Cyfarfodydd

P-05-1003 Mynnu Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol nawr ynghylch gwaredu mwd wedi'i halogi'n radiolegol yn nyfroedd Cymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 01/11/2021 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-05-1003 Mynnu Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol nawr ynghylch gwaredu mwd wedi’i halogi’n radiolegol yn nyfroedd Cymru.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor ei fod wedi trafod y ddeiseb ar sawl achlysur a bod y ddeiseb hefyd wedi cael ei thrafod yn y Cyfarfod Llawn. Daethpwyd i’r casgliad na ellir dweud yn glir beth arall y gellid ei wneud ar y mater hwn. Gan hynny, cytunodd i ddiolch i’r deisebwyr a chau’r ddeiseb.

 


Cyfarfod: 13/09/2021 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-05-1003 Mynnu Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol nawr ynghylch gwaredu mwd wedi’i halogi’n radiolegol yn nyfroedd Cymru.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law, a chytunodd i ysgrifennu at Gyfoeth Naturiol Cymru yn gofyn pam nad yw wedi gwneud yn gyhoeddus gais y Sefydliad Rheolaeth Forol (MMO), a gofyn iddo roi'r dogfennau a'r ohebiaeth mewn ffeil gyhoeddus ar unwaith; a gofyn am ymateb i sylwadau a chwestiynau'r deisebwyr.

 


Cyfarfod: 16/03/2021 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-1003 Mynnu Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol nawr ynghylch gwaredu mwd wedi’i halogi’n radiolegol yn nyfroedd Cymru.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ychwanegol. O ystyried mai hwn yw cyfarfod olaf y Pwyllgor cyn Etholiad y Senedd, a’r ymgynghoriad cyhoeddus sydd i fod i gael ei gynnal ar y cais trwyddedu morol, cytunodd i drosglwyddo’r wybodaeth bellach a ddaeth i law i’w hystyried gan Gyfoeth Naturiol Cymru, ac i ofyn i’w bwyllgor olynol ystyried y ddeiseb ymhellach yng ngoleuni'r sefyllfa ar ôl Etholiad y Senedd.

 


Cyfarfod: 15/12/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-1003 Mynnu Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol nawr ynghylch gwaredu mwd wedi’i halogi’n radiolegol yn nyfroedd Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor sylwadau pellach a gafwyd yn dilyn y ddadl yn y Cyfarfod Llawn a gynhaliwyd ar 21 Hydref a chytunodd i ysgrifennu at Gyfoeth Naturiol Cymru i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am y broses drwyddedu morol ar gyfer y cais hwn ac ymateb i'r sylwadau pellach a wnaed gan y deisebwyr.

 

 


Cyfarfod: 15/09/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

6 P-05-1003 Mynnu Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol nawr ynghylch gwaredu mwd wedi’i halogi’n radiolegol yn nyfroedd Cymru.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes i ofyn am amser ar gyfer dadl yn y Cyfarfod Llawn ar y mater.