Cyfarfodydd

P-05-1002 Dylid rhoi seibiant treth stamp o ran pob t? sy'n cael ei brynu yng Nghymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 15/09/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

6 P-05-1002 Dylid rhoi seibiant treth stamp o ran pob tŷ sy’n cael ei brynu yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf ac, yn sgil yr ymateb i’r ddeiseb a roddwyd gan y Gweinidog Cyllid a’r ddadl yn y Cyfarfod Llawn sydd ar ddod ynghylch rheoliadau perthnasol Llywodraeth Cymru lle gall aelodau unigol ofyn cwestiynau, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb, gan ddiolch i’r deisebydd.