Cyfarfodydd
Ymchwiliad i ofal newyddenedigol
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 21/03/2013 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4.)
Llythyr i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar Ofal Newyddenedigol
Cyfarfod: 07/03/2013 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
3 Ymchwiliad i ofal newyddenedigol
Mark Drayton, Neonatolegydd Ymgynghorol ac Arweinydd Clinigol, Rhwydwaith Newyddenedigol Cymru
Daniel Phillips, Cyfawyddwr Gweithredol Cynllunio ar gyfer Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru
Dogfennau ategol:
- CYP(4)-08-13 Papur 2 - Rhwydwaith Newyddenedigol Cymru, Eitem 3 PDF 188 KB Gweld fel HTML (3/1) 1002 KB
- CYP(4)-08-13 Papur 3 - Arolwg Capasiti Rhwydwaith Newyddenedigol Cymru, Eitem 3 PDF 565 KB Gweld fel HTML (3/2) 637 KB
Cofnodion:
3.1 Croesawodd y Cadeirydd Dr Mark Drayton a Mr Daniel Phillips i’r cyfarfod. Holodd yr Aelodau y tystion.
Camau i’w cymryd
Cytunodd y tystion i ddarparu’r
ffigurau staff meddygol a nyrsio ar gyfer
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar gyfer
mis Gorffennaf 2012.
Cytunodd y tystion i ddarparu’r
ffigurau diweddaraf ar gyfer nifer
y genedigaethau o fewn ardal Bwrdd Iechyd
Prifysgol Caerdydd a’r Fro.
Cyfarfod: 07/03/2013 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)
2 Ymchwiliad i ofal newyddenedigol
Lesley Griffiths AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Chris Jones, Dirprwy Brif Swyddog
Meddygol Cymru
Heather Payne, Uwch Swyddog
Meddygol, Iechyd Mamau a Phlant
Mark Partridge, Gwasanaethau Cyfreithiol
Dogfennau ategol:
- CYP(4)-08-13 Papur 1 - y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eitem 2 PDF 134 KB Gweld fel HTML (2/1) 29 KB
Cofnodion:
2.1 Croesawodd y Cadeirydd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’i swyddogion i’r cyfarfod. Holodd yr Aelodau y tystion.
Camau i’w cymryd
Cytunodd y Gweinidog i ddarparu gwybodaeth ar y cwestiwn ynghylch a yw Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn cynnwys enwau staff nyrsio sydd wedi cael eu gwahardd o’r gwaith neu sy’n absennol o’r gwaith am gyfnod hir oherwydd salwch ar rotas.
Cytunodd y Gweinidog i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ganlyniadau y rhaglen wasanaeth ar gyfer rhieni a chymunedau mewn perthynas â gofal newyddenedigol.
Cyfarfod: 17/01/2013 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
3 Gohebiaeth gan y Weinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghylch Gofal Newyddenedigol
Dogfennau ategol:
Cyfarfod: 11/07/2012 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 8)
8 Ymchwiliad i ofal newyddenedigol - gwybodaeth ychwanegol a gafwyd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Dogfennau ategol:
Cyfarfod: 11/07/2012 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 8)
8 Ymchwiliad i ofal newyddenedigol - gwybodaeth ychwanegol a gafwyd gan Goleg Nyrsio Brenhinol Cymru
Dogfennau ategol:
Cyfarfod: 11/07/2012 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 8)
8 Ymchwiliad i ofal newyddenedigol - gwybodaeth ychwanegol a gafwyd gan fyrddau iechyd
Dogfennau ategol:
Cyfarfod: 11/07/2012 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)
Ymchwiliad i ofal newyddenedigol: trafod yr adroddiad drafft
Cofnodion:
Cyfarfod: 31/05/2012 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)
2 Ymchwiliad i ofal newyddenedigol
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Lesley Griffiths
AC
Dr Chris Jones, Cyfarwyddwr
Meddygol, GIG Cymru,
Llywodraeth Cymru
Jean White, Prif
Swyddog Nyrsio, Llywodraeth Cymru
Dogfennau ategol:
- CYP(4)-16-12 Papur 1 - Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eitem 2 PDF 155 KB Gweld fel HTML (2/1) 20 KB
- CYP(4)16-12 Papur 2 - Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Saesneg yn unig), Eitem 2 PDF 2 MB
Cofnodion:
2.1 Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’i
swyddogion mewn perthynas â’r ymchwiliad i ofal newyddenedigol.
