Cyfarfodydd

P-05-1013 Rhowch gymorth ariannol i unigolion hunangyflogedig yn niwydiant cerddoriaeth fyw Cymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 16/07/2021 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 4)

4 P-05-1013 Rhowch gymorth ariannol i unigolion hunangyflogedig yn niwydiant cerddoriaeth fyw Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law a daeth i'r casgliad, gyda gofid, nad oedd llawer o gamau pellach y gallai eu cymryd ar y mater ac felly cytunodd i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd.

 


Cyfarfod: 16/03/2021 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-1013 Rhowch gymorth ariannol i unigolion hunangyflogedig yn niwydiant cerddoriaeth fyw Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunwyd i ysgrifennu yn ôl at Lywodraeth Cymru i rannu'r profiadau pellach a ddarparwyd gan y deisebydd, ac i ofyn am roi ystyriaeth bellach i ddarparu rhagor o gefnogaeth benodol i'r sector cerddoriaeth fyw, o ystyried y tebygolrwydd na fydd digwyddiadau cerddorol yn gallu ailddechrau yn y dyfodol agos. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i aros am ymateb y Llywodraeth i'r adroddiad ar y mater hwn a luniwyd gan y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu.

 


Cyfarfod: 12/01/2021 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-1013 Rhowch gymorth ariannol i unigolion hunangyflogedig yn niwydiant cerddoriaeth fyw Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth a ddaeth i law a chytunodd i:

·         ysgrifennu’n ôl at y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth i fynegi pryderon am y diffyg cefnogaeth ar gael ar hyn o bryd i unigolion hunangyflogedig yn y sector cerddoriaeth fyw a gofyn am roi ystyriaeth frys i sut y gall y gefnogaeth a ddarperir trwy'r Gronfa Llawrydd gynyddu i wneud iawn yn well am ddiffyg incwm oherwydd y pandemig a’r cyfyngiadau cysylltiedig;

·         gofyn am eglurhad ynghylch a oedd cyhoeddiad diweddar gan y Canghellor yn nodi unrhyw newidiadau yn y gefnogaeth sydd ar gael i unigolion hunangyflogedig yn y sector cerddoriaeth fyw;

·         aros am ymateb Llywodraeth Cymru i argymhelliad 5 adroddiad diweddar y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ar effaith Covid-19 ar y celfyddydau.

 


Cyfarfod: 17/11/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-1013 Rhowch gymorth ariannol i unigolion hunangyflogedig yn niwydiant cerddoriaeth fyw Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:


Cyfarfod: 29/09/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-1013 Rhowch gymorth ariannol i unigolion hunangyflogedig yn niwydiant cerddoriaeth fyw Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a nododd y gefnogaeth ariannol i unigolion sydd i fod ar gael o 5 Hydref. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu yn ôl at y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth i ofyn am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwysedd ar gyfer y cyllid sydd ar gael i weithwyr llawrydd unigol fel rhan o’r Gronfa Adferiad Diwylliannol, a gofyn sut y bydd y Llywodraeth yn adolygu’r meini prawf hynny os bydd tystiolaeth yn dangos bod pobl a gyflogir yn y sector hwn ‘yn cwympo drwy’r bylchau’.