Cyfarfodydd

NDM7418 Standards of Conduct Committee debate - Remuneration of the Acting Commissioner for Standards

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 07/10/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Tâl y Comisiynydd Safonau Dros Dro

NDM7418 Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod Douglas Bain CBE TD wedi’i benodi yn Gomisiynydd dros dro yn unol ag Adran 4(1) o Fesur Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2009 (“y Mesur”) ar 13 Tachwedd 2019.

2. Yn ystyried yr adroddiad gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad [Taliad y Comisiynydd Safonau dros dro] (“yr adroddiad”) yn ymwneud â’r cynnig i addasu telerau penodiad Mr Bain

3. Yn addasu telerau penodiad y Comisiynydd dros dro, yn unol ag adran 4(4)(d) o’r Mesur, fel y nodir yn Atodiad A o’r adroddiad.

Mesur Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2009

Pwyllgor Safonau Ymddygiad: Tâl y Comisiynydd Safonau Dros Dro

 

 

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.50

NDM7418 Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod Douglas Bain CBE TD wedi’i benodi yn Gomisiynydd dros dro yn unol ag Adran 4(1) o Fesur Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2009 (“y Mesur”) ar 13 Tachwedd 2019.

2. Yn ystyried yr adroddiad gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad [Taliad y Comisiynydd Safonau dros dro] (“yr adroddiad”) yn ymwneud â’r cynnig i addasu telerau penodiad Mr Bain.

3. Yn addasu telerau penodiad y Comisiynydd dros dro, yn unol ag adran 4(4)(d) o’r Mesur, fel y nodir yn Atodiad A o’r adroddiad.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.