddydol, diwylliannol a threftadaeth cyn i Ddeddf y Coronafeirws 2020 ddod
i rym gael caniatâd cynllunio newid defnydd tra bo’r pandemig yn parhau i
effeithio ar y gallu i ddefnyddio’r lleoliadau hynny at eu prif ddiben;
c) archwilio creu amgueddfa
genedlaethol hanes a threftadaeth pobl dduon a phobl o liw i’w lleoli yn Tiger
Bay fel cynnig amgen posibl i’r cynnig ar gyfer un neu ragor o amgueddfeydd
milwrol;
d) sicrhau mwy o gyfranogiad
pobl dduon a phobl o liw yn y celfyddydau a chyrff diwylliannol, fel y gelwir
amdano yn y Maniffesto ar gyfer Cymru Gwrth-hiliaeth gan Gynghrair Hil
Cymru;
e) sicrhau bod y Gymraeg
yn cael lle canolog yng ngweithlu ac allbwn sector y celfyddydau yn ei
chyfanrwydd wrth symud ymlaen;
f) cyflwyno gwarchodaeth
statudol i atal colli enwau lleoedd Cymraeg o’r amgylchedd naturiol a’r
amgylchedd adeiledig; a
g) sicrhau bod pob adran
o’r llywodraeth yn gweithredu yn strategol tuag at gyflawni chweched nod
llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, sef Cymru â
diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu, ac i ymgysylltu'n drylwyr ac yn
ystyrlon gyda sectorau’r celfyddydau, diwylliant a threftadaeth wrth wneud
hynny.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
10 |
0 |
42 |
52 |
Gwrthodwyd y cynnig heb
ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 2 Darren Millar
(Gorllewin Clwyd)
Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:
Yn croesawu pecyn achub y celfyddydau gwerth £1.57 biliwn
gan Lywodraeth Ei Mawrhydi a'r swm canlyniadol o £59miliwn sy'n deillio ohono i
Gymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
14 |
1 |
37 |
52 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 Darren Millar
(Gorllewin Clwyd)
Dileu pwynt 5 a rhoi yn ei le:
Yn croesawu cynlluniau ar gyfer amgueddfa meddygaeth
filwrol ym Mae Caerdydd ac yn cydnabod pwysigrwydd lleoliadau ledled Cymru sy'n
dathlu treftadaeth filwrol gyfoethog Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
15 |
0 |
37 |
52 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 Rebecca Evans
(Gwyr)
Dileu pwynt 5 ac ailrifo yn unol â hynny.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
37 |
3 |
12 |
52 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 Rebecca Evans
(Gwyr)
Ym mhwynt 6, dileu is-bwyntiau b) a c) a rhoi yn eu lle:
c) yn gweithio i sicrhau bod hanes Pobl Dduon ac Asiaidd
a Lleiafrifoedd Ethnig yn cael ei gynnwys a’i adlewyrchu ar draws rhwydwaith
amgueddfeydd Cymru a thrafod ag arweinwyr cymunedau opsiynau i’r dyfodol er
mwyn sicrhau sylw cyfiawn i’r hanes yma.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
32 |
4 |
16 |
52 |
Derbyniwyd gwelliant 5.
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23 (iii), ni ddewiswyd
gwelliannau 6 a 7 a gyflwynwyd i’r cynnig hwn.
Gwelliant 8 Rebecca Evans
(Gwyr)
Ym mhwynt 6, dileu is-bwyntiau e) a f) a rhoi yn eu lle:
e) yn gweithio i sicrhau bod y Gymraeg wrth wraidd
gweithlu ac allbwn sector y celfyddydau;
f) yn cydnabod pwysigrwydd enwau lleoedd Cymraeg ac yn
parhau i ystyried opsiynau er mwyn sicrhau na fyddant yn cael eu colli o’r
amgylcheddau adeiledig a naturiol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 8:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
36 |
3 |
13 |
52 |
Derbyniwyd gwelliant 8.
