Cyfarfodydd

Ymchwiliad i ofal newyddenedigol

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 21/03/2013 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4.)

Llythyr i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar Ofal Newyddenedigol


Cyfarfod: 07/03/2013 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Ymchwiliad i ofal newyddenedigol

Mark Drayton, Neonatolegydd Ymgynghorol ac Arweinydd Clinigol, Rhwydwaith Newyddenedigol Cymru

 

Daniel Phillips, Cyfawyddwr Gweithredol Cynllunio ar gyfer Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Croesawodd y Cadeirydd Dr Mark Drayton a Mr Daniel Phillips i’r cyfarfod. Holodd yr Aelodau y tystion.

 

Camau i’w cymryd

Cytunodd y tystion i ddarparu’r ffigurau staff meddygol a nyrsio ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar gyfer mis Gorffennaf 2012.

 

Cytunodd y tystion i ddarparu’r ffigurau diweddaraf ar gyfer nifer y genedigaethau o fewn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.

 


Cyfarfod: 07/03/2013 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Ymchwiliad i ofal newyddenedigol

 

Lesley Griffiths AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

 

Chris Jones, Dirprwy Brif Swyddog Meddygol Cymru

Heather Payne, Uwch Swyddog Meddygol, Iechyd Mamau a Phlant

Mark Partridge, Gwasanaethau Cyfreithiol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’i swyddogion i’r cyfarfod. Holodd yr Aelodau y tystion.

 

Camau i’w cymryd

Cytunodd y Gweinidog i ddarparu gwybodaeth ar y cwestiwn ynghylch a yw Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn cynnwys enwau staff nyrsio sydd wedi cael eu gwahardd o’r gwaith neu sy’n absennol o’r gwaith am gyfnod hir oherwydd salwch ar rotas.

 

Cytunodd y Gweinidog i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ganlyniadau y rhaglen wasanaeth ar gyfer rhieni a chymunedau mewn perthynas â gofal newyddenedigol.

 


Cyfarfod: 17/01/2013 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Gohebiaeth gan y Weinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghylch Gofal Newyddenedigol

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 11/07/2012 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 8)

8 Ymchwiliad i ofal newyddenedigol - gwybodaeth ychwanegol a gafwyd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 11/07/2012 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 8)

8 Ymchwiliad i ofal newyddenedigol - gwybodaeth ychwanegol a gafwyd gan Goleg Nyrsio Brenhinol Cymru

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 11/07/2012 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 8)

8 Ymchwiliad i ofal newyddenedigol - gwybodaeth ychwanegol a gafwyd gan fyrddau iechyd

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 11/07/2012 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

Ymchwiliad i ofal newyddenedigol: trafod yr adroddiad drafft

Cofnodion:

5.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod yr adroddiad drafft ar ofal newyddenedigol. Bydd yr adroddiad drafft yn cael ei ddiwygio yn sgîl y sylwadau a wnaed gan Aelodau, ac yn cael ei ailddosbarthu fel y gall Aelodau gytuno arno y tu allan i’r Pwyllgor.


Cyfarfod: 31/05/2012 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Ymchwiliad i ofal newyddenedigol

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Lesley Griffiths AC

Dr Chris Jones, Cyfarwyddwr Meddygol, GIG Cymru, Llywodraeth Cymru

Jean White, Prif Swyddog Nyrsio, Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’i swyddogion mewn perthynas â’r ymchwiliad i ofal newyddenedigol.

 

2.2 Cytunodd y Gweinidog i ymchwilio i’r honiad bod rhai achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal wedi digwydd yn sgìl penderfyniadau a wnaed gan reolwyr gwasanaethau ambiwlans, a chytunodd i ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor gan nodi ei chanfyddiadau.

 

2.3 Cytunodd Suzy Davies AC i ysgrifennu at y Gweinidog gan nodi ei phryderon ynghylch amseroedd ymateb.


Cyfarfod: 31/05/2012 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

Ymchwiliad i ofal newyddenedigol: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

4.1 Cytunodd yr Aelodau i gyhoeddi adroddiad ar eu canfyddiadau.


Cyfarfod: 17/05/2012 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

Ymchwiliad i ofal newyddenedigol: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a gafwyd a’r meysydd posibl y byddant am holi’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn eu cylch ar 31 Mai.

