Cyfarfodydd

P-05-991 Sicrhewch fod sticer ar gael i ddangos eich bod yn byw yng Nghymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 15/09/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 P-05-991 Sicrhewch fod sticer ar gael i ddangos eich bod yn byw yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a nododd ei bod yn glir nad yw’r Llywodraeth yn bwriadu gweithredu’r hyn a gynigiwyd. Cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb, gan ddiolch i'r deisebydd am godi mater dilys.

 

Wrth wneud hynny, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu yn ôl at Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth i ofyn sut mae’n bwriadu mynd i’r afael â’r mater ehangach a godwyd gan y deisebydd.