Cyfarfodydd

P-05-1009 Gorchmynnwch Gynghorau Cymru i gymhwyso gordal o 100 y cant o leiaf i'r Dreth Gyngor ar ail gartrefi

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 01/12/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-1009 Gorchmynnwch Gynghorau Cymru i gymhwyso gordal o 100 y cant o leiaf i’r Dreth Gyngor ar ail gartrefi.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ddiweddariad ar y ddeiseb a chytunodd i nodi'r wybodaeth bellach a gafodd am y sefyllfa bresennol o ran premiymau treth y cyngor ar gyfer ail gartrefi. Yn sgil hynny – ac esboniad blaenorol y Gweinidog am natur ddewisol y pŵer, a gymeradwywyd gan y Pwyllgor – cytunodd i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd.

 

 


Cyfarfod: 29/09/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-1009 Gorchmynnwch Gynghorau Cymru i gymhwyso gordal o 100 y cant o leiaf i’r Dreth Gyngor ar ail gartrefi.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ofyn am wybodaeth am faint o gynghorau yng Nghymru sy’n defnyddio’r pŵer dewisol i godi premiymau treth gyngor ar gyfer ail gartrefi ar hyn o bryd.