Gwelliant 9 Darren Millar
(Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 6:
yn nodi canlyniad yr adolygiad annibynnol o ariannu
Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac yn galw am gynnydd o £1.445 miliwn mewn cyllid
sylfaenol yn y flwyddyn ariannol nesaf i roi cyllid y sefydliad ar sail gynaliadwy
ar gyfer y dyfodol
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 9:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
24 |
0 |
27 |
51 |
Gwrthodwyd gwelliant 9
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23 (iii), ni ddewiswyd
gwelliannau 10, 11, 12 a 13 a gyflwynwyd i’r cynnig hwn.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM7421 Sian Gwenllian
(Arfon)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd
sectorau celfyddydau, diwylliant a threftadaeth Cymru a’r heriau y mae’r
sectorau hyn yn eu wynebu yn sgil COVID-19.
2.Yn croesawu’r archwilio o’r
newydd sydd wedi bod ar dreftadaeth amrywiol Cymru yn ystod misoedd y pandemig
yng ngoleuni mudiad Mae Bywydau Duon o Bwys ac ymgyrchoedd eraill.
3. Yn cefnogi galwadau i
sicrhau y caiff ein treftadaeth ei hyrwyddo a’i chyflwyno mewn modd sensitif a
chynhwysol o’i holl amrywiaeth gyfoethog yn y dyfodol.
4. Yn gresynu at y ffaith bod
cynllun cefnogi swyddi Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn annhebygol o achub
llawer o leoliadau celfyddydol a cherddoriaeth byw ac atyniadau diwylliannol
rhag cael eu cau, nac achub gyrfaoedd gweithwyr y celfyddydau (llawrydd a
chyflogedig) er gwaetha’r ffaith yr oeddent yn hyfyw cyn COVID-19.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i:
a) gweithio gyda Cyngor y
Celfyddydau, Tasglu Llawrydd Cymru, a grwpiau a sefydliadau eraill ym maes y
celfyddydau a diwylliant i weithredu argymhellion yr
adroddiad: ‘Ailfantoli ac Ailddychmygu: Strategaethau i Gefnogi Gweithwyr
Llawrydd ym Maes y Celfyddydau a Pherfformio';
b) yn cydnabod y pwyslais y mae
Polisi Cynllunio Cymru yn ei roi ar les diwylliannol drwy greu cynlluniau a
phenderfyniadau cynllunio, sy’n cefnogi’r gwaith o barhau i ddarparu defnyddiau
diwylliannol ar gyfer cymunedau drwy ei ddull o greu lleoedd.
c) yn gweithio i sicrhau bod
hanes Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn cael ei gynnwys a’i
adlewyrchu ar draws rhwydwaith amgueddfeydd Cymru a thrafod ag arweinwyr
cymunedau opsiynau i’r dyfodol er mwyn sicrhau sylw cyfiawn i’r hanes yma.
d) sicrhau mwy o gyfranogiad
pobl dduon a phobl o liw yn y celfyddydau a chyrff diwylliannol, fel y gelwir
amdano yn y Maniffesto ar gyfer Cymru Gwrth-hiliaeth gan Gynghrair Hil
Cymru;
e) yn gweithio i sicrhau bod y
Gymraeg wrth wraidd gweithlu ac allbwn sector y celfyddydau;
f) yn cydnabod pwysigrwydd
enwau lleoedd Cymraeg ac yn parhau i ystyried opsiynau er mwyn sicrhau na
fyddant yn cael eu colli o’r amgylcheddau adeiledig a naturiol.
g) sicrhau bod pob adran
o’r llywodraeth yn gweithredu yn strategol tuag at gyflawni chweched nod
llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, sef Cymru â
ddiwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu, ac i ymgysylltu'n drylwyr ac yn
ystyrlon gyda sectorau’r celfyddydau, diwylliant a threftadaeth wrth wneud
hynny.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
28 |
1 |
23 |
52 |
Derbyniwyd y cynnig fel
y’i diwygiwyd.