Cyfarfodydd

P-05-1021 Peidiwch â gwneud mygydau na gorchuddion wyneb yn orfodol mewn DIM ysgolion (gan gynnwys ysgolion uwchradd)

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 17/11/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-1021 Peidiwch â gwneud mygydau na gorchuddion wyneb yn orfodol mewn DIM ysgolion (gan gynnwys ysgolion uwchradd)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb a, gan gydnabod y ffaith nad yw gorchuddion wyneb yn orfodol mewn ysgolion ar hyn o bryd, a diffyg cysylltiad pellach gan y deisebydd, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb.

 

 


Cyfarfod: 13/10/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-1021 Peidiwch â gwneud mygydau na gorchuddion wyneb yn orfodol mewn DIM ysgolion (gan gynnwys ysgolion uwchradd)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:

 

·         ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog Addysg i ofyn pa ganllawiau sydd ar gael i ddisgyblion ynghylch gwisgo gorchuddion wyneb a beth sy'n cael ei wneud i hwyluso gwaredu mygydau wyneb yn ddiogel ac mewn modd cyfeillgar i'r amgylchedd mewn ysgolion. 

·         I aros am sylwadau pellach gan y deisebydd.