Cyfarfodydd

SL(5)615 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 10) (Rhondda Cynon Taf) 2020

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 29/09/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 10) (Rhondda Cynon Taf) 2020

NDM7396 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 10) (Rhondda Cynon Taf) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Medi 2020.

Dogfennau Ategol

Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.53

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM7396 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 10) (Rhondda Cynon Taf) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Medi 2020.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

37

10

7

54

Derbyniwyd y cynnig.

 


Cyfarfod: 28/09/2020 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 SL(5)615 – Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 10) (Rhondda Cynon Taf) 2020

CLA(5)-27-20 – Papur 32 – Adroddiad

CLA(5)-27-20 – Papur 33 – Rheoliadau

CLA(5)-27-20 – Papur 34 – Memorandwm Esboniadol

CLA(5)-27-20 – Papur 35 – Llythyr gan y Prif Weinidog, 17 Medi 2020

CLA(5)-27-20 - Papur 36 – Datganiad ysgrifenedig, 16 Medi 2020

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd. Yn ogystal, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru ynghylch ei chanllawiau cyhoeddedig ar gyfyngiadau sy’n gysylltiedig â choronafeirws.

 


Cyfarfod: 22/09/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 10) ( Rhondda Cynon Taf) 2020

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 12

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i bennu dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ddydd Llun 28 Medi i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyflwyno adroddiad ar y rheoliadau.