Cyfarfodydd

P-05-1029 Dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno profion gorfodol ar yr holl deithwyr sy'n cyrraedd Maes Awyr Caerdydd

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 16/03/2021 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-1029 Dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno profion gorfodol ar yr holl deithwyr sy’n cyrraedd Maes Awyr Caerdydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth gan y Gweinidog, y sefyllfa sydd wedi newid ers cyflwyno'r ddeiseb a'r gofynion presennol i bobl sy'n cyrraedd Cymru ymgymryd â chyfnod o hunan-ynysu a phrofion wrth gyrraedd. Gan nad oes llawer pellach y gall y Pwyllgor ei wneud, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.

 


Cyfarfod: 01/12/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-1029 Dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno profion gorfodol ar yr holl deithwyr sy’n cyrraedd Maes Awyr Caerdydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf, gan fynegi eu siom ynghylch y diffyg ymateb i'r ddeiseb gan Lywodraeth Cymru, a chytunwyd i ysgrifennu eto i ofyn bod un yn cael ei ddarparu ar y cyfle cyntaf.