Cyfarfodydd

NDM7392 Dadl: Y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 05/11/2020 - Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Fframwaith Datblygu Cenedlaethol 2020-2040

Dyfan Sion, Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg

Dylan Foster-Evans, Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru

Wyn Thomas, Dyfodol i'r Iaith

Robat Idris, Cymdeithas yr Iaith

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd yr aelodau effaith y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol gyda'r tystion. Roedd saib byr yn y ffrwd darlledu byw.

 


Cyfarfod: 29/09/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 16)

Dadl: Y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol

NDM7392 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol, a osodwyd ar 21 Medi 2020;

2. Yn cydnabod yr ymgysylltu a’r ymgynghori helaeth a fu dros y pedair blynedd ddiwethaf sydd wedi cyfrannu at y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol;

3. Yn cytuno bod y fframwaith ar gyfer y pedwar rhanbarth a’r polisïau yn y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol yn rhoi arweiniad i awdurdodau cynllunio ac eraill wrth lunio a gwneud lleoedd da;

4. Yn cytuno bod y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol cyntaf yn gosod sylfaen gadarn ar gyfer gwneud penderfyniadau cynllunio strategol cadarnhaol sy’n mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd, yn annog datgarboneiddio ac yn hyrwyddo llesiant;

5. Yn cytuno y bydd cyhoeddi Fframwaith Datblygu Cenedlaethol yn helpu i gefnogi adferiad cryf o Covid-19.

Fframwaith Datblygu Cenedlaethol

Dogfennau Ategol

Adroddiad yr Ymgynghoriad: Crynodeb (FfDC drafft)

Adroddiad yr Ymgynghoriad (FfDC drafft)

Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig o’r FfDC: Crynodeb Annhechnegol

Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig o’r FfDC

FfDC: Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd

Rhestr o newidiadau i ddrafft y FfDC

 

Gwelliant 1 Caroline Jones (Gorllewin De Cymru)

 

Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:

 

Yn credu y dylai'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol cyntaf osod sylfaen gadarn ar gyfer gwneud penderfyniadau cynllunio strategol cadarnhaol sy’n mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd, yn annog datgarboneiddio ac yn hyrwyddo llesiant;

 

Yn gresynu at y ffaith bod Llywodraeth Cymru, unwaith eto, wedi dewis rhoi gormod o bwyslais ar wynt ar y tir.

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailddrafftio'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol i ganolbwyntio ar gynhyrchu ynni niwtral o ran carbon o gymysgedd o ynni gwynt ar y môr ac ynni'r llanw.

 

Os derbynnir Gwelliant 1, bydd Gwelliant 2 yn cael ei ddad-dethol.

 

Gwelliant 2 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

 

Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:

 

Yn credu nad yw Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Llywodraeth Cymru yn sicrhau dyfodol i Gymru sy'n ffyniannus, yn gynaliadwy ac yn rhoi cyfle cyfartal i'w holl dinasyddion.

 

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 19.08

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM7392 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol, a osodwyd ar 21 Medi 2020;

2. Yn cydnabod yr ymgysylltu a’r ymgynghori helaeth a fu dros y pedair blynedd ddiwethaf sydd wedi cyfrannu at y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol;

3. Yn cytuno bod y fframwaith ar gyfer y pedwar rhanbarth a’r polisïau yn y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol yn rhoi arweiniad i awdurdodau cynllunio ac eraill wrth lunio a gwneud lleoedd da;

4. Yn cytuno bod y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol cyntaf yn gosod sylfaen gadarn ar gyfer gwneud penderfyniadau cynllunio strategol cadarnhaol sy’n mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd, yn annog datgarboneiddio ac yn hyrwyddo llesiant;

5. Yn cytuno y bydd cyhoeddi Fframwaith Datblygu Cenedlaethol yn helpu i gefnogi adferiad cryf o Covid-19.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 Caroline Jones (Gorllewin De Cymru)

Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn credu y dylai'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol cyntaf osod sylfaen gadarn ar gyfer gwneud penderfyniadau cynllunio strategol cadarnhaol sy’n mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd, yn annog datgarboneiddio ac yn hyrwyddo llesiant;

Yn gresynu at y ffaith bod Llywodraeth Cymru, unwaith eto, wedi dewis rhoi gormod o bwyslais ar wynt ar y tir.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailddrafftio'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol i ganolbwyntio ar gynhyrchu ynni niwtral o ran carbon o gymysgedd o ynni gwynt ar y môr ac ynni'r llanw.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

1

0

53

54

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn credu nad yw Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Llywodraeth Cymru yn sicrhau dyfodol i Gymru sy'n ffyniannus, yn gynaliadwy ac yn rhoi cyfle cyfartal i'w holl dinasyddion.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

24

0

30

54

Gwrthodwyd gwelliant 2.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:

NDM7392 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol, a osodwyd ar 21 Medi 2020;

2. Yn cydnabod yr ymgysylltu a’r ymgynghori helaeth a fu dros y pedair blynedd ddiwethaf sydd wedi cyfrannu at y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol;

3. Yn cytuno bod y fframwaith ar gyfer y pedwar rhanbarth a’r polisïau yn y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol yn rhoi arweiniad i awdurdodau cynllunio ac eraill wrth lunio a gwneud lleoedd da;

4. Yn cytuno bod y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol cyntaf yn gosod sylfaen gadarn ar gyfer gwneud penderfyniadau cynllunio strategol cadarnhaol sy’n mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd, yn annog datgarboneiddio ac yn hyrwyddo llesiant;

5. Yn cytuno y bydd cyhoeddi Fframwaith Datblygu Cenedlaethol yn helpu i gefnogi adferiad cryf o Covid-19.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

30

0

24

54

Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.