Cyfarfodydd
NDM7376 Welsh Conservatives Debate - Covid-19 Prevention Measures
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 16/09/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 9)
- Gweddarllediad ar gyfer 16/09/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 16/09/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Mesurau i Atal COVID-19
NDM7376 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i:
a) ymestyn y defnydd gorfodol
o orchuddion wyneb i gynnwys meysydd awyr, siopau, archfarchnadoedd,
canolfannau siopa, ysbytai a lleoliadau gofal iechyd eraill;
b) defnyddio
cyfyngiadau coronafeirws lleol mewn ymateb i gynnydd sylweddol mewn cyfraddau
heintio Covid-19 mewn modd cymesur er mwyn osgoi gosod cyfyngiadau symud llawn
ar Gymru gyfan;
c)
ei gwneud yn ofynnol i bob teithiwr sy'n dod i mewn i Gymru o dramor gael prawf
Covid-19 wrth gyrraedd Maes Awyr Caerdydd.
Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Rebecca
Evans (Gwyr)
Dileu is-bwynt (a).
Gwelliant 2 Sian
Gwenllian (Arfon)
Dileu is-bwynt (c) a
rhoi yn ei le:
'Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i adolygu effeithiolrwydd mesurau i gynnwys lledaeniad COVID-19 mewn
perthynas â theithio rhyngwladol hyd yma ac i weithredu unrhyw wersi a
ddysgwyd.'
[Os derbynnir
Gwelliant 2, bydd Gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol]
Gwelliant 3 Rebecca
Evans (Gwyr)
Dileu is-bwynt (c) a
rhoi yn ei le 'profi pobl sy’n dychwelyd i Gymru o wledydd nad ydynt wedi’u
heithrio sydd â chyfraddau uwch o COVID-19 na Chymru, yn unol â’r cyngor
cyfredol gan y Grŵp Cyngor Technegol'.
Gwelliant 4 Caroline
Jones (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i sicrhau llety i alluogi teithwyr a'r rhai nad oes ganddynt y
cyfleusterau i fod dan gwarantin ar eu pen eu hunain.
Gwelliant 5 Sian
Gwenllian (Arfon)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i wneud gorchuddion wyneb yn orfodol mewn ardaloedd cymunedol mewn
lleoliadau addysg penodol.
Gwelliant 6 Sian
Gwenllian (Arfon)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i gyflwyno cynllun COVID-19 newydd i Gymru i ddarparu dull cyfannol o
ymdrin â'r pandemig yn ystod y cyfnod nesaf.
Gwelliant 7 Sian
Gwenllian (Arfon)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i fynd i'r afael ar frys â phroblemau yn y drefn brofi bresennol ac i
weithio tuag at gyflwyno profion dyddiol torfol.
Gwelliant 8 Sian
Gwenllian (Arfon)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i archwilio'r syniad o ddefnyddio ‘cyfyngiadau symud clyfar' wrth ymateb
i glystyrau lleol, gan ddefnyddio cyfyngiadau mewn ardaloedd mor lleol â
phosibl.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 17.05
Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM7376 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) ymestyn y defnydd gorfodol o orchuddion wyneb
i gynnwys meysydd awyr, siopau, archfarchnadoedd, canolfannau siopa, ysbytai a
lleoliadau gofal iechyd eraill;
c) ei gwneud yn ofynnol i bob teithiwr sy'n dod i mewn i Gymru o dramor
gael prawf Covid-19 wrth gyrraedd Maes Awyr Caerdydd.
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
13 |
0 |
40 |
53 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Rebecca Evans (Gwyr)
Dileu is-bwynt (a).
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
32 |
11 |
11 |
54 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 Sian Gwenllian (Arfon)
Dileu is-bwynt (c) a rhoi yn ei le:
'Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu
effeithiolrwydd mesurau i gynnwys lledaeniad COVID-19 mewn perthynas â theithio
rhyngwladol hyd yma ac i weithredu unrhyw wersi a ddysgwyd.'
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 2:
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
10 |
2 |
42 |
54 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 Rebecca Evans (Gwyr)
Dileu is-bwynt (c) a rhoi yn ei le 'profi pobl
sy’n dychwelyd i Gymru o wledydd nad ydynt wedi’u heithrio sydd â chyfraddau
uwch o COVID-19 na Chymru, yn unol â’r cyngor cyfredol gan y Grŵp Cyngor
Technegol'.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 3:
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
31 |
1 |
22 |
54 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 Caroline Jones (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau llety i
alluogi teithwyr a'r rhai nad oes ganddynt y cyfleusterau i fod dan gwarantin
ar eu pen eu hunain.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 4:
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
13 |
0 |
41 |
54 |
Gwrthodwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 Sian Gwenllian (Arfon)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud gorchuddion
wyneb yn orfodol mewn ardaloedd cymunedol mewn lleoliadau addysg penodol.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 5:
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
10 |
10 |
34 |
54 |
Gwrthodwyd gwelliant 5.
Gwelliant 6 Sian Gwenllian (Arfon)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno cynllun
COVID-19 newydd i Gymru i ddarparu dull cyfannol o ymdrin â'r pandemig yn ystod
y cyfnod nesaf.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 6:
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
23 |
0 |
31 |
54 |
Gwrthodwyd gwelliant 6.
Gwelliant 7 Sian Gwenllian (Arfon)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael ar
frys â phroblemau yn y drefn brofi bresennol ac i weithio tuag at gyflwyno
profion dyddiol torfol.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 7:
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
21 |
0 |
33 |
54 |
Gwrthodwyd gwelliant 7.
Gwelliant 8 Sian Gwenllian (Arfon)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio'r syniad
o ddefnyddio ‘cyfyngiadau symud clyfar' wrth ymateb i glystyrau lleol, gan
ddefnyddio cyfyngiadau mewn ardaloedd mor lleol â phosibl.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 8:
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
21 |
0 |
33 |
54 |
Gwrthodwyd gwelliant 8.
Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM7376 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) defnyddio cyfyngiadau coronafeirws lleol mewn
ymateb i gynnydd sylweddol mewn cyfraddau heintio Covid-19 mewn modd cymesur er
mwyn osgoi gosod cyfyngiadau symud llawn ar Gymru gyfan;
b) profi pobl sy’n dychwelyd i Gymru o wledydd
nad ydynt wedi’u heithrio sydd â chyfraddau uwch o COVID-19 na Chymru, yn unol
â’r cyngor cyfredol gan y Grŵp Cyngor Technegol'.
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
31 |
9 |
14 |
54 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.
Am 18.04, yn unol â
Rheol Sefydlog 12.18, cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y Dirprwy Lywydd
tan 18.12.