Cyfarfodydd

P-05-1000 Ei gwneud yn orfodol i hanesion pobl dduon a POC y DU gael eu haddysgu yng nghwricwlwm addysg Cymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 09/05/2022 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 4)

4 P-05-1000 Ei gwneud yn orfodol i hanesion pobl dduon a POC y DU gael eu haddysgu yng nghwricwlwm addysg Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nodwyd y papur.

 


Cyfarfod: 20/09/2021 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-05-1000 Ei gwneud yn orfodol i hanesion pobl dduon a POC y DU gael eu haddysgu yng nghwricwlwm addysg Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb hon ochr yn ochr â deiseb P-05-1080 Cyflwyno deunyddiau addysgu gwrth-hiliol i blant mewn ysgolion yng Nghymru er mwyn lleihau troseddau casineb a chytunodd i groesawu'r ffaith bod y Gweinidog Addysg wedi derbyn adroddiad cynhwysfawr y Gweithgor a 51 o’i argymhellion ym mis Mawrth 2021 a:

  • bod y ddwy ddeiseb wedi llwyddo i dynnu sylw at yr angen i wella gwybodaeth a dealltwriaeth o brofiadau a chyfraniadau cymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yng Nghwricwlwm Cymru,
  • diolch i’r deisebydd am dynnu sylw at y materion pwysig hyn a chau’r deisebau; ac

·         wrth gau'r ddeiseb, cytunodd yr aelodau i ysgrifennu at y Gweinidog i gael y wybodaeth ddiweddaraf am roi'r argymhelliad ar waith ddiwedd mis Mawrth 2022, gan gytuno i rannu'r ymateb hwnnw â'r deisebwyr.

 


Cyfarfod: 16/03/2021 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-1000 Ei gwneud yn orfodol i hanesion pobl dduon a POC y DU gael eu haddysgu yng nghwricwlwm addysg Cymru.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriwyd y ddeiseb hon ochr yn ochr â'r ddeiseb P-05-1080 Cyflwyno deunyddiau dysgu gwrth-hiliaeth i blant mewn ysgolion yng Nghymru i leihau troseddau casineb.

 

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y deisebau, a chytunodd i drosglwyddo'r deisebau i'w bwyllgor olynol yn dilyn Etholiad y Senedd, i'w alluogi i barhau i graffu ar ddatblygiad adnoddau addysgu newydd ac anghenion dysgu proffesiynol.

 


Cyfarfod: 03/11/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-1000 Ei gwneud yn orfodol i hanesion pobl dduon a POC y DU gael eu haddysgu yng nghwricwlwm addysg Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i nodi’r ohebiaeth a gafwyd cyn y ddadl ar y ddeiseb yn y Cyfarfod Llawn a drefnwyd ar gyfer 4 Tachwedd, ac y byddai’n dychwelyd at y ddeiseb ar ôl y ddadl honno.

 

 


Cyfarfod: 15/09/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

6 P-05-1000 Ei gwneud yn orfodol i hanesion pobl dduon a POC y DU gael eu haddysgu yng nghwricwlwm addysg Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes i ofyn am amser i gynnal dadl ar y cyd yn y Cyfarfod Llawn ar y ddeiseb hon a deiseb P-05-992 Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i greu corff cyffredin o wybodaeth am Hanes Cymru fydd pob disgybl yn ei ddysgu.