 


Cyfarfod: 17/05/2012 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Ymchwiliad i ofal newyddenedigol

Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg

Paul Roberts – Prif Weithredwr

Hamish Laing, Cyfarwyddwr y Strategaeth Glinigol

 

 

Bwrdd Iechyd Hywel Dda

Trevor PurtPrif Weithredwr

Dr Simon Fountain-PolleyPediatregydd Ymgynghorol / Cyfarwyddwr y Rhaglen GlinigolIechyd Plant a Menywod

 

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg a Bwrdd Iechyd Hywel Dda ar wasanaethau newyddenedigol.

 

Camau i’w cymryd:

 

Cytunodd Bwrdd Iechyd Hywel Dda i anfon fersiwn wedi’i diweddaru o gynllun gweithredu gwasanaeth newyddenedigol y Bwrdd.

 

 

 


Cyfarfod: 17/05/2012 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Ymchwiliad i ofal newyddenedigol

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Geoff Lang – Prif Weithredwr Dros Dro

Dr Brendan Harrington – Pennaeth Staff

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar wasanaethau newyddenedigol.

 

Camau i’w cymryd:

 

Cytunodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i ddarparu ffigyrau mwy diweddar ar raddfeydd marwolaethau babanod yng nghymuned iechyd gogledd Cymru.

 

Cytunodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i baratoi nodyn ar ansawdd a’r gwasanaethau y mae’n eu cynnig ar gyfer gofal newyddenedigol.

 

Cytunodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr Betsi Cadwaladr i anfon copi o’r archwiliad diweddaraf a gynhaliwyd ar ei wasanaethau newyddenedigol dibyniaeth isel ledled cymuned iechyd gogledd Cymru.

 

Cytunodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i ddarparu enghreifftiau ac esboniadau o’r pedwar achos cofnodedig o oedi gydag ambiwlansys a oedd yn rhan o’r wybodaeth a gyflwynwyd i’r Pwyllgor. Bydd y Bwrdd hefyd yn darparu, os ydynt ar gael, yr amseroedd teithio disgwyliedig i ambiwlansys o brif ganolfannau gogledd Powys i Ysbyty Maelor Wrecsam ac Ysbty Glan Clwyd.

 

 


Cyfarfod: 17/05/2012 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Ymchwiliad i ofal newyddenedigol

Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan

Dr Andrew GoodallPrif Weithredwr

Judith Paget, Cyfarwyddwr Cynllunio a Gweithrediadau / Dirprwy Brif Weithredwr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Fwrdd Iechyd Aneurin Bevan ar wasanaethau newyddenedigol.

 

Camau i’w cymryd:

 

Cytunodd Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan i ysgrifennu at y Cadeirydd ynghylch a yw cyflwr unrhyw fabi wedi gwaethygu wrth ei drosglwyddo gan ambiwlans o Bowys i Ysbyty Brenhinol Gwent, a chytunodd hefyd i roi ffigyrau am nifer y trosglwyddiadau heb eu cynllunio o gymuned de-ddwyrain Cymru.

 


Cyfarfod: 17/05/2012 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 Ymchwiliad i ofal newyddenedigol: Gwybodaeth ychwanegol gan Goleg Brenhinol y Nyrsys Cymru

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 17/05/2012 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Ymchwiliad i ofal newyddenedigol

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

Paul HollardPrif Weithredwr Dros Dro

Dr Jennifer Calvert – Neonatolegydd Ymgynghorol

 

Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf

Allison Williams – Prif Weithredwr

Kath McGrath – Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gweithrediadau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf ar wasanaethau newyddenedigol.

 

Camau i’w cymryd:

 

Bydd y Clerc yn anfon y dystiolaeth a ddaeth i law gan Goleg Brenhinol y Nyrsys at y ddau fwrdd gan ofyn am eu sylwadau ynghylch yr honiad bod rhai nyrsys newyddenedigol wedi ariannu eu hyfforddiant eu hunain ac wedi gwneud yr hyfforddiant yn eu hamser eu hunain.

 

Bydd y Cadeirydd yn ysgrifennu at y Ddeoniaeth i ofyn am esboniad ynglŷn â’r prinder honedig o feddygon iau mewn gwasanaethau newyddenedigol.

