Cyfarfodydd
NDM7345 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Covid-19 a Thrafnidiaeth
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 08/07/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 10)
- Gweddarllediad ar gyfer 08/07/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 08/07/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Covid-19 a Thrafnidiaeth
NDM7345 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn croesawu
llacio'r cyfyngiadau diweddar ar deithio yn ystod coronafeirws.
2. Yn cydnabod effaith
andwyol y cyfyngiadau teithio blaenorol ar berthnasoedd personol, iechyd meddwl
a lles pobl, a manwerthwyr.
3. Yn gresynu at
fethiant Llywodraeth Cymru i ddarparu cymorth digonol i weithredwyr bysiau yng
Nghymru yn ystod y pandemig coronafeirws.
4. Yn mynegi siom bod
Llywodraeth Cymru wedi peidio â chefnogi cwmnïau hedfan i hedfan o Faes Awyr
Caerdydd.
5. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i:
a) diystyru'r angen i
gyflwyno gofynion cwarantin i breswylwyr sy'n teithio i Gymru o'r tu mewn i'r
Ardal Deithio Gyffredin;
b) mynd ati ar frys i
adolygu a chynyddu'r cymorth sydd ar gael i weithredwyr bysiau yng Nghymru, er
mwyn eu galluogi i gynyddu amlder a chapasiti
gwasanaethau bysiau i bobl Cymru;
c) hyrwyddo'r broses o
sefydlu llwybrau newydd o Faes Awyr Caerdydd i gyrchfannau diogel ledled y byd
er mwyn ei helpu i lamu yn ôl o'r pandemig coronafeirws.
Gwelliant 1 Rebecca
Evans (Gwyr)
Dileu popeth a rhoi yn
ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi nad yw Coronafeirws wedi diflannu er gwaethaf y ffaith bod y
trosglwyddiad o fewn cymunedau wedi lleihau yn sgil y mesurau sydd wedi’u
cyflwyno. Mae hyn yn cyfiawnhau dull gofalus Llywodraeth Cymru o gydbwyso’r
peryglon i iechyd y cyhoedd â pheryglon economaidd, cymdeithasol ac eraill, gan
gynnwys teithio.
2. Yn cydnabod y
pwysau sylweddol y mae’r Coronafeirws wedi’i roi ar
gyllid Llywodraeth Cymru, a heb hyblygrwydd ychwanegol gan Lywodraeth y DU, mae
buddsoddiad uwch mewn un maes, fel iechyd, cymorth i fusnesau neu drafnidiaeth
yn golygu bod llai o gyllid ar gael ar gyfer meysydd eraill.
3. Yn croesawu’r pecyn
sylweddol o gymorth brys sydd wedi’i gyflwyno gan Lywodraeth Cymru er mwyn
achub cwmnïau bysiau a threnau yng Nghymru yn ystod y pandemig.
4. Yn cydnabod
swyddogaeth bwysig Maes Awyr Caerdydd yn ystod yr argyfwng, gan helpu i gludo
cyflenwadau o gyfarpar diogelu personol i Gymru.
5. Yn nodi gwaith
Llywodraeth Cymru:
a) gyda llywodraethau
eraill datganoledig er mwyn ystyried dull ar draws y pedair gwlad ar gyfer codi
cyfyngiadau teithio rhyngwladol;
b) gyda chwmnïau
bysiau ac awdurdodau lleol er mwyn ystyried cynyddu gwasanaethau mewn modd
priodol a rheoli hyn mewn modd cynaliadwy yn y dyfodol; ac
c) gyda Maes Awyr
Caerdydd er mwyn ystyried llwybrau teithio newydd a diogelu ei ddyfodol fel
rhan o system trafnidiaeth gyhoeddus integredig ar draws Cymru, a hynny er
gwaethaf gwrthwynebiad parhaus gan Lywodraeth y DU mewn maes polisi sydd wedi’i
gadw i raddau helaeth er mwyn sicrhau bod meysydd awyr rhanbarthol oll yn cael
eu trin yn yr un modd.
[Os derbynnir
gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 ei ddad-ddethol]
Gwelliant 2 Siân
Gwenllian (Arfon)
Dileu pwynt 5(a) a
rhoi yn ei le:
'cytuno i sefydlu
pontydd awyr i wledydd eraill pan fydd yn ddiogel gwneud hynny a chadw
trefniadau teithio o dan adolygiad parhaus; '
Gwelliant 3 Caroline
Jones (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu is-bwynt
newydd ar ddiwedd pwynt 5:
'sicrhau bod gwisgo
gorchuddion wyneb yn orfodol ar bob math o drafnidiaeth gyhoeddus; '
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 17.52
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM7345 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn croesawu llacio'r
cyfyngiadau diweddar ar deithio yn ystod coronafeirws.
2. Yn cydnabod effaith andwyol
y cyfyngiadau teithio blaenorol ar berthnasoedd personol, iechyd meddwl a lles
pobl, a manwerthwyr.
3. Yn gresynu at fethiant
Llywodraeth Cymru i ddarparu cymorth digonol i weithredwyr bysiau yng Nghymru
yn ystod y pandemig coronafeirws.