2.2 Cytunodd y Gweinidog i ymchwilio i’r honiad bod rhai
achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal wedi digwydd yn sgìl penderfyniadau a
wnaed gan reolwyr gwasanaethau ambiwlans, a chytunodd i ysgrifennu at Gadeirydd
y Pwyllgor gan nodi ei chanfyddiadau.
2.3 Cytunodd Suzy Davies AC i ysgrifennu at y Gweinidog
gan nodi ei phryderon ynghylch amseroedd ymateb.
Cyfarfod: 31/05/2012 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)
Ymchwiliad i ofal newyddenedigol: Trafod y dystiolaeth
Cofnodion:
Cyfarfod: 17/05/2012 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)
Ymchwiliad i ofal newyddenedigol: Trafod y dystiolaeth
Cofnodion:
5.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a gafwyd a’r meysydd
posibl y byddant am holi’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn eu
cylch ar 31 Mai.
Cyfarfod: 17/05/2012 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
3 Ymchwiliad i ofal newyddenedigol
Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg
Paul Roberts – Prif Weithredwr
Hamish Laing, Cyfarwyddwr y Strategaeth Glinigol
Bwrdd Iechyd Hywel Dda
Trevor Purt – Prif
Weithredwr
Dr Simon Fountain-Polley – Pediatregydd Ymgynghorol / Cyfarwyddwr y Rhaglen Glinigol – Iechyd Plant a Menywod
Dogfennau ategol:
- CYP(4)-14-12 Papur 7 - Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, Eitem 3 PDF 7 MB
- CYP(4)-14-12 Papur 8 - Bwrdd Iechyd Hywel Dda, Eitem 3 PDF 104 KB
Cofnodion:
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Fwrdd Iechyd
Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg a Bwrdd Iechyd Hywel Dda ar wasanaethau
newyddenedigol.
Camau i’w cymryd:
Cytunodd Bwrdd Iechyd Hywel Dda i anfon fersiwn wedi’i
diweddaru o gynllun gweithredu gwasanaeth newyddenedigol y Bwrdd.
Cyfarfod: 17/05/2012 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)
2 Ymchwiliad i ofal newyddenedigol
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Geoff Lang – Prif Weithredwr Dros Dro
Dr Brendan Harrington – Pennaeth Staff
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Fwrdd Iechyd
Prifysgol Betsi Cadwaladr ar wasanaethau newyddenedigol.
Camau i’w cymryd:
Cytunodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i ddarparu
ffigyrau mwy diweddar ar raddfeydd marwolaethau babanod yng nghymuned iechyd
gogledd Cymru.
Cytunodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i baratoi
nodyn ar ansawdd a’r gwasanaethau y mae’n eu cynnig ar gyfer gofal
newyddenedigol.
Cytunodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr Betsi
Cadwaladr i anfon copi o’r archwiliad diweddaraf a gynhaliwyd ar ei wasanaethau
newyddenedigol dibyniaeth isel ledled cymuned iechyd gogledd Cymru.
Cytunodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i ddarparu
enghreifftiau ac esboniadau o’r pedwar achos cofnodedig o oedi gydag
ambiwlansys a oedd yn rhan o’r wybodaeth a gyflwynwyd i’r Pwyllgor. Bydd y
Bwrdd hefyd yn darparu, os ydynt ar gael, yr amseroedd teithio disgwyliedig i
ambiwlansys o brif ganolfannau gogledd Powys i Ysbyty Maelor Wrecsam ac Ysbty
Glan Clwyd.
Cyfarfod: 17/05/2012 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)
4 Ymchwiliad i ofal newyddenedigol
Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan
Dr Andrew Goodall – Prif Weithredwr
Judith Paget, Cyfarwyddwr Cynllunio a Gweithrediadau / Dirprwy Brif Weithredwr
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Fwrdd Iechyd Aneurin
Bevan ar wasanaethau newyddenedigol.