 

 


Cyfarfod: 17/05/2012 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Ymchwiliad i ofal newyddenedigol

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

Andrew Cottom – Prif Weithredwr

Carol Shillabeer – Cyfarwyddwr Nyrsio

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Fwrdd Addysgu Iechyd Powys ar wasanaethau newyddenedigol.

 

 


Cyfarfod: 01/03/2012 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

6 Gofal newyddenedigol - gwybodaeth ychwanegol gan Goleg Brenhinol y Nyrsys Cymru

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 22/02/2012 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 CYP(4)-06-12 (papur 4) - Ymchwiliad i ofal newyddenedigol

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 09/02/2012 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

Ymchwiliad i Ofal Newyddenedigol - Ystyried y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Cytunodd yr Aelodau bod angen rhagor o dystiolaeth ynghylch y mater hwn ac y byddai’r Clerc yn ysgrifennu at y byrddau iechyd lleol i geisio gwybodaeth am wasanaethau newyddenedigol. Cytunwyd hefyd y byddai’r byrddau iechyd lleol a’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn cael eu gwahodd i gyfarfod o’r Pwyllgor yn y dyfodol i roi tystiolaeth.


Cyfarfod: 09/02/2012 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Ymchwiliad i Ofal Newyddenedigol - Sesiwn dystiolaeth 4

Dr Iolo Doull, Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant Cymru

Dr Mark Drayton, Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Croesawodd y Cadeirydd y tystion. Holodd yr Aelodau’r tystion am wasanaethau newyddenedigol.

 

Cam i’w gymryd

 

Cytunodd Dr Drayton i ysgrifennu at y Cadeirydd gyda manylion am wasanaethau allgymorth newyddenedigol a ddarperir yng Nghymru.


Cyfarfod: 09/02/2012 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Ymchwiliad i Ofal Newyddenedigol - Sesiwn dystiolaeth 3

Dr Sybil Barr, Cymdeithas Meddygaeth Amenedigol Prydain

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd y tystion. Holodd yr Aelodau’r tystion am wasanaethau newyddenedigol.


Cyfarfod: 09/02/2012 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Ymchwiliad i Ofal Newyddenedigol - Tystiolaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Nodwyd y papur gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.


Cyfarfod: 09/02/2012 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 Adolygiad y Gymdeithas Siartredig Ffisiotherapi o ofal newyddenedigol

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 09/02/2012 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Ymchwiliad i Ofal Newyddenedigol - Sesiwn dystiolaeth 2

Coleg Brenhinol y Nyrsys

 

Lisa Turnbull, Cynghorydd Polisi a Materion Cyhoeddus, Coleg Brenhinol y Nyrsys Cymru

Dr Jim Richardson, Aelod o Fwrdd Coleg Brenhinol y Nyrsys Cymru dros Blant a Phobl Ifanc

 

 

Cymdeithas y Nyrsys Newyddenedigol

 

Pamela Boyd, Cymdeithas y Nyrsys Newyddenedigol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd y tystion. Holodd yr Aelodau’r tystion am wasanaethau newyddenedigol.

 

Camau i’w cymryd

 

Cytunodd Lisa Turnbull i ysgrifennu at y Cadeirydd gyda manylion am ddiffyg crudiau lefel 1. Cytunodd hefyd i ddarparu eglurhad ynghylch y cymwysterau gwahanol y gall nyrsys babanod newydd-anedig eu gwneud ynghyd â’r costau a’r amser a gymerir i hyfforddi. 


Cyfarfod: 09/02/2012 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Ymchwiliad i Ofal Newyddenedigol - Sesiwn dystiolaeth 1

Helen Kirrane, Rheolwr Ymgyrchoedd a Pholisi, Bliss

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Croesawodd y Cadeirydd y tyst. Holodd yr Aelodau’r tyst am wasanaethau newyddenedigol.

 

Cam i’w gymryd

 

Cytunodd Helen Kirrane i anfon cyfeiriadau i ategu’r datganiad yn ei phapur bod babanod yn cael eu rhoi mewn perygl lle nad oedd nyrs yn gofalu amdanynt drwy’r amser.