Cyfarfodydd

P-05-1010 Ymchwiliad annibynnol i'r llifogydd yn Rhondda Cynon Taf yn 2020 fel bod gwersi yn cael eu dysgu

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 07/02/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 4)

4 P-05-1010 Ymchwiliad annibynnol i'r llifogydd yn Rhondda Cynon Taf yn 2020 fel bod gwersi yn cael eu dysgu

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor fod y Llywodraeth wedi cadarnhau y bydd yn cynnal adolygiad annibynnol o’r adroddiadau Adran 19. Yng ngoleuni hyn, cytunodd y Pwyllgor i longyfarch y deisebydd am hyn ac am ganlyniadau cadarnhaol eraill y gwaith deisebu, gan gynnwys rhoi mwy o ystyriaeth i’r effeithiau ar iechyd meddwl wrth fuddsoddi yn y dyfodol i liniaru llifogydd, a chaeodd y ddeiseb.

 


Cyfarfod: 04/10/2021 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-05-1010 Ymchwiliad annibynnol i'r llifogydd yn Rhondda Cynon Taf yn 2020 fel bod gwersi yn cael eu dysgu

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Buffy Williams AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

Mae hi'n byw ym Mhentre, un o'r ardaloedd yr effeithiwyd arni gan y llifogydd yn 2020.

 

Datganodd Luke Fletcher AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

Mae'n adnabod y deisebydd.

 

Datganodd Joel James AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

Mae'n Gynghorydd ar Gyngor Rhondda Cynon Taf.

 

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu'n ôl at y Gweinidog Newid hinsawdd, gan ofyn i'r llywodraeth ddwyn ynghyd drosolwg o ganfyddiadau pob un o'r gwahanol adroddiadau adran 19 ac adroddiad Cyfoeth Naturiol Cymru, sy'n ystyried y gost ddynol ochr yn ochr â'r manylion technegol.

 

Cytunodd yr Aelodau hefyd i ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, yn gofyn iddo ystyried y materion a'r dystiolaeth a godwyd gan y deisebydd fel rhan o'i waith yn y dyfodol.

 


Cyfarfod: 16/03/2021 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-1010 Ymchwiliad annibynnol i'r llifogydd yn Rhondda Cynon Taf yn 2020 fel bod gwersi yn cael eu dysgu

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Leanne Wood y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Mae'r Deisebydd yn hysbys iddi, ac mae hi wedi bod yn rhan o'r ymgyrch.

 

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i drosglwyddo’r ddeiseb i'w hystyried ymhellach gan ei bwyllgor olynol yn y Senedd nesaf yng ngoleuni'r sefyllfa bryd hynny, gan gynnwys mewn perthynas â chyhoeddi adroddiadau Adran 19.

 


Cyfarfod: 12/01/2021 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-1010 Ymchwiliad annibynnol i'r llifogydd yn Rhondda Cynon Taf yn 2020 fel bod gwersi yn cael eu dysgu

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y materion a nodwyd mewn dadl ddiweddar yn y Cyfarfod Llawn a’r ohebiaeth bellach a ddaeth i law gan y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu at:

·         y Gweinidog Addysg i ofyn am ymateb i’r cwestiynau y mae’r deisebydd yn eu gofyn ynghylch yr hyn y bydd yr adroddiadau presennol sy’n cael eu llunio yn ei ddarparu; a

·         Cyfoeth Naturiol Cymru i ofyn am ei ymateb i’r ddeiseb, y wybodaeth bellach a ddaeth i law hyd yma a’i farn ar y rôl bosibl y gallai ymchwiliad annibynnol ei chwarae.

 


Cyfarfod: 09/12/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

Dadl ar Ddeiseb P-05-1010 Ymchwiliad annibynnol i'r llifogydd yn Rhondda Cynon Taf yn 2020 fel bod gwersi yn cael eu dysgu

NDM7502 Janet Finch-Saunders (Aberconwy)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi’r ddeiseb ‘P-05-1010 Ymchwiliad annibynnol i'r llifogydd yn Rhondda Cynon Taf yn 2020 fel bod gwersi yn cael eu dysgu’ a gasglodd 6,017 o lofnodion.

P-05-1010 Ymchwiliad annibynnol i'r llifogydd yn Rhondda Cynon Taf yn 2020 fel bod gwersi yn cael eu dysgu

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.17

NDM7502 Janet Finch-Saunders (Aberconwy)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi’r ddeiseb ‘P-05-1010 Ymchwiliad annibynnol i'r llifogydd yn Rhondda Cynon Taf yn 2020 fel bod gwersi yn cael eu dysgu’ a gasglodd 6,017 o lofnodion.

P-05-1010 Ymchwiliad annibynnol i'r llifogydd yn Rhondda Cynon Taf yn 2020 fel bod gwersi yn cael eu dysgu

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


Cyfarfod: 29/09/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-1010 Ymchwiliad annibynnol i’r llifogydd yn Rhondda Cynon Taf yn 2020 fel bod gwersi yn cael eu dysgu

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Leanne Wood y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Mae hi’n adnabod y deisebydd ac wedi rhannu’r ddeiseb yn ei hetholaeth.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes i ofyn am amser ar gyfer dadl yn y Cyfarfod Llawn ar y mater.