Camau i’w cymryd:
Cytunodd Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan i ysgrifennu at y
Cadeirydd ynghylch a yw cyflwr unrhyw fabi wedi gwaethygu wrth ei drosglwyddo
gan ambiwlans o Bowys i Ysbyty Brenhinol Gwent, a chytunodd hefyd i roi
ffigyrau am nifer y trosglwyddiadau heb eu cynllunio o gymuned de-ddwyrain
Cymru.
Cyfarfod: 17/05/2012 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)
5 Ymchwiliad i ofal newyddenedigol: Gwybodaeth ychwanegol gan Goleg Brenhinol y Nyrsys Cymru
Dogfennau ategol:
- CYP(4)-14-12 Papur 5 - Ymchwiliad i ofal newyddenedigol: Y wybodaeth ddiweddaraf gan Goleg Brenhinol y Nyrsys Cymru, Eitem 5 PDF 212 KB Gweld fel HTML (5/1) 5 KB
Cyfarfod: 17/05/2012 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
3 Ymchwiliad i ofal newyddenedigol
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
Paul Hollard – Prif Weithredwr Dros Dro
Dr Jennifer Calvert – Neonatolegydd Ymgynghorol
Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf
Allison Williams – Prif Weithredwr
Kath McGrath – Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gweithrediadau
Dogfennau ategol:
- CYP(4)-14-12 Papur 2 - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, Eitem 3 PDF 331 KB
- CYP(4)-14-12 Papur 3 - Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf, Eitem 3 PDF 316 KB
Cofnodion:
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Fwrdd Iechyd
Prifysgol Caerdydd a'r Fro a Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf ar wasanaethau
newyddenedigol.
Camau i’w cymryd:
Bydd y Clerc yn anfon y dystiolaeth a ddaeth i law gan Goleg
Brenhinol y Nyrsys at y ddau fwrdd gan ofyn am eu sylwadau ynghylch yr honiad
bod rhai nyrsys newyddenedigol wedi ariannu eu hyfforddiant eu hunain ac wedi
gwneud yr hyfforddiant yn eu hamser eu hunain.
Bydd y Cadeirydd yn ysgrifennu at y Ddeoniaeth i ofyn am
esboniad ynglŷn â’r prinder honedig o
feddygon iau mewn gwasanaethau newyddenedigol.
Cyfarfod: 17/05/2012 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)
2 Ymchwiliad i ofal newyddenedigol
Bwrdd Iechyd Addysgu
Powys
Andrew Cottom – Prif Weithredwr
Carol Shillabeer – Cyfarwyddwr Nyrsio
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Fwrdd Addysgu Iechyd Powys ar wasanaethau newyddenedigol.
Cyfarfod: 01/03/2012 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)
6 Gofal newyddenedigol - gwybodaeth ychwanegol gan Goleg Brenhinol y Nyrsys Cymru
Dogfennau ategol:
- CYP(4)-07-12 Papur 2 - Gofal newyddenedigol - gwybodaeth ychwanegol gan Goleg Brenhinol y Nyrsys Cymru (Saesneg yn unig), Eitem 6 PDF 15 KB Gweld fel HTML (6/1) 5 KB
Cyfarfod: 22/02/2012 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
3 CYP(4)-06-12 (papur 4) - Ymchwiliad i ofal newyddenedigol
Dogfennau ategol:
Cyfarfod: 09/02/2012 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)
Ymchwiliad i Ofal Newyddenedigol - Ystyried y dystiolaeth
Cofnodion:
5.1 Cytunodd yr Aelodau bod angen rhagor o dystiolaeth ynghylch y mater hwn ac y byddai’r Clerc yn ysgrifennu at y byrddau iechyd lleol i geisio gwybodaeth am wasanaethau newyddenedigol. Cytunwyd hefyd y byddai’r byrddau iechyd lleol a’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn cael eu gwahodd i gyfarfod o’r Pwyllgor yn y dyfodol i roi tystiolaeth.