4. Yn mynegi siom bod Llywodraeth
Cymru wedi peidio â chefnogi cwmnïau hedfan i hedfan o Faes Awyr Caerdydd.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i:
a) diystyru'r angen i gyflwyno
gofynion cwarantin i breswylwyr sy'n teithio i Gymru o'r tu mewn i'r Ardal
Deithio Gyffredin;
b) mynd ati ar frys i adolygu a
chynyddu'r cymorth sydd ar gael i weithredwyr bysiau yng Nghymru, er mwyn eu
galluogi i gynyddu amlder a chapasiti gwasanaethau bysiau i bobl
Cymru;
c) hyrwyddo'r broses o sefydlu
llwybrau newydd o Faes Awyr Caerdydd i gyrchfannau diogel ledled y byd er mwyn
ei helpu i lamu yn ôl o'r pandemig coronafeirws.
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
16 |
0 |
39 |
55 |
Gwrthodwyd y cynnig
heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Rebecca
Evans (Gwyr)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi nad yw Coronafeirws wedi diflannu er
gwaethaf y ffaith bod y trosglwyddiad o fewn cymunedau wedi lleihau yn sgil y
mesurau sydd wedi’u cyflwyno. Mae hyn yn cyfiawnhau dull gofalus Llywodraeth
Cymru o gydbwyso’r peryglon i iechyd y cyhoedd â pheryglon economaidd,
cymdeithasol ac eraill, gan gynnwys teithio.
2. Yn cydnabod y pwysau sylweddol y mae’r Coronafeirws wedi’i
roi ar gyllid Llywodraeth Cymru, a heb hyblygrwydd ychwanegol gan Lywodraeth y
DU, mae buddsoddiad uwch mewn un maes, fel iechyd, cymorth i fusnesau neu
drafnidiaeth yn golygu bod llai o gyllid ar gael ar gyfer meysydd eraill.
3. Yn croesawu’r pecyn sylweddol o gymorth brys sydd
wedi’i gyflwyno gan Lywodraeth Cymru er mwyn achub cwmnïau bysiau a threnau yng
Nghymru yn ystod y pandemig.
4. Yn cydnabod swyddogaeth bwysig Maes Awyr Caerdydd yn
ystod yr argyfwng, gan helpu i gludo cyflenwadau o gyfarpar diogelu personol i
Gymru.
5. Yn nodi gwaith Llywodraeth Cymru:
a) gyda llywodraethau eraill datganoledig er mwyn
ystyried dull ar draws y pedair gwlad ar gyfer codi cyfyngiadau teithio
rhyngwladol;
b) gyda chwmnïau bysiau ac awdurdodau lleol er mwyn
ystyried cynyddu gwasanaethau mewn modd priodol a rheoli hyn mewn modd
cynaliadwy yn y dyfodol; ac
c) gyda Maes Awyr Caerdydd er mwyn ystyried llwybrau
teithio newydd a diogelu ei ddyfodol fel rhan o system trafnidiaeth gyhoeddus
integredig ar draws Cymru, a hynny er gwaethaf gwrthwynebiad parhaus gan
Lywodraeth y DU mewn maes polisi sydd wedi’i gadw i raddau helaeth er mwyn
sicrhau bod meysydd awyr rhanbarthol oll yn cael eu trin yn yr un modd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
29 |
0 |
26 |
55 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliannau 2
a 3 eu dad-ddethol
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM7345 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi nad yw Coronafeirws wedi diflannu er
gwaethaf y ffaith bod y trosglwyddiad o fewn cymunedau wedi lleihau yn sgil y
mesurau sydd wedi’u cyflwyno. Mae hyn yn cyfiawnhau dull gofalus Llywodraeth
Cymru o gydbwyso’r peryglon i iechyd y cyhoedd â pheryglon economaidd,
cymdeithasol ac eraill, gan gynnwys teithio.
2. Yn cydnabod y pwysau sylweddol y
mae’r Coronafeirws wedi’i roi ar gyllid Llywodraeth Cymru, a heb
hyblygrwydd ychwanegol gan Lywodraeth y DU, mae buddsoddiad uwch mewn un maes,
fel iechyd, cymorth i fusnesau neu drafnidiaeth yn golygu bod llai o gyllid ar
gael ar gyfer meysydd eraill.
3. Yn croesawu’r pecyn sylweddol o gymorth brys sydd
wedi’i gyflwyno gan Lywodraeth Cymru er mwyn achub cwmnïau bysiau a threnau yng
Nghymru yn ystod y pandemig.
4. Yn cydnabod swyddogaeth bwysig Maes Awyr Caerdydd yn
ystod yr argyfwng, gan helpu i gludo cyflenwadau o gyfarpar diogelu personol i
Gymru.
5. Yn nodi gwaith Llywodraeth Cymru:
a) gyda llywodraethau eraill datganoledig er mwyn
ystyried dull ar draws y pedair gwlad ar gyfer codi cyfyngiadau teithio
rhyngwladol;
b) gyda chwmnïau bysiau ac awdurdodau lleol er mwyn
ystyried cynyddu gwasanaethau mewn modd priodol a rheoli hyn mewn modd
cynaliadwy yn y dyfodol; ac
c) gyda Maes Awyr Caerdydd er mwyn ystyried llwybrau
teithio newydd a diogelu ei ddyfodol fel rhan o system trafnidiaeth gyhoeddus
integredig ar draws Cymru, a hynny er gwaethaf gwrthwynebiad parhaus gan
Lywodraeth y DU mewn maes polisi sydd wedi’i gadw i raddau helaeth er mwyn
sicrhau bod meysydd awyr rhanbarthol oll yn cael eu trin yn yr un modd.
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
29 |
4 |
22 |
55 |
Derbyniwyd y cynnig
fel y’i diwygiwyd.