Cyfarfodydd

SICM(5)29 - Rheoliadau Gwastraff (Economi Gylchol) (Diwygio) 2020

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 06/10/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 12)

Cynnig Cydsyniad Offeryn Statudol ar Reoliadau Gwastraff (Economi Gylchol) (Diwygio) 2020

NDM7413 Hannah Blythyn (Delyn)

Cynnig bod y Senedd yn cytuno, yn unol â Rheol Sefydlog 30A.10, fod yr Ysgrifennydd Gwladol yn gwneud Rheoliadau Gwastraff (Economi Gylchol) (Diwygio) 2020, yn unol â'r drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Medi 2020.

Gosodwyd y Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Medi 2020 yn unol â Rheol Sefydlog 30A.2.

Dogfennau Ategol

Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)

 

Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad:

Adroddiad Pwyllgor ar y Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol

 

 

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.46

NDM7413 Hannah Blythyn (Delyn)

Cynnig bod y Senedd yn cytuno, yn unol â Rheol Sefydlog 30A.10, fod yr Ysgrifennydd Gwladol yn gwneud Rheoliadau Gwastraff (Economi Gylchol) (Diwygio) 2020, yn unol â'r drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Medi 2020.

Gosodwyd y Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Medi 2020 yn unol â Rheol Sefydlog 30A.2.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


Cyfarfod: 28/09/2020 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 11)

11 SICM(5)29 - Rheoliadau Gwastraff (Economi Gylchol) (Diwygio) 2020 - trafod yr adroddiad drafft

CLA(5)-27-20 – Papur 55 – Adroddiad drafft

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn trafod ei adroddiad ar Femorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol Llywodraeth Cymru ar Reoliadau Gwastraff (Economi Gylchol) (Diwygio) 2020 a chytunodd arno. Nododd y Pwyllgor y byddai ei adroddiad yn cael ei osod erbyn y dyddiad cau gofynnol, sef 29 Medi 2020.

 


Cyfarfod: 21/09/2020 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

7 SICM(5)29 - Rheoliadau Gwastraff (Economi Gylchol) (Diwygio) 2020

CLA(5)-25-20 – Papur 33 – Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol

CLA(5)-25-20 – Papur 34 – Rheoliadau

CLA(5)-25-20 – Papur 35 – Memorandwm Esboniadol

CLA(5)-25-20 – Papur 36 – Llythyr gan y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, 2 Medi 2020

CLA(5)-25-20 – Papur 37 – Nodyn Cyngor Cyfreithiol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol ac roedd yn fodlon arno. Nododd y Pwyllgor y dyddiad cau ar gyfer adrodd, sef 29 Medi 2020, a chytunodd i ystyried ei adroddiad drafft yn y cyfarfod nesaf.