Cyfarfod: 09/02/2012 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
3 Ymchwiliad i Ofal Newyddenedigol - Sesiwn dystiolaeth 4
Dr Iolo Doull, Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant Cymru
Dr Mark Drayton, Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant Cymru
Dogfennau ategol:
- CYP(4)-05-12 Papur 6 - Royal College of Paediatrics and Child Health (Wales) (Saesneg yn unig), Eitem 3 PDF 71 KB Gweld fel HTML (3/1) 53 KB
Cofnodion:
3.1 Croesawodd y Cadeirydd y tystion. Holodd yr Aelodau’r tystion am wasanaethau newyddenedigol.
Cam i’w gymryd
Cytunodd Dr Drayton i ysgrifennu at y Cadeirydd gyda manylion am wasanaethau allgymorth newyddenedigol a ddarperir yng Nghymru.
Cyfarfod: 09/02/2012 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)
2 Ymchwiliad i Ofal Newyddenedigol - Sesiwn dystiolaeth 3
Dr Sybil Barr, Cymdeithas Meddygaeth Amenedigol Prydain
Dogfennau ategol:
- CYP(4)-05-12 Papur 5 - Cymdeithas Meddygaeth Amenedigol Prydain (Saesneg yn Unig), Eitem 2 PDF 22 KB Gweld fel HTML (2/1) 13 KB
Cofnodion:
2.1 Croesawodd y Cadeirydd y tystion. Holodd yr Aelodau’r tystion am wasanaethau newyddenedigol.
Cyfarfod: 09/02/2012 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)
2 Ymchwiliad i Ofal Newyddenedigol - Tystiolaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Dogfennau ategol:
- CYP(4)-05-12 (p1) Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eitem 2 PDF 44 KB Gweld fel HTML (2/1) 43 KB
Cofnodion:
2.1 Nodwyd y papur gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
Cyfarfod: 09/02/2012 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)
5 Adolygiad y Gymdeithas Siartredig Ffisiotherapi o ofal newyddenedigol
Dogfennau ategol:
- CYP(4)-05-12 (p7) - Adolygiad y Gymdeithas Siartredig Ffisiotherapi o ofal newyddenedigol, Eitem 5 PDF 313 KB Gweld fel HTML (5/1) 251 KB
Cyfarfod: 09/02/2012 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)
4 Ymchwiliad i Ofal Newyddenedigol - Sesiwn dystiolaeth 2
Coleg Brenhinol y Nyrsys
Lisa Turnbull, Cynghorydd Polisi a Materion Cyhoeddus, Coleg Brenhinol y Nyrsys Cymru
Dr Jim Richardson, Aelod o Fwrdd Coleg Brenhinol y Nyrsys Cymru dros Blant a Phobl Ifanc
Cymdeithas y Nyrsys Newyddenedigol
Pamela Boyd, Cymdeithas y Nyrsys Newyddenedigol
Dogfennau ategol:
- CYP(4)-05-12 (p3) - Coleg Brenhinol y Nyrsys (Saesneg yn unig), Eitem 4 PDF 40 KB Gweld fel HTML (4/1) 24 KB
- CYP(4)-05-12 (p4) - Cymdeithas y Nyrsys Newyddenedigol (Saesneg yn unig), Eitem 4 PDF 36 KB Gweld fel HTML (4/2) 7 KB
Cofnodion:
2.1 Croesawodd y Cadeirydd y tystion. Holodd yr Aelodau’r tystion am wasanaethau newyddenedigol.
Camau i’w cymryd
Cytunodd Lisa Turnbull i ysgrifennu at y Cadeirydd gyda manylion am ddiffyg crudiau lefel 1. Cytunodd hefyd i ddarparu eglurhad ynghylch y cymwysterau gwahanol y gall nyrsys babanod newydd-anedig eu gwneud ynghyd â’r costau a’r amser a gymerir i hyfforddi.
Cyfarfod: 09/02/2012 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
3 Ymchwiliad i Ofal Newyddenedigol - Sesiwn dystiolaeth 1
Helen Kirrane, Rheolwr Ymgyrchoedd a Pholisi, Bliss
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
3.1 Croesawodd y Cadeirydd y tyst. Holodd yr Aelodau’r tyst am wasanaethau newyddenedigol.
Cam i’w gymryd
Cytunodd Helen Kirrane i anfon cyfeiriadau i ategu’r datganiad yn ei phapur bod babanod yn cael eu rhoi mewn perygl lle nad oedd nyrs yn gofalu amdanynt drwy’r amser.