Cyfarfodydd

P-05-1035 Dylid caniatáu i bartneriaid genedigaeth fod yn bresennol adeg sganiau, dechrau esgor, yn ystod yr enedigaeth ac ar ôl yr enedigaeth

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 13/09/2021 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-05-1035 Dylid caniatáu i bartneriaid genedigaeth fod yn bresennol adeg sganiau, dechrau esgor, yn ystod yr enedigaeth ac ar ôl yr enedigaeth.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law, a chytunodd fod y newidiadau y mae'r deisebydd yn galw amdanynt wedi'u cynnwys yn y canllawiau diwygiedig, ac roedd yn cydnabod hefyd y bydd hyn yn dibynnu ar asesiadau risg i adlewyrchu amgylchiadau lleol. Cytunodd y Pwyllgor i ddiolch i’r deisebydd ac i gau’r ddeiseb.

 


Cyfarfod: 12/01/2021 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-1035 Dylid caniatáu i bartneriaid genedigaeth fod yn bresennol adeg sganiau, dechrau esgor, yn ystod yr enedigaeth ac ar ôl yr enedigaeth.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y materion a nodwyd mewn dadl ddiweddar yn y Cyfarfod Llawn ar y pwnc hwn a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i:

  • ofyn am ddiweddariad ar y fframwaith ar gyfer mynediad ymwelwyr mewn gwasanaethau mamolaeth yn dilyn y symudiad diweddar i lefel rybudd 4 Covid-19; a
  • phwyso am ddarparu mynediad ehangach i bartner geni allu bod yn bresennol a chefnogi yn ystod y cyfnod cyn y bydd y fenyw yn esgor.

 


Cyfarfod: 03/11/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-1035 Dylid caniatáu i bartneriaid genedigaeth fod yn bresennol adeg sganiau, dechrau esgor, yn ystod yr enedigaeth ac ar ôl yr enedigaeth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a nododd bwysigrwydd y materion a godwyd. Yn sgil awgrym y Gweinidog fod canllawiau wedi'u diweddaru ar y mater hwn yn cael eu cynhyrchu ar hyn o bryd, cytunodd yr Aelodau y byddent yn aros am ragor o wybodaeth a chopi o'r canllawiau cyn penderfynu pa gamau pellach y byddai'n briodol eu cymryd ar y ddeiseb.