Cyfarfodydd
NDM7386 Plaid Cymru debate - Second Homes
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 23/09/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 13)
- Gweddarllediad ar gyfer 23/09/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 23/09/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl Plaid Cymru - Ail Gartrefi
NDM7386 Sian
Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod yr
argyfwng tai sy’n bodoli mewn sawl cymuned yng Nghymru ac yn cydnabod yn
benodol effaith andwyol lefelau anghynaladwy ail gartrefi sy’n arwain at
amddifadu pobl leol rhag gallu cael cartref yn y cymunedau hynny.
2. Yn croesawu’r camau
y mae rhai awdurdodau lleol wedi’u cymryd yn sgil darpariaethau Deddf Tai
(Cymru) 2014 i gyflwyno premiwm treth gyngor ar ail gartrefi fel un dull o
geisio newid ymddygiad ynghylch defnydd ail gartrefi ac i hwyluso cyflwyno
mesurau i ddiwallu’r angen lleol am dai, ond yn cytuno bod rhaid wrth ymyrraeth
ac arweiniad o’r newydd ar lefel genedlaethol erbyn hyn.
3. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i weithredu yn ddi-oed i ddatblygu a chyflwyno pecyn o fesurau
fyddai’n cynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i:
a) defnyddio’r
gyfundrefn gynllunio i reoli’r gallu i newid defnydd tŷ annedd o fod yn
brif gartref i fod yn ail gartref;
b) galluogi cyflwyno
cap ar y gyfran o’r holl stoc tai mewn cymuned y gellid eu defnyddio fel ail
gartrefi mewn cymunedau lle mae’r crynodiad o ail gartrefi eisoes yn anghynaladwy;
c) diweddaru’r
gyfraith sy’n golygu nad oes rhaid talu’r un geiniog o dreth gyngor ar rai ail
gartrefi fel mae pethau’n sefyll ar hyn o bryd;
d) dyblu uchafswm
premiwm y dreth gyngor y gellid ei godi ar ail gartrefi i o leiaf 200 y cant i
atgyfnerthu’r gwaith sydd eisoes yn digwydd mewn rhai awdurdodau lleol i geisio
newid ymddygiad o gwmpas defnyddio ail gartrefi, codi refeniw i’w fuddsoddi
mewn tai cymdeithasol ac i ddigolledu cymunedau am sgileffeithiau andwyol
gorddefnydd ail gartrefi ar gymunedau a gwasanaethau lleol;
e) dyblu cyfradd uwch
y dreth trafodiadau tir ar unwaith am gyfnod cychwynnol o chwe mis i geisio
atal prisiau tai rhag mynd ymhellach o gyrraedd y boblogaeth leol a’r rhai sy’n
prynu am y tro cyntaf mewn nifer o gymunedau;
f) cymryd camau
cadarnhaol i hwyluso mynediad at dai am bris sydd o fewn cyrraedd y farchnad
leol, gan gynnwys y posibilrwydd o annog datblygu tai gydag amodau marchnad leol arnynt;
g) annog a rhoi
blaenoriaeth i awdurdodau lleol a chymdeithasau tai i brynu tai gwag i’w
datblygu er mwyn diwallu’r angen lleol am dai cymdeithasol; a
h) edrych o’r newydd
ar y diffiniad dŷ fforddiadwy.
Gwelliant 1 – Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu popeth a rhoi yn
ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod yr
argyfwng tai sy’n bodoli mewn sawl cymuned yng Nghymru a'r angen i alluogi pobl
leol i gael mynediad i gartrefi yn y cymunedau hynny.
2. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i weithredu yn ddi-oed i ddatblygu a chyflwyno pecyn o fesurau
fyddai’n cynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i:
a) cymryd camau
cadarnhaol i hwyluso mynediad at dai ar bris sydd o fewn cyrraedd pobl leol,
gan gynnwys ailgyflwyno hawl i brynu wed'i diwygio ac archwilio'r
opsiynau ar gyfer annog datblygu tai gydag amod lleol arnynt;;
b) annog a rhoi
blaenoriaeth i awdurdodau lleol a chymdeithasau tai i brynu tai gwag i’w
datblygu er mwyn diwallu’r angen lleol am dai cymdeithasol; ac
c) egluro beth yw
cartref fforddiadwy.
3. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r sector twristiaeth ac Asiantaeth y Swyddfa
Brisio i sefydlu sylfaen dystiolaeth ar gyfer polisi ynghylch cymhwysedd i
gofnodi llety hunanarlwyo ar y rhestr ardrethu annomestig.
Os
derbynnir Gwelliant 1, caiff Gwelliannau 2 a 3 eu ddad-ddethol
Gwelliant 2 Rebecca
Evans (Gwyr)
Dileu popeth a rhoi yn
ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod her ail
gartrefi - a thai gwag - i'r cyflenwad o dai fforddiadwy mewn rhai cymunedau
yng Nghymru.
2. Yn croesawu ymrwymiad
hirsefydlog Llywodraeth Cymru i ddarparu tai fforddiadwy o ansawdd uchel, gan
gydnabod eu rôl hanfodol fel sylfaen i gymunedau cynaliadwy cryf.
3. Yn croesawu, er bod
y pandemig wedi cael effaith ar adeiladu tai fforddiadwy, y bydd Llywodraeth Cymru'n
cyrraedd y targed o 20,000 erbyn diwedd tymor y Senedd hon, a fydd yn helpu i
ddiwallu'r angen am dai lleol.
4. Yn nodi mai Cymru
yw'r unig wlad yn y DU lle mae awdurdodau lleol yn gallu codi premiwm o hyd at
100 y cant o gyfradd safonol y dreth gyngor ar ail gartrefi ac eiddo sydd
wedi bod yn wag am gyfnod hir.
5. Yn nodi ymhellach
na wnaeth Llywodraeth Cymru ddarparu gostyngiad treth dros dro yng Nghymru, yn
wahanol i weddill y DU, i fuddsoddwyr prynu i osod, buddsoddwyr mewn llety
gwyliau na phrynwyr ail gartrefi.
6. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiad trylwyr o berchnogaeth ail gartrefi yng
Nghymru a'r mesurau a allai fod yn angenrheidiol i sicrhau bod anghenion
unigolion, cymunedau a'r economi, yn enwedig yr economi ymwelwyr, yn cael eu
cydbwyso. Dylai adolygiad o'r fath ystyried rôl trethiant, cynllunio,
rheoleiddio lleol ynghyd â'r cyflenwad o dai fforddiadwy o bob math a mynediad
atynt.
Os derbynnir Gwelliant
2, caiff Gwelliant 3 ei dad-ddethol
Gwelliant 3 Neil
McEvoy (Canol De Cymru)
Yn is-bwynt 3(g), ar
ôl 'chymdeithasau tai' ychwanegu:
', drwy brynu gorfodol
os oes angen,'
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 18.16
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM7386
Sian Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod yr
argyfwng tai sy’n bodoli mewn sawl cymuned yng Nghymru ac yn cydnabod yn
benodol effaith andwyol lefelau anghynaladwy ail gartrefi sy’n arwain at
amddifadu pobl leol rhag gallu cael cartref yn y cymunedau hynny.
2. Yn croesawu’r camau
y mae rhai awdurdodau lleol wedi’u cymryd yn sgil darpariaethau Deddf Tai
(Cymru) 2014 i gyflwyno premiwm treth cyngor ar ail gartrefi fel un dull o
geisio newid ymddygiad ynghylch defnydd ail gartrefi ac i hwyluso cyflwyno
mesurau i ddiwallu’r angen lleol am dai, ond yn cytuno bod rhaid wrth ymyrraeth
ac arweiniad o’r newydd ar lefel genedlaethol erbyn hyn.
3. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i weithredu yn ddi-oed i ddatblygu a chyflwyno pecyn o fesurau
fyddai’n cynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i:
a) defnyddio’r
gyfundrefn gynllunio i reoli’r gallu i newid defnydd ty annedd o fod yn brif
gartref i fod yn ail gartref;
b) galluogi cyflwyno
cap ar y gyfran o’r holl stoc tai mewn cymuned y gellid eu defnyddio fel ail
gartrefi mewn cymunedau lle mae’r crynodiad o ail gartrefi eisoes yn
anghynaladwy;
c) diweddaru’r
gyfraith sy’n golygu nad oes rhaid talu’r un geiniog o dreth gyngor ar rai ail
gartrefi fel mae pethau’n sefyll ar hyn o bryd;
d) dyblu uchafswm
premiwm y dreth gyngor y gellid ei godi ar ail gartrefi i o leiaf 200 y cant i
atgyfnerthu’r gwaith sydd eisoes yn digwydd mewn rhai awdurdodau lleol i geisio
newid ymddygiad o gwmpas defnyddio ail gartrefi, codi refeniw i’w fuddsoddi
mewn tai cymdeithasol ac i ddigolledu cymunedau am sgileffeithiau andwyol
gorddefnydd ail gartrefi ar gymunedau a gwasanaethau lleol;
e) dyblu cyfradd uwch
y dreth trafodiadau tir ar unwaith am gyfnod cychwynnol o chwe mis i geisio
atal prisiau tai rhag mynd ymhellach o gyrraedd y boblogaeth leol a’r rhai sy’n
prynu am y tro cyntaf mewn nifer o gymunedau;
f) cymryd camau
cadarnhaol i hwyluso mynediad at dai am bris sydd o fewn cyrraedd y farchnad
leol, gan gynnwys y posibilrwydd o annog datblygu tai gydag amod marchnad leol
arnynt;
g) annog a rhoi
blaenoriaeth i awdurdodau lleol a chymdeithasau tai i brynu tai gwag i’w
datblygu er mwyn diwallu’r angen lleol am dai cymdeithasol; a
h) edrych o’r newydd
ar y diffiniad o dy fforddiadwy.
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
10 |
0 |
42 |
52 |
Gwrthodwyd y cynnig
heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 – Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu popeth a rhoi yn
ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod yr
argyfwng tai sy’n bodoli mewn sawl cymuned yng Nghymru a'r angen i alluogi pobl
leol i gael mynediad i gartrefi yn y cymunedau hynny.
2. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i weithredu yn ddi-oed i ddatblygu a chyflwyno pecyn o fesurau
fyddai’n cynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i:
a) cymryd camau
cadarnhaol i hwyluso mynediad at dai ar bris sydd o fewn cyrraedd pobl leol,
gan gynnwys ailgyflwyno hawl i brynu wedi'i diwygio ac archwilio'r
opsiynau ar gyfer annog datblygu tai gydag amod lleol arnynt;;
b) annog a rhoi
blaenoriaeth i awdurdodau lleol a chymdeithasau tai i brynu tai gwag i’w datblygu
er mwyn diwallu’r angen lleol am dai cymdeithasol; ac
c) egluro beth yw
cartref fforddiadwy.
3. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r sector twristiaeth ac Asiantaeth y Swyddfa
Brisio i sefydlu sylfaen dystiolaeth ar gyfer polisi ynghylch cymhwysedd i
gofnodi llety hunanarlwyo ar y rhestr ardrethu annomestig.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
13 |
0 |
39 |
52 |
Gwrthodwyd gwelliant
1.
Gwelliant 2 Rebecca Evans (Gwyr)
Dileu popeth a rhoi yn
ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod her ail
gartrefi - a thai gwag - i'r cyflenwad o dai fforddiadwy mewn rhai cymunedau
yng Nghymru.
2. Yn croesawu
ymrwymiad hirsefydlog Llywodraeth Cymru i ddarparu tai fforddiadwy o ansawdd
uchel, gan gydnabod eu rôl hanfodol fel sylfaen i gymunedau cynaliadwy
cryf.
3. Yn croesawu, er bod
y pandemig wedi cael effaith ar adeiladu tai fforddiadwy, y bydd Llywodraeth
Cymru'n cyrraedd y targed o 20,000 erbyn diwedd tymor y Senedd hon, a fydd yn
helpu i ddiwallu'r angen am dai lleol.
4. Yn nodi mai Cymru
yw'r unig wlad yn y DU lle mae awdurdodau lleol yn gallu codi premiwm o hyd at
100 y cant o gyfradd safonol y dreth gyngor ar ail gartrefi ac eiddo sydd
wedi bod yn wag am gyfnod hir.
5. Yn nodi ymhellach
na wnaeth Llywodraeth Cymru ddarparu gostyngiad treth dros dro yng Nghymru, yn
wahanol i weddill y DU, i fuddsoddwyr prynu i osod, buddsoddwyr mewn llety gwyliau
na phrynwyr ail gartrefi.
6. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiad trylwyr o berchnogaeth ail gartrefi yng
Nghymru a'r mesurau a allai fod yn angenrheidiol i sicrhau bod anghenion
unigolion, cymunedau a'r economi, yn enwedig yr economi ymwelwyr, yn cael eu
cydbwyso. Dylai adolygiad o'r fath ystyried rôl trethiant, cynllunio,
rheoleiddio lleol ynghyd â'r cyflenwad o dai fforddiadwy o bob math a mynediad
atynt.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
4 |
21 |
52 |
Derbyniwyd gwelliant
2.
Gan fod Gwelliant 2 wedi’i dderbyn, cafodd Gwelliant 3 ei
ddad-ddethol
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM7386 Sian Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod her ail gartrefi - a thai gwag - i'r
cyflenwad o dai fforddiadwy mewn rhai cymunedau yng Nghymru.
2. Yn croesawu ymrwymiad hirsefydlog Llywodraeth Cymru i
ddarparu tai fforddiadwy o ansawdd uchel, gan gydnabod eu rôl hanfodol fel
sylfaen i gymunedau cynaliadwy cryf.
3. Yn croesawu, er bod y pandemig wedi cael effaith ar
adeiladu tai fforddiadwy, y bydd Llywodraeth Cymru'n cyrraedd y targed o 20,000
erbyn diwedd tymor y Senedd hon, a fydd yn helpu i ddiwallu'r angen am dai lleol.
4. Yn nodi mai Cymru yw'r unig wlad yn y DU lle mae
awdurdodau lleol yn gallu codi premiwm o hyd at 100 y cant o gyfradd
safonol y dreth gyngor ar ail gartrefi ac eiddo sydd wedi bod yn wag am gyfnod
hir.
5. Yn nodi ymhellach na wnaeth Llywodraeth Cymru ddarparu
gostyngiad treth dros dro yng Nghymru, yn wahanol i weddill y DU, i fuddsoddwyr
prynu i osod, buddsoddwyr mewn llety gwyliau na phrynwyr ail gartrefi.
6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiad trylwyr
o berchnogaeth ail gartrefi yng Nghymru a'r mesurau a allai fod yn
angenrheidiol i sicrhau bod anghenion unigolion, cymunedau a'r economi, yn
enwedig yr economi ymwelwyr, yn cael eu cydbwyso. Dylai adolygiad o'r fath
ystyried rôl trethiant, cynllunio, rheoleiddio lleol ynghyd â'r cyflenwad o dai
fforddiadwy o bob math a mynediad atynt.
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
26 |
3 |
23 |
52 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd