Cyfarfodydd

P-05-992 Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i greu corff cyffredin o wybodaeth am Hanes Cymru fydd pob disgybl yn ei ddysgu

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 15/12/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-992 Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i greu corff cyffredin o wybodaeth am Hanes Cymru fydd pob disgybl yn ei ddysgu

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i nodi'r cyfraniadau a wnaed yn ystod y ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar 4 Tachwedd, yr ymatebion ysgrifenedig a gafwyd, a'r argymhelliad ynglŷn â hanes Cymru a wnaed gan y Pwyllgor PPIA yn ei adroddiad craffu Cyfnod 1 ar y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru).

 

Gan fod dadl bellach wedi’i chynnal, mae gwaith craffu yn cael ei wneud gan bwyllgor arall, a chan fod Estyn yn cynnal adolygiad o’r modd yr addysgir hanes Cymru, daeth y Pwyllgor i’r casgliad nad oes llawer pellach y gallai’r Pwyllgor Deisebau ei gyflawni ar hyn o bryd. Cytunodd i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd am ei ymgyrchu parhaus ar y pwnc hwn.

 


Cyfarfod: 03/11/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-992 Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i greu corff cyffredin o wybodaeth am Hanes Cymru fydd pob disgybl yn ei ddysgu

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i nodi’r ohebiaeth a gafwyd cyn y ddadl ar y ddeiseb yn y Cyfarfod Llawn a drefnwyd ar gyfer 4 Tachwedd, ac y byddai’n dychwelyd at y ddeiseb ar ôl y ddadl honno.

 

 


Cyfarfod: 15/09/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

6 P-05-992 Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i greu corff cyffredin o wybodaeth am hanes Cymru fydd pob disgybl yn ei ddysgu

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:

 

·         ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes i ofyn am amser i gynnal dadl ar y cyd yn y Cyfarfod Llawn ar y ddeiseb hon a deiseb P-05-1000 Ei gwneud yn orfodol i hanesion pobl dduon a POC y DU gael eu haddysgu yng nghwricwlwm addysg Cymru;

·         ysgrifennu at y Gweinidog Addysg i ofyn am ragor o fanylion ynghylch y gwaith sy’n cael ei wneud i gomisiynu adnoddau newydd i gefnogi addysgu hanes Cymru yn y cwricwlwm newydd; ac

·         ysgrifennu at Estyn i ofyn am fanylion ynghylch y gwaith y byddant yn ei wneud fel rhan o’u hadolygiad o hanes Cymru.