Cyfarfodydd

P-05-1024 Gwneud ymwybyddiaeth amgylcheddol yn orfodol ac yn fodiwl allweddol mewn ysgolion yng Nghymru ar gyfer pob blwyddyn (Addysg Gynradd ac Uwchradd)

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 26/11/2020 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 Llythyr gan y Pwyllgor Deisebau at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch Deiseb P-05-1024 Er mwyn i ymwybyddiaeth amgylcheddol gael ei gwneud yn orfodol ac yn fodiwl allweddol o fewn Ysgolion yng Nghymru ar gyfer pob blwyddyn (Addysg Gynradd ac Uwchradd)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 03/11/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-1024 Gwneud ymwybyddiaeth amgylcheddol yn orfodol ac yn fodiwl allweddol mewn ysgolion yng Nghymru ar gyfer pob blwyddyn (Addysg Gynradd ac Uwchradd)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y ddeiseb a’r ohebiaeth a gafwyd. O ystyried bod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg wrthi’n craffu ar y Bil Cwricwlwm ac Asesu a chynnwys y Cwricwlwm newydd i Gymru, cytunodd y Pwyllgor i godi’r ddeiseb gyda’r Pwyllgor hwnnw. Wrth wneud hynny, cytunodd y Pwyllgor i ddiolch i’r deisebydd ac i gau’r ddeiseb.