Cyfarfodydd

Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Ardrethu Annomestig (Rhestrau) (Rhif 2)

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 02/03/2021 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 8)

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ardrethu Annomestig (Rhestrau) (Rhif. 2)

NDM7604 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Ardrethu Annomestig (Rhestrau) (Rhif 2), i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Medi 2020 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Bil Ardrethu Annomestig (Rhestrau) (Rhif 2) (Saesneg yn unig)

Dogfennau Ategol

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol

Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau

Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.18

NDM7604 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Ardrethu Annomestig (Rhestrau) (Rhif 2), i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Medi 2020 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Bil Ardrethu Annomestig (Rhestrau) (Rhif 2) (Saesneg yn unig)

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 16.24 cafodd y trafodion eu hatal dros dro am 6 munud.

 


Cyfarfod: 02/11/2020 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 15)

15 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ardrethu Annomestig (Rhestrau) (Rhif 2): Trafod yr adroddiad drafft

CLA(5)-31-20 – Papur 107 – Adroddiad drafft

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ardrethu Annomestig (Rhestrau) (Rhif 2), a chytunodd arno.

 


Cyfarfod: 19/10/2020 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 13)

13 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ardrethu Annomestig (Rhestrau) (Rhif 2): Trafod yr adroddiad drafft

CLA(5)-30-20 – Papur 48 – Adroddiad drafft

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ardrethu Annomestig (Rhestrau) (Rhif 2), a chytunodd i ystyried drafft diwygiedig yn y cyfarfod nesaf.

 


Cyfarfod: 14/10/2020 - Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

7 Adroddiad drafft: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Ardrethu Annomestig (Rhestrau) (Rhif 2)

Dogfennau ategol:

  • EIS(5)-20-20 Paper 4: Adroddiad drafft (Saesneg yn unig)

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft


Cyfarfod: 14/10/2020 - Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 Trafod Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Ardrethu Annomestig (Rhestrau) (Rhif 2)

Dogfennau ategol:

  • EIS(5)-20-20 - Paper 3: Cyngor cyfreithiol

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm. Roedd yn fodlon bod y Bil yn gwneud darpariaeth at ddiben sydd o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd a bod angen Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol o dan Reol Sefydlog 29, ac nid oedd yn gweld dim rheswm dros wrthwynebu bod y Senedd yn cytuno i’r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol. Byddai adroddiad y Pwyllgor ar y Memorandwm yn cael ei osod erbyn y terfyn amser, sef 5 Tachwedd.


Cyfarfod: 12/10/2020 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 12)

12 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Ardrethu Annomestig (Rhestri) (Rhif 2): Trafod y materion allweddol

CLA(5)-29-20 – Papur 48 – Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol

CLA(5)-29-20 – Papur 49 – Nodyn cyngor cyfreithiol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y materion allweddol mewn perthynas â Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Ardrethu Annomestig (Rhestrau) (Rhif 2). Cytunodd y Pwyllgor i drafod ei adroddiad drafft mewn cyfarfod yn y dyfodol.