Cyfarfodydd

P-05-1033 Dylid diddymu ffioedd cofrestru Cyngor y Gweithlu Addysg (EWC) a diwygio ei drefniant yn llwyr

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 12/01/2021 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-1033 Dylid diddymu ffioedd cofrestru Cyngor y Gweithlu Addysg (EWC) a diwygio ei drefniant yn llwyr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor fod y deisebydd yn anfodlon â’r ymatebion a ddaeth i law o ran y ddeiseb. Fodd bynnag, yn sgil y wybodaeth a ddaeth i law a’r ymateb blaenorol gan y Gweinidog Addysg, cytunodd y Pwyllgor nad oedd llawer o gamau y gallai eu cymryd mewn cysylltiad â’r ddeiseb ar hyn o bryd. Felly, cytunodd i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.

 


Cyfarfod: 03/11/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-1033 Dylid diddymu ffioedd cofrestru Cyngor y Gweithlu Addysg (EWC) a diwygio ei drefniant yn llwyr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Gyngor y Gweithlu Addysg i ofyn:

·         am ei ymateb i’r ddeiseb a’r materion eraill a nodwyd gan y deisebydd; ac

·         i gael rhagor o wybodaeth am weledigaeth y sefydliad, sut mae'n cefnogi athrawon a staff ysgolion i gyflawni eu rolau ac am gyflawniadau nodedig ers ei sefydlu.