Cyfarfodydd

P-05-1023 Cyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer biniau ailgylchu a chasglu deunyddiau i'w hailgylchu ym mhob lleoliad addysg yng Nghymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 13/10/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 P-05-1023 Cyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer biniau ailgylchu a chasglu deunyddiau i'w hailgylchu ym mhob lleoliad addysg yng Nghymru.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf ac, yng ngoleuni'r cyllid sydd ar gael drwy Gronfa’r Economi Gylchol a boddhad y deisebydd, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb, a diolch i'r deisebydd am dynnu sylw at y mater